Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru
teitl cynhadledd lansio


Cafwyd trefn newydd i’r Gynhadledd Genedlaethol eleni a gynhaliwyd ar un diwrnod yn unig yn hytrach na’r ddau ddiwrnod arferol. Y canlyniad oedd bod rhaid rhuthro drwy’r sesiynau gan golli’r adegau amhrisiadwy hynny i sgwrsio, cyfnewid syniadau a rhannu profiadau. Wedi dweud hynny, roedd y gynhadledd yn llwyddiannus iawn fel arall a darparwyd nifer o sesiynau defnyddiol iawn i’r tiwtoriaid.

Rhoddwyd tipyn o sylw i adnoddau newydd yn y gynhadledd a chawsom ein cyflwyno i’r cwrs Cymraeg o’r Crud a hefyd i adnodd newydd yr Amgueddfa Genedlaethol, Geiriau Glo.

cloriauYn ogystal, lansiwyd y pecyn Dysgu Trwy Lenyddiaeth gan CBAC sy’n cynnwys gweithgareddau yn seiliedig ar lenyddiaeth ar gyfer pob lefel, ac a luniwyd gan Cyril Jones.
Cafodd pob tiwtor hefyd gyfle i fachu copi o’r pecyn newydd sbon, Detholiad o’r Tiwtor. Mae’r llyfryn hwnnw’n cynnwys y goreuon o’r adnoddau addysgu sydd ar gael ar wefan Y Tiwtor, ac mae ar gael yn rhad ac am ddim i bob tiwtor sydd wedi cofrestru ar gronfa ddata CBAC o diwtoriaid.


Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi cofrestru eto er mwyn cael eich copi chi o’r Detholiad o’r Tiwtor. Mae’r ffurflen gofrestru ar gael drwy glicio ar y ddolen isod, ac yna ebostiwch cymraegioedolion@cbac.co.uk

llun lansio1Un o’r sesiynau eraill sydd yn aros yn y cof yw’r cyflwyniad a gafwyd gan Dr. Enlli Thomas o Brifysgol Bangor. Roedd hi’n ceisio taclo’r systemau cymhleth yn y Gymraeg ac yn edrych yn benodol ar gaffaeliad plant. Codwyd ganddi nifer o gwestiynau allweddol megis:

Aeth ymlaen wedyn i ymhelaethu ar y tair system gymhleth sydd yn y Gymraeg ac ymateb y plant iddynt, sef:

Edrychodd hefyd ar y defnydd a wneir gan oedolion o’r systemau iaith hynny, ac edrychwn ninnau ymlaen yn eiddgar at weld mwy o ganlyniadau maes o law.

llinell

llun lansio 2Efallai mai’r sesiwn fwyaf buddiol oedd y sesiwn ddwy awr gan RSC Cymru (Regional Support Centre Wales). Soniwyd yn y sesiwn hon am dechnoleg newydd sy’n addas i’r maes dysgu iaith. Sesiwn ymarferol oedd hi yn cynnig cyfle i ddatblygu adnoddau a gweithgareddau ar-lein. Rhannwyd y grŵp yn ddau, gydag un grŵp yn edrych ar dechnoleg sain gan ddysgu sut mae defnyddio rhaglen Audacity i greu ffeiliau WAV / MP3.  Roedd y grŵp arall yn edrych ar sut y gellir defnyddio rhaglenni ar-lein i greu adnoddau dysgu gweledol a rhyngweithiol e.e. Hot Potatoes. Roedd y sesiwn yn werthfawr iawn gyda’r cynorthwywyr yn amyneddgar tu hwnt! Os am weld holl gynnyrch RSC ewch i’r wefan:
www.moodle.rsc-wales.ac.uk

Ar ôl treulio dwy awr cynhyrchiol iawn yng nghwmni arbenigwyr technegol, roedd yn braf cael eistedd nôl a gwrando’n wrthrychol ar Emyr Davies, CBAC, yn olrhain y datblygiadau diweddaraf i’r arholiad Uwch. Yn dilyn hynny, cafwyd syniadau defnyddiol gan Steve Morris a Heini Gruffudd ynglŷn â darparu cyfleoedd i’r dysgwyr gymdeithasu, a sut y gellir cael y budd mwyaf o’r canolfannau iaith a’r mentrau iaith. 

Cynhaliwyd nifer o sesiynau eraill hefyd a oedd yn cynnig gwahanol safbwyntiau ac roedd rhywbeth at ddant pawb, waeth beth yw eich rôl yn y maes dysgu Cymraeg i oedolion.

Cliciwch yma ar gyfer y ffurflen gofrestru

      llun lansio3