Yn wreiddiol daw Peter Arnold o Gaergrawnt a bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd fel peiriannydd meddalwedd hunan-gyflogedig. Symudodd i Gymru bedair blynedd yn ôl gan ddechrau dysgu Cymraeg yn syth ac erbyn hyn mae Peter wedi cyrraedd lefel Canolradd. Wrth i’w sgiliau Cymraeg ddatblygu, gwelodd gyfle i ddefnyddio’i brofiad a’i wybodaeth o feddalwedd gyfrifiadurol yn y maes Cymraeg i oedolion. Y syniad gwreiddiol oedd datblygu meddalwedd ar ei gyfer ef ei hun, i’w helpu i gofio geiriau Cymraeg. Ond wrth arbrofi gyda’r feddalwedd yn y dosbarth Cymraeg, sylweddolodd yn fuan y gall yr adnodd fod yn ddefnyddiol iawn i ddysgwyr eraill hefyd.
Adnodd i brofi geirfa yw Geirfa, sef y cymhwysiad arbennig hwn y mae Peter Arnold wedi ei greu o’r newydd. Mae’n cynnwys yr holl eirfa sydd yn ymddangos yn y llyfrau cwrs Mynediad a Sylfaen ac ar hyn o bryd mae’n gweithio ar eirfa’r cwrs Canolradd.
Ceir nifer o bosibiliadau a gellir dewis yr opsiwn sydd fwyaf addas i bob unigolyn e.e. medrwch brofi eich hunan ar nifer fach o eiriau yn ymwneud â thema arbennig, neu medrwch brofi eich hunan ar eich casgliad cyfan o eiriau. Medrwch hefyd ddewis yr eirfa a geir mewn uned arbennig o’r llyfrau cwrs neu mewn setiau o 5 uned, neu hyd yn oed yr eirfa a geir yn y cwrs cyfan. Mae’r geiriau wedi eu gosod mewn ffeiliau cyffredin fel y gellir gwneud addasiadau yn ôl ardal a thafodiaith. Gellir hefyd ychwanegu unrhyw eiriau newydd ac ymadroddion yn ôl yr angen, ac mae’n hawdd iawn rhannu’ch geirfa arbennig chi gydag eraill.
Am fwy o fanylion ewch i’r wefan: http://www.interruptroutine.co.uk/geirfa/
Medrwch brynu’r rhaglen hon o’r wefan uchod am £5.00 ond mae’n bosib gweld sut mae’r cymhwysiad yn gweithio cyn prynu’r rhaglen. Fel y nodir ar y wefan, caiff yr adnodd ei ddiweddaru’n gyson ac mae ychydig o waith golygu i’w wneud o hyd. Ond ar ôl y gwaith diwygio, mae’n siŵr y bydd y cymhwysiad hwn yn ddefnyddiol iawn ac yn torri tir newydd yn y maes dysgu iaith, yn enwedig o gofio ei fod hefyd yn cynnwys opsiynau i edrych ar ymadroddion a phwyntiau gramadegol pob uned.
Am ddim!
Os hoffech chi gael fersiwn mwyaf diweddar Geirfa, mae gan Y Tiwtor 5 copi i’w dosbarthu yn rhad ac am ddim. Anfonwch eich enw a chyfeiriad e-bost atom cyn 1 Ionawr 2011, a’r 5 enw cyntaf allan o’r het y diwrnod hwnnw fydd yn ennill y rhaglen ddefnyddiol hon.