Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

sgiliau cymru

Soniwyd eisoes am brosiect i greu arfau diagnostig ar gyfer mesur sgiliau iaith Cymraeg yn y Gweithle.  Os cofiwch chi, bwriad y porthol ar-lein hwn fydd i alluogi gweithleoedd a’r sector preifat i wneud y canlynol:

Felly, er mwyn cael blas ar sut fydd yr erfyn diagnostig mesur sgiliau yn gweithio, bydd Glenda Brown yn treialu fersiwn llai o hyn ar stondin CBAC yn nigwyddiad sgiliaucymru eleni yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd 16 – 18 Medi. 

Mae sgiliaucymru yn rhan o ymgyrch fawr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gyda Chronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), i hybu adferiad y wlad o’r arafu economaidd drwy baratoi’r boblogaeth ar gyfer oes newydd ble bydd angen llawer o sgiliau.

Mae mwy na thri deg o arddangoswyr, pedwar noddwr (Learndirect, OCR, City & Guilds, a CBAC) a bron 9,000 o ymwelwyr (50 o ysgolion a cholegau) eisoes wedi cofrestru ar gyfer sgiliaucymru ac, yn ôl y disgwyl, dyma fydd y digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf a welwyd yng Nghymru erioed.  Mae sgiliaucymru felly ar y ffordd i gyflawni’r targed a osodwyd, sef denu 100 o arddangoswyr ac 20,000 o ymwelwyr.

serenBydd y digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac yn targedu’r sawl sy’n chwilio am sgiliau - o bobl ifanc 14 oed i bobl yn eu 60au - gan roi gwybod iddynt am y cyfleoedd gyrfa sy’n bodoli yng Nghymru ar hyn o bryd yn ogystal â’r rhai sy’n dechrau dod i’r amlwg.  Mae hefyd yn ddigwyddiad rhyngweithiol ble y cewch brofiad uniongyrchol o’r llu o arddangosiadau cyffrous. 

Does unman yn well felly i dreialu'r erfyn diagnostig i fesur sgiliau Cymraeg.  Bydd modd i’r ymwelwyr ymgymryd â phrawf ymaddasiadol ar-lein i fesur eu sgiliau darllen a deall a gwrando. Gwnânt hyn drwy ateb cyfres o gwestiynau fydd yn mynd yn fwy anodd os caiff yr ymwelydd yr ateb yn gywir, neu’n fwy syml os bydd yr ateb yn anghywir. 

Yn ogystal â’r prawf ar-lein, bydd cyfle i’r ymwelwyr chwarae gêm i brofi eu sgiliau siarad h.y. bydd un ymwelydd yn rhoi cyfarwyddiadau yn y Gymraeg i ymwelydd arall i dynnu llun o rywbeth neu i ffeindio’i ffordd ar fap, heb i’r ymwelydd sy’n dilyn y cyfarwyddiadau wybod llun o beth mae’n ei dynnu neu heb iddo weld y map.

Bydd canlyniadau’r prawf yn rhoi syniad iddynt o’u lefel yn y Gymraeg (yn ôl lefelau Cymraeg i Oedolion) ar gyfer ei defnyddio fel sgil pan fyddent yn ceisio am swyddi.  Hefyd, bydd yn gyfle i gynnig cyngor i’r ymwelwyr ar sut i wella eu Cymraeg a pha gyrsiau a chymwysterau Cymraeg i Oedolion sydd ar gael.

Yn ogystal â chael y cyfle i dreialu’r erfyn diagnostig, bwriedir manteisio ar y cyfle i glymu hyn gyda’r prosiect Iaith ar Waith hefyd. 

O fis Medi 2009 mae CBAC wedi bod yn cynnig cymhwyster galwedigaethol arloesol ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sy'n Gymry Cymraeg neu'n ddysgwyr.

serenCymhwyster cyfoes i rai dros 16 oed yw Iaith ar Waith y bwriedir ei astudio gyda phynciau galwedigaethol. Mae'n galluogi'r myfyrwyr i wella eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig ac ennill cymhwyster cydnabyddedig fel tystiolaeth o'u gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle. Bydd y cwrs yn dysgu'r myfyrwyr yn benodol i ddelio'n effeithiol â chwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg, a’u galluogi i ymateb i amrywiol sefyllfaoedd yn y gweithle.  Lluniwyd Iaith ar Waith i gyd-fynd â'r cymwysterau galwedigaethol eraill neu, gellir ei astudio fel rhan o fodiwl iaith Bagloriaeth Cymru.

Os hoffech fwy o fanylion am ddigwyddiad sgiliaucymru ewch i www.sgiliaucymru.co.uk .  Am ragor o wybodaeth am y prosiect arfau diagnostig Cymraeg yn y Gweithle, cysylltwch â Glenda Brown, Swyddog Asesiadau Cymraeg yn y Gweithle ar 02920 265348, neu e-bostiwch Glenda.brown@cbac.co.uk

 

llinell