Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

cyfrolau gan ddysgwyr

Cyhoeddir dwy gyfrol gan ddysgwyr gan Y Lolfa erbyn yr eisteddfod eleni. Yn gyntaf cyhoeddir cyfrol o ysgrifau gan Mairwen Thorne, a astudiodd Gymraeg ar gwrs Gradd Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ffrwyth ei chwrs ysgrifennu creadigol yw'r gyfrol o'r enw Y Daith ac mae'r digwyddiadau a'r cymeriadau yn wir, fel y'u gwelir drwy lygaid yr awdur, ond gyda sblash o liw o bryd i'w gilydd. Mae'r gyfrol wedi'i rhannu'n ddwy ran - y gyntaf yn sôn am deithiau i Awstralia a chymysgu â brodorion lliwgar y wlad honno; a'r ail ran yn olrhain hanes angladdau yng nghymoedd De Cymru, gydag arlliw o hiwmor du.

Casgliad o gerddi gan Susan May yw’r ail gyfrol. Teitl y gyfrol yw 'Cerddi'r Galon: Telynegion gan ddysgwraig i ddysgwyr'.

Mae'r gyfrol yn cynnwys cerddi hyfryd am brofiadau'r awdures ac am ei chariad at Faesteg a chymoedd De Cymru. Enillodd yr awdures Gadair y Dysgwyr yn Eisteddfod 2001. Byddai dysgwyr ar lefel canolradd yn medru cael budd mawr o’r gyfrol hon a cheir geirfa i gyd-fynd â'r cerddi hefyd, sydd yn ddefnyddiol iawn.

Lefi Gruffudd
lefi@ylolfa.com

 

llinell