Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

lansio'r ffeil hyfedredd


Dyma gasgliad o adnoddau gan CBAC a fydd yn ddefnyddiol i diwtoriaid sy’n dysgu ar gyrsiau Cymraeg Graenus neu Gloywi Iaith, ac sy’n paratoi ymgeiswyr i sefyll y cymhwyster Tystysgrif mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg.  Bydd yr adnoddau a’r cymhwyster yn helpu’r myfyrwyr i wella nifer o agweddau ar eu defnydd o’r Gymraeg.

llinell

Y Cymhwyster

Rhennir y cymhwyster Tystysgrif mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg yn bum uned, wedi eu rhannu’n gyfartal.  Mae pob uned yn orfodol i ennill y cymhwyster llawn, ond gall ymgeiswyr ddewis wneud un neu fwy o unedau ar y tro, a’u gwneud ym mha drefn bynnag a fynnont, dros gyfnod o flwyddyn, dwy flynedd neu fwy. 

Gallant ddefnyddio eu profiadau yn y gweithle fel tystiolaeth o’r hyn y maen nhw’n gallu ei wneud, neu ddefnyddio tasgau sy’n efelychu’r sgiliau hynny.  Os nad yw’r unigolyn mewn gwaith neu’n astudio llawn amser, gellir defnyddio maes diddordeb arbenigol yn hytrach na phrofiadau sy’n deillio o gyd-destun gwaith.  Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sy’n medru’r Gymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith.  Ceir enghreifftiau a rhagor o fanylion yn y fanyleb i diwtoriaid, ar wefan CBAC.

Dyma’r unedau:
1. Cyflwyno
2. Cyfieithu a Thrawsieithu
3. Crynhoi a Gwerthuso
4. Project Ymchwil
5. Ysgrifennu Graenus

llinell

Y Ffeil

Mae’r adnoddau yn y ffeil yn dilyn yr un drefn, ac yn adlewyrchu cynnwys yr unedau yn y fanyleb. Mae’r 4 awdur wedi creu deunydd arbennig, sef Heini Gruffudd, Elin Meek, Eiry Miles, Steve Morris.
Adnodd i’r tiwtor ei ddefnyddio yn y dosbarth yw hwn, nid i’r myfyriwr unigol ei ddefnyddio ar ei ben ei hun.  Ni roddir atebion, er bod rhai atebion enghreifftiol i’w cael, lle gallai hynny fod o ddefnydd.  Er hwylustod, darperir yr holl unedau ar ffurf electronig hefyd, mewn ffeiliau Word ar CD o fewn clawr y ffeil, er mwyn galluogi’r tiwtor i addasu’r taflenni fel y bo’r angen.  Ar y CD, mae 5 ffeil electronig ar ffurf Word, yn cyfateb i’r unedau yn y ffeil ei hun.

Ar yr ail CD ceir ffeiliau sain, ac mae’r rhain ar gyfer tasgau trawsieithu (Uned 2) a thasgau crynhoi a gwerthuso (Uned 3).

Ar y lefel hon, mae anghenion a chefndir ieithyddol y rhai sy’n dod ar y cyrsiau’n amrywio’n fawr.  Rhaid i’r tiwtor ddethol o’r adnoddau a gynhwysir yn y ffeil a’u haddasu.  Ceir mynegai i’r gweithgareddau, ond nid oes rhaid dilyn y drefn a nodir ac nid oes rhaid gwneud pob tasg.  Mae rhai o’r tasgau a awgrymir yn addas i’w defnyddio fel tystiolaeth efelychiadol o’r hyn y mae’r ymgeiswyr yn gallu ei wneud.

llun hyfedreddYn uchafbwynt i’r gwaith o lunio’r Ffeil Hyfedredd, felly, bydd CBAC yn lansio’r Ffeil yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent, ddydd Sadwrn 31 Gorffennaf, ym Maes D, yn syth ar ôl cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr am 1.00 yp. Mae croeso cynnes i bawb a bydd cyfle i chi brynu copi o’r Ffeil ar y diwrnod.

Ewch i adran Deunydd Dysgu y wefan hon, ac yn benodol i’r archif, i weld mwy o dasgau ac adnoddau ychwanegol defnyddiol ar gyfer lefel Hyfedredd.
Dylai tiwtoriaid sy’n cyflwyno’r cymhwyster edrych hefyd ar y fanyleb sydd ar wefan CBAC:
www.cbac.co.uk (mynd i ‘Gymraeg i Oedolion’ a dewis lefel Hyfedredd)

 

llinell