Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

llun big pit

 

 

Bydd sawl adnodd a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi dysgwyr a thiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn cael eu lansio ar faes yr Eisteddfod eleni yng Nglyn Ebwy. 

Dydd Sadwrn, 31 Gorffennaf,
Maes D – Ffeil Hyfedredd, CBAC

Ffeil gynhwysfawr o adnoddau wedi ei hanelu at diwtoriaid i’w cynorthwyo i ddysgu cyrsiau Cymraeg Graenus neu Gloywi Iaith, ac sy’n paratoi ymgeiswyr i sefyll y cymhwyster Tystysgrif mewn Hyfedredd Iaith: Defnyddio’r Gymraeg. Mae’r adnodd yn cynnwys CD o’r ffeil gyfan ar ffurf Word yn ogystal â chryno ddisg o ddarnau gwrando. Mae ar gael i’w brynu yn awr drwy eich siop lyfrau leol, siop lyfrau CBAC (www.cbac.co.uk/siop) neu drwy www.gwales.com.

Dydd Sul, 1 Awst, Maes D – Cymraeg o’r Crud, Prifysgol Bangor

Pecyn ‘blasu’ ar gyfer rhieni newydd sydd â diddordeb dysgu Cymraeg. Mae’r gyfres yn cynnwys 10 o sesiynau, pob un sesiwn ar thema neilltuol yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith naturiol i’w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc. Bydd yr adnoddau ar gael am ddim i diwtoriaid, trwy’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion.

 

Dydd Iau, 5 Awst, Maes D – Pecyn Dysgu Cymraeg Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

llun big pit 2Cyfle i ddysgu dan ddaear! Bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn lansio pecyn newydd sbon ar gyfer lefelau Mynediad a Sylfaen. Mae’r pecyn yn adeiladu ar lwyddiant pecynnau eraill Amgueddfa Cymru (Llwybrau Llafar, Camau Cymraeg, Gwau Geiriau, Perthyn). Bydd y pecyn, wedi’i ysgrifennu gan Cennard Davies, yn galluogi oedolion i ymweld â’r Amgueddfa i ymarfer eu sgiliau iaith tra’n dysgu am hanes a diwylliant Cymru. Bydd copïau ar gael trwy’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion, ac ar lein yn rhad ac am ddim.

 

Dydd Gwener, 6 Awst, Maes D – DVD Cymru a Chymreictod, BBC Cymru

llun clawr eclipsDVD sy’n cynnwys clipiau o archif BBC Cymru ar gyfer lefel Uwch ar themâu megis: Cyfryngau, Daearyddiaeth a Thirlun, Digwyddiadau Hanesyddol, Llenyddiaeth, yr Iaith Gymraeg, Traddodiadau. Mae’r clipiau wedi’u dethol gan Elwyn Hughes, sydd hefyd wedi ysgrifennu nodiadau tiwtor i gyd-fynd â’r pecyn. Bydd copïau o’r DVD yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim trwy’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion. Bydd y clipiau hefyd ar gael ar www.bbc.co.uk/wales/eclips.

 

 

llinell

teitl maes D

gan Jo Knell

Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010. Bydd hi’n wythnos brysur iawn ym Maes D ac mae gennym raglen gyffrous iawn ar gyfer dysgwyr, tiwtoriaid a Cymry Cymraeg!

Fe sylwch fod Gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal ddwywaith bob dydd ym Maes D.  Bydd gwersi ar dair lefel ar gael:  dechreuwyr pur, Lefel Mynediad, a Lefel Sylfaen/Canolradd.  Ar yr un pryd â’r gwersi cynigir sesiynau o ddiddordeb i ddysgwyr mwy profiadol a siaradwyr rhugl, megis cyflwyniad i’r gynghanedd gyda Myrddin ap Dafydd, trafodaeth ar Enwau Lleoedd Blaenau Gwent gyda Frank Olding, a sgwrs am Y Mabinogi gyda’r Athro Sioned Davies. Gobeithio bydd y sesiynau hyn yn denu cynulleidfa ehangach o Gymry Cymraeg hefyd. 

Bob nos bydd eitem cerddorol gyda ni am 6pm felly dewch draw i fwynhau nosweithiau hafaidd Cymreig yng nghwmni Brigyn, Pedwarawd Llinynnol Mavron a’r Betti Galws, ymysg eraill. 

Hefyd, fe fydd Phyl Griffiths o Siop y Ganolfan ym Merthyr Tudful yn cynnal stondin lyfrau ym Maes D trwy gydol wythnos yr Eisteddfod. Dyma’ch cyfle i brynu holl adnoddau Cymraeg i Oedolion, yn ogystal â chopïau o'r Ffeil Hyfedredd fydd yn cael ei lansio ym Maes D ar 31 Gorffennaf.

logo eisteddfodEleni bydd Maes D ar agor bob dydd o 9 o’r gloch y bore tan 7.30 y nos, heblaw am ddydd Mercher 4 Awst pan fyddwn yn cau am 5 o’r gloch er mwyn i bawb fynd draw i Lanhiledd ar gyfer Noson Dysgwr y Flwyddyn sy’n dechrau am 7pm. Cynhelir y noson eleni yn Sefydliad y Glöwyr Llanhiledd.  Arweinydd y noson yw Garry Owen, BBC, ac fe fydd bwffe a thwmpath gyda Jac-y-Do. 

Edrychwn ymlaen at Eisteddfod brysur a llwyddiannus, a diolch am eich cefnogaeth.

 

llinell