Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun Rhiain Bebb

Merch y byd gwerin yw Rhiain Bebb.
A hithau’n delynores o diwtor, fe glywir swyn y tannau yn aml yn hudo’i dosbarthiadau.

Merch leol a gafodd ei geni yn Llanbrynmair a’i magu yn Nhalyllyn. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Corris Uchaf ac Ysgol Uwchradd Towyn. Ar ôl astudio Addysg yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, treuliodd flynyddoedd lawer yn athrawes yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Pontypridd. Yn y cyfnod hwnnw y cafodd ei diddordeb yn y byd dawnsio gwerin ei gynnau gyda hithau’n cyfeilio i nifer o dimau yn yr ardal yn ogystal â sefydlu tîm dawnsio gwerin yn yr ysgol. Cafodd flas ar ddysgu Cymraeg i oedolion bryd hynny, yn ogystal, wrth gynnal dosbarth nos i rieni’r ysgol, a phan symudodd yn ôl i Dalyllyn yn y nawdegau dyma fwrw ati o ddifrif i fod yn diwtor.

Pe byddech chi wedi teithio trwy ardal Talyllyn yn y cyfnod hwnnw mae’n bosib y byddech chi wedi dod ar draws caffi go arbennig. Bu Rhiain hefyd yn cadw caffi am ryw 5 mlynedd, gan gynnal sesiynau Cymraeg i ymwelwyr yn y prynhawniau. Cawsant gyfle i ddysgu’r Wyddor Gymraeg a chanu hen alawon Cymraeg i gyfeiliant y delyn. Sesiynau hwyl go iawn, mae’n siwr, a phwy a ŵyr faint o ddarpar ddysgwyr a ysbrydolwyd bryd hynny.

Erbyn hyn mae Rhiain yn byw ym Machynlleth a bu’n gweithio dan arweiniad Shirley Williams am nifer o flynyddoedd gan fwynhau dysgu dosbarthiadau Wlpan fwyaf. Mae dwyster y cwrs yn apelio ati ac ar hyn o bryd mae’n diwtor ffracsiynol (0.5). Gyda’r Ysgol Haf ar y gorwel hefyd, a thros 100 o ddysgwyr, nid oes amser i laesu dwylo. Fe gysylltir ei henw’n aml iawn â gweithgareddau Dysgu Anffurfiol ac mae ei phrysurdeb yn y maes hwnnw’n ddiarhebol. Rhydd bwyslais mawr ar gyflwyno’r diwylliant cynhenid i ddysgwyr ac mae’n un o hoelion wyth y Clwb C ym Machynlleth sy’n cwrdd bob mis. Llwyddodd i ddwyn perswâd ar nifer fawr o’u dysgwyr y llynedd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol – yn unigolion, partïon llefaru a chorau. Mae’n ymfalchïo’n fawr yn ymdrechion ei dosbarthiadau, gan gydnabod bod y Cythraul Canu hefyd yn effeithio ar ddysgwyr! Dywed fod llawer ohonynt yn cystadlu eto eleni (yn ddigymell y tro hwn!), a hynny yw gwir fesur llwyddiant.

Mae Rhiain yn fyrlymus wrth sôn am y digwyddiadau dysgu anffurfiol sydd ar y gweill: mwy o sesiynau canu cymdeithasol gyda’r accordion; sesiynau canu a gemau gydag aelodau Merched Y Wawr a thaith gerdded o gwmpas Machynlleth gydag Andrew Lambeth, sef sylfaenydd Tabernacl Machynlleth, sydd wedi dysgu Cymraeg erbyn hyn.

Mae’n bur amlwg fod cerddoriaeth ac iaith, i Rhiain, yn mynd law yn llaw, gyda’r naill yn cynnal y llall. Dysgu’r delyn, cynnal sesiynau yn Nhŷ Siamas a chyfeilio i dimau dawnsio gwerin sy’n hawlio cyfran helaeth o’i hamser, ond mae hi hefyd yn aelod o gôr telynau o’r enw ‘Rhes Ganol,’ ac mae’r 5 aelod yn arbenigo mewn hen alawon Cymraeg.

Y byd gwerin yw ei byd hi, felly, a’i bwriad yw cyflwyno’r byd hwnnw yn ei gyfanrwydd i’w dysgwyr. Yn ei barn hi, dyma’r ffordd orau i roi cefndir diwylliannol iddynt fydd yn eu galluogi i adael y dosbarth maes o law, ac integreiddio.

Ac yn sicr mae hi wedi llwyddo i wneud hynny.

 

llinell