Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl adnoddau

 

cant y cantCant y Cant
Bydd y llyfr Cant y Cant gan R. Alun Charles yn cael ei lansio ddydd Gwener, 6 Awst am 2 o'r gloch, ym Maes D, Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd. Croeso cynnes i bawb a chyfle da i holi’r awdur.

Y syniad tu ôl i’r gyfrol yw cynnwys cant o ddarnau a phob un yn gant o eiriau o hyd ar bob math o wahanol feysydd, ac nid dim ond pethau’n ymwneud â Chymru a’r Gymraeg chwaith. Mae’r adran ar ganolfannau chwaraeon yn cynnwys cant o eiriau am Barc Croke a Madison Square Gardens yn ogystal â Lord’s a Stadiwm y Mileniwm.
I helpu’r darllenwr Cymraeg dihyder, mae geirfa ar waelod y dudalen a digon o arddulliau gwahanol, yn llythyron, deialogau a disgrifiadau hyfryd, i roi cymorth i ddysgwyr arfer â gweld y Gymraeg yn cael ei hysgrifennu.

llinell

llanw bwlchLlanw Bwlch
Mae Llanw Bwlch yn fwy na hunangofiant: mae’n agoriad llygad.

Ar ôl cyfnod o 40 mlynedd fel un o hoelion wyth dysgu’r Gymraeg fel ail iaith, mae John Albert Evans yn mynegi ei farn yn blwmp ac yn blaen am rai o sefydliadau mwyaf parchus y genedl. Sefydliadau sy’n cynnwys ysgolion Caerdydd a de-ddwyrain Cymru, yr Urdd a Nant Gwrtheyrn.

Wrth ein tywys ar ei siwrnai o gefn gwlad Ceredigion i’r brifddinas, a thu hwnt i honno i bellafoedd America ac Awstralia, mae’r awdur yn cwmpasu cyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru, ac yn codi llen ar un o lwyfannau cudd y 1960au a’r 1970au wrth i ddrama tynged yr iaith Gymraeg gael ei hysgrifennu y tu ôl i ddrysau caeedig. Dyma atgofion difyr, ac o bosibl, dadleuol.

llinell

Diweddaru Gwrando’n Astud

Cyhoeddwyd CD 'Gwrando'n Astud' gan BBC Cymru yn 2007 fel adnodd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i'w ddefnyddio yn y dosbarth gyda nodiadau a ysgrifennwyd gan Cennard Davies. Mae'r CD yn cynnwys cyfres o glipiau o archif Radio Cymru a gall fod o help mawr i ddysgwyr profiadol wella eu hiaith. Mae'r clipiau ar gael hefyd ar http://www.bbc.co.uk/cymru/tiwtoriaid/adnoddauclywedol/

Yn y gorffennol, mae'r nodiadau hyn wedi ymddangos ar un dudalen mewn fersiwn PDF yn unig ond, yn ddiweddar, mae Adran Dysgu a Rhyngweithiol, BBC Cymru, wedi ychwanegu fersiwn Word o'r nodiadau er mwyn i'r tiwtoriaid allu addasu'r gweithgareddau ac ati sy'n ymddangos yn yr adnodd defnyddiol hwn.

 

llinell