Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

croeso

 

llun clawrMae’r rhifyn hwn yn rhoi sylw arbennig i weithgarwch yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent yr haf hwn, a dymunwn wythnos brysur a llewyrchus i swyddogion Maes D 2010, sef Jo Knell, Kate Oprava a Gill Griffiths. Mae rhaglen Maes D eisoes yn orlawn, o wersi Cymraeg a siaradwyr gwadd i gerddoriaeth fyw yn ddyddiol.

Rydym hefyd yn camu i fyd Cymraeg i’r Teulu yn rhifyn 12, ac yn edrych ar Cymraeg o’r Crud, sef project newydd ar ffurf cwrs blasu ar lefel Mynediad gyda chynulleidfa darged benodol, sef teuluoedd newydd. Caiff yr adnodd ei lansio yn yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent a gwahoddir tiwtoriaid CiT i fynychu’r lansiad ar Awst 1af am 1.00 ar stondin TWF.

Erbyn hyn, mae cystadleuaeth Dysgwr Y Flwyddyn yn rhan annatod o galendr y dysgwyr ac rydym yn holi yn y rhifyn hwn pwy yn union yw’r pedwar olaf. Mae’r gynhadledd IATEFL yn rhan bwysig o galendr y tiwtoriaid a darllenwch am y profiadau a gafodd cynrychiolwyr o Ganolfan Iaith Ceredigion yn Harrogate.

Y gobaith yw y bydd y Cynllun Sabothol hefyd yn datblygu i fod yn rhan o galendr a chynlluniau gyrfa unrhyw athro sydd am ddatblygu ei sgiliau Cymraeg.


Hefyd

Mae Glenda Brown yn profi sgiliau gyda sgiliaucymru ac mae Maldwyn Pate yn cynhyrchu podlediadau ym Morgannwg.


Digwyddiadau

Dewch i weld pwy sy’n Llanw Bwlch yn yr erthygl Adnoddau a pha lyfr sy’n cael ei lansio ym Maes D ar 6 Awst. Wrth fynd o un lansiad i’r llall, cofiwch ddod i Faes D ar 31 Gorffennaf hefyd gan fod CBAC yn cyflwyno tystysgrifau i ddysgwyr ac yn lansio’r Ffeil Hyfedredd am 1.00.

Aur, ambr neu arian – dewiswch chi. Ewch i’r Gystadleuaeth am gyfle i ennill tocyn anrheg o siop emwaith Y Trysordy yn Aberaeron.

Peidiwch anghofio am yr adran Deunydd Dysgu ac ewch i chwilota am ddeunydd ar gyfer pob lefel. Y tro hwn mae gennym daflenni arbennig ar gyfer Cymraeg o’r Crud, ymysg pethau eraill. Mae’r taflenni’n barod i’w hargraffu a’u defnyddio yn eich dosbarthiadau.

Pob hwyl.

llinell