Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

teitl cystadleuaeth

Y wobr yn y rhifyn diwethaf oedd pâr o docynnau maes ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, o 31 Gorffennaf i 7 Awst, ac mae’r wobr yn rhoddedig gan swyddfa’r Eisteddfod.

Mae’r adeg hon o’r flwyddyn, yn draddodiadol, yn gyfnod prysur iawn wrth i ddysgwyr ar hyd a lled y wlad ddechrau paratoi ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae cystadlaethau perfformio a chystadlaethau ysgrifenedig i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Ceir cystadlaethau ysgrifennu barddoniaeth, rhyddiaith a hyd yn oed blog! Dewch draw i babell y dysgwyr, sef Maes D, i weld pwy sydd wedi cyrraedd y brig.  Am fanylion pellach am yr holl gystadlaethau i ddysgwyr, edrychwch ar y Rhestr Testunau neu cysylltwch â Jo Knell, sef Swyddog y Dysgwyr, jo@eisteddfod.org.uk

Y cwestiwn oedd:

Ble bydd Eisteddfod Genedlaethol 2010 yn cael ei chynnal?

Yr ateb wrth gwrs yw mai yng Nglyn Ebwy y cynhelir Eisteddfod Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, a’r enillydd yw Philippa Gibson o Bontgarreg. Llongyfarchiadau mawr i chi a mwynhewch yr Eisteddfod! 

teitl trysordy

Lleolir siop Trysordy Cymru yn Aberaeron, Ceredigion. Mae’r perchennog, Jenny Hicks, yn adnabod yr ardal a’i chwsmeriaid yn dda, ac wedi gweld yr angen am gyflenwad chwaethus a lliwgar o bob math o emwaith ac ar gyfer pob oedran.

llun trysordyGyda hithau wedi dysgu Cymraeg, mae cynnig gemwaith Cymreig yn bwysig iddi ac fe welir hynny yn y dewis eang sydd ganddi o nwyddau Clogau, Carrie Elspeth a Ronin. Ar y silffoedd hefyd gwelir gemwaith y cwmni ‘Cymru Gold,’ yn ogystal â gwydr sydd wedi ei baentio â llaw yng Nghymru.    
Mae’r siop fel ogof yn llawn dirgelwch, gydag un silff fawr yn gwegian dan bwysau casgliad trawiadol o emwaith ambr. Gwelir darnau hardd gan Kit Heath yn hawlio’u lle ar silff arall.

Mae’r dylanwad Celtaidd i’w weld yn amlwg yn y siop ac mae nwyddau arian y cwmni o’r Alban, Ortak, yn boblogaidd iawn.

Ceir yma ddigonedd o ddewis ar gyfer plant hefyd, o fwclisau pren pert i glociau wal lliwgar. 

Siop y Trysordy sydd yn noddi’r gystadleuaeth y tro hwn a mawr yw ein diolch i Jenny Hicks. Y wobr yw tocyn anrheg gwerth £20, a pheidiwch â phoeni os na allwch ddod i’r siop i wario’r tocyn gan fod Y Trysordy hefyd yn cynnig gwasanaeth postio!

Gan ein bod yn ymlwybro ar hyd strydoedd Aberaeron, y cwestiwn yw:

Ble cafodd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2010 ei chynnal?

 

llinell