Ym Mehefin 2010 cynhaliwyd taith gerdded arall gan griw Y Clonc Mawr, sy’n ceisio cerdded rhan o lwybr arfordir Sir Benfro bob mis. Mae croeso cynnes i ddysgwyr o bob lefel a Chymry Cymraeg i ymuno â’r teithiau. Y tro hwn fe gerddon nhw o Bwllcrochan i Benfro ac, fel y gwelwch o’r lluniau, cawson nhw amser da!
(Diolch i Dewi Rhys-Jones am y lluniau.)
Cynhelir y Clonc Mawr nesaf (rhif 16) ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf a bydd y daith yn mynd o Benfro i Bont Cleddau. Bydd pawb yn cwrdd am 10.30 yng nghaffi'r Ganolfan Loches.
Seminar
Cynhelir 17eg Seminar Cystrawen y Gymraeg ar 5 a 6 Gorffennaf 2010 yng Ngregynog. I archebu lle cysylltwch â: David Willis dwew2@cam.ac.uk
Y gobaith yw cynnwys adroddiad ar y gynhadledd yn rhifyn nesaf Y Tiwtor.
Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas
Diolch i bawb a anfonodd enwebiadau ar gyfer y Tlws arbennig hwn a byddwn yn cyhoeddi enw’r tiwtor buddugol ddydd Mercher 4 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent.