Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

llun ymchwil
Grant ar gyfer Ymchwil ar Drosglwyddo’r Gymraeg i Oedolion

Mae tîm o ymchwilwyr a leolir yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi ennill grant o fwy na £300,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymchwil ar wella’r ffordd y caiff y Gymraeg ei throsglwyddo i oedolion. Mae’r tîm, a arweinir gan Dr Diarmait Mac Giolla Chríost o Ysgol y Gymraeg, yn cynnwys Dr Rachel Heath-Davies a Dr Adrian Price o Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg (sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg), ynghyd â’r Athro Alison Wray o Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd. Hefyd, bydd yr Athro Elaine Tarone (o Brifysgol Minnesota, a fu’n Ysgolhaig ar Ymweliad yn Ysgol y Gymraeg yn 2009) a nifer o ymchwilwyr o Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Abertawe yn cyfrannu at y prosiect am ddwy flynedd.

Nod yr ymchwil hwn yw ‘ystyried sut y gellir gwella’r ffordd y caiff y Gymraeg ei throsglwyddo i oedolion’. Fel rhan o’r gwaith hwn bydd yr Ysgol yn penodi Cydymaith Ymchwil a Chynorthwyydd Ymchwil, a fydd yn bwrw ati yn yn yr Hydref.

Ariennir y prosiect gan APADGOS ac mae’n ymestyn am ddwy flynedd. Y nod yw gwneud argymhellion ar gwricwlwm Cymraeg i Oedolion i'r dyfodol ar sail yr ymchwil. Yn rhan o’r ymchwil, bwriedir cynnal stondin yn y gynhadledd genedlaethol nesaf ym mis Tachwedd, i gasglu syniadau a sylwadau gan diwtoriaid am y cyrsiau a’r cwricwlwm cyfredol. Hefyd, trefnir taith o gwmpas Cymru er mwyn holi pobl yn y maes a danfon holiadur i'r rhanddeiliaid ayyb.

 

llinell