Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

 

Cymraeg o'r crudCymraeg
o'r Crud

Welsh with Babies

mefus

gan Ffion Green a Jina Gwyrfai,
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent

 

Beth yw Cymraeg o’r Crud?
Project newydd ar ffurf cwrs blasu ar lefel Mynediad gyda chynulleidfa darged benodol, sef teuluoedd newydd.

Ceir cyfres o 10 o sesiynau, gyda phob un sesiwn ar thema arbennig yn cyflwyno geirfa a phatrymau iaith naturiol i’w defnyddio gyda babanod a phlant ifanc. Mae’n addas i ddechreuwyr yn bennaf, ond byddai cyn-ddysgwyr neu Gymry dihyder sy’n awyddus i newid iaith yr aelwyd hefyd yn elwa o’r cwrs. Mae’n cynnig ieithwedd a geirfa arbennig, a chyfle i ddefnyddio’r iaith gan fod y babi / plentyn bach yn y dosbarth yn mwynhau’r sesiwn efo’r rhiant. Bydd yr adnoddau ar gael am ddim i diwtoriaid, gyda chyflenwad cychwynnol o’r taflenni i’r darparwyr a’r adnoddau yn cael eu cynnwys ar wefannau’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion (CCiO) ar fformat Pdf.

llinell

Cefndir y cwrs
Addasiad o 6 sesiwn gan TWF yw’r adnoddau yma, gyda chymorth a chefnogaeth TWF. Mae swyddogaeth TWF wedi newid ers iddynt baratoi cyfres o bamffledi i gyflwyno’r iaith Gymraeg i rieni newydd. Swyddogion maes TWF oedd yn cyflwyno fersiwn gwreiddiol y cwrs, a oedd yn boblogaidd iawn, ond nid oedd strwythur ieithyddol na dilyniant ffurfiol iddo. Roedd cyfnod eu gweithredu nhw newydd orffen pan sefydlwyd Gweithgor CCiO y Teulu, ac arbrofodd CCiO y gogledd gyda’r adnoddau fel cwrs blasu byr mewn cydweithrediad â swyddogion TWF. Y nod i ni oedd cyrraedd pobl newydd na fyddant yn mynychu cyrsiau ar yr adeg yma fel arall, trwy gynnig iaith addas i’w dibenion fel modd iddynt ddechrau defnyddio’r Gymraeg yn eu rôl newydd fel rhieni. Y gobaith wedyn yw y byddant yn ymuno â chwrs prif ffrwd fel dilyniant.
Trefnwyd cyrsiau peilot trwy gydweithio â swyddogion maes TWF a bu’n llwyddiannus iawn - roedd galw am fwy o sesiynau! Defnyddiwyd y chwe thaflen wreiddiol yn y peilota, ond roedd staff CCiO y gogledd hefyd wedi arbrofi rywfaint gydag adnoddau ychwanegol. Gwnaethpwyd gwerthusiad ar ddiwedd y peilot a chynhaliwyd gweithdy ar y cyd gyda swyddogion TWF i drafod y cam nesaf. Y prif argymhellion oedd:

  • diwygio’r taflenni
  • ychwanegu sesiynau
  • cynhyrchu adnoddau ychwanegol i diwtoriaid

 

Rhaid gwneud cais am arian i gynhyrchu adnoddau cwrs blasu i rieni am y rhesymau canlynol:

  • mae angen cwrs byr fel hyn i fachu rhieni newydd
  • mae'n angenrheidiol i’r adnoddau fod yn lliwgar, o safon uchel ac ar gael i rieni ar hyd a lled Cymru
  • nid yw TWF yn gallu ariannu’r prosiect mewn unrhyw ffordd bellach  oherwydd newidiadau strategol
  • nid yw’r CCiO yn gallu ariannu adnoddau
  • mae TWF a CCiO gogledd Cymru yn cytuno y dylai’r cwrs fod yn fforddiadwy.

llinell

Cynnwys a manylion y pecyn adnoddau
Mae dylunio’r cwrs ar ffurf taflenni A5 lliwgar yn ddeniadol i blant a’u rhieni, ac yn  hawdd i’w defnyddio wrth fagu babi yn y sesiynau. Mae digon o eirfa ac iaith sy’n bwrpasol i rianta, felly bydd y taflenni’n adnodd wrth gefn i rieni ar yr aelwyd. Bydd y tiwtor yn defnyddio posteri gyda geirfa a phatrwm iaith thematig i helpu rhieni ffocysu ar y wers. Cyflwynir ymadroddion naturiol trwy gardiau fflach.

Defnyddir tonau adnabyddus gyda’r caneuon iaith, ond credir bod cyflwyno hwiangerddi traddodiadol Cymraeg hefyd yn elfen bwysig wrth gymathu dysgwyr yn ein traddodiadau. Adnodd ychwanegol gwerthfawr i’r cwrs yw CD TWF; mae’r caneuon hyn wedi profi’n boblogaidd iawn yn y sesiynau peilot, a chan fod y caneuon yn ailadroddus maent yn gymorth wrth ddysgu’r iaith.

llinell

Pecyn y Rhieni / Dysgwyr
Bydd taflenni (A5) i’r rhieni / dysgwyr (un i bob sesiwn ac un fel canllaw ynganu) yn dilyn y themâu canlynol:
Cyfarchion, lliwiau a rhifau, teganau, rhannau’r corff a salwch, dillad a’r tywydd, trefn y dydd, bwyd a siopa, y parti (dathlu), hamddena, y fferm / anifeiliaid. (11 taflen i gyd).

Bydd pob taflen yn cynnwys:
geirfa, patrymau iaith, 2 – 3 sgwrs fer, cân draddodiadol a chân dysgu patrwm iaith, a gofod i ysgrifennu nodiadau.

llinell

Pecyn y Tiwtor
Cynhyrchir pecyn o adnoddau i’r tiwtor er mwyn ychwanegu at yr elfen weledol sy’n hanfodol wrth gyflwyno’r cwrs yma.

1. Ymadroddion canmol (praise phrases). Casgliad o 18  o gardiau fflach gydag ymadroddion i’w dysgu a’u defnyddio gyda’r babi.

2. Set o 6 poster A3 i helpu cyflwyno geirfa / patrymau penodol.

3. Cyfarwyddiadau ac awgrymiadau i diwtoriaid. Bydd canllawiau ar sut i gyflwyno’r iaith i rieni a’u babanod / plant, ac awgrymiadau am weithgareddau / adnoddau ychwanegol.

4. Cynllun dysgu unigol er mwyn diwallu gofynion dysgwyr, gydag enghreifftiau yn dangos sut y dylid ei ddefnyddio.

5. Manylion achredu gydag Agored.

llinell

CD Rom
Bydd yr holl adnoddau hyn ar CD Rom a ddosberthir i diwtoriaid.

Bwriedir rhoi’r adnoddau i gyd ar wefan CCiO cenedlaethol, gyda linc i wefannau’r canolfannau rhanbarthol a TWF, ond mae’r cais yma yn gofyn am gopïau caled o’r taflenni a’r adnoddau i’r tiwtor a’r darparwyr.
Awgrymir bod y posteri a’r cardiau fflach yn y pecyn tiwtoriaid yn cael eu lamineiddio.

Bydd angen un fersiwn gogleddol ac un fersiwn deheuol oherwydd yr angen i addasu’r iaith a’r eirfa (clwt= cewyn!). Bydd hyn yn hwyluso’r broses o ymestyn y   cwrs yn genedlaethol gan gynnwys ardaloedd lle nad yw TWF yn weithredol ar hyn o bryd.

Bydd modd addasu ymhellach yn rhanbarthol cyn rhoi fersiwn ar wefannau Canolfannau CiO ar fformat Pdf.

llinell

Marchnata
Rhagwelir y bydd TWF yn gallu chwarae rôl allweddol ym maes marchnata ar lefel bersonol. Bydd eu swyddogion maes yn rhoi gwybodaeth am y cwrs i bob darpar riant, a byddant yn gallu rhoi darparwyr mewn cysylltiad â dysgwyr.

Cynhyrchir taflenni lliwgar yn disgrifio’r ystod o gyrsiau teuluol gan y Canolfannau CiO (yn unol â’n strategaeth Cymraeg i’r Teulu) a chânt eu dosbarthu trwy asiantaethau plant a chlinigau, cylchoedd ti a fi, meithrinfeydd ac ysgolion.  

llinell

Lansio’r pecyn
Trafodwyd lansiad y pecyn yn y gweithgor cenedlaethol ym mis Mawrth. Bydd Canolfan y Gogledd a Chanolfan Gwent yn chwarae rhannau allweddol yn y cynlluniau, gyda chefnogaeth frwd y canolfannau eraill. Y bwriad yw lansio’r pecyn yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd, gan gynnal gorymdaith gyda chymeriadau adnabyddus yn y Gymraeg a’r Saesneg (e.e. Sali Mali, Peppa Pinc / Pig, Sam Tân) o babell sy’n boblogaidd gyda rhieni (pabell TWF neu S4C) i babell Maes D. Yno bwriedir cynnal sesiwn flasu i rieni, a cheir cyflwyniad i’r cwrs i diwtoriaid a dysgwyr eraill. Darperir paned a bisgedi mewn cydweithrediad â chaffi Maes D. Cynhyrchir taflenni i’w dosbarthu trwy’r canolfannau ac yn arbennig yn nalgylch yr Eisteddfod.

Gwahoddir tiwtoriaid CiT i fynychu’r lansiad ar Awst 1af am un o’r gloch yn stondin TWF.

 

llinell