Wedi hir ymaros, daeth yr Eisteddfod i Geredigion, a dyna beth oedd eisteddfod! Y tywydd yn grasboeth, y lleoliad yn wych, y cyngherddau yn ysbrydoli, a’r cystadlu, fel arfer, yn frwd. Roedd Eisteddfod Llanerchaeron yn un werth ei chofio.
Penderfynom yng Nghanolfan y Canolbarth gynnal stondin ar y maes, er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl, o’r gwaith y mae’r Canolfannau yn ei wneud. Bwriad arall oedd ennyn brwdfrydedd pobl i ddysgu Cymraeg, neu i gynorthwyo gyda’r gwaith o addysgu. A chan mai gŵyl i blant, a rhieni, yw Eisteddfod yr Urdd, rhaid oedd cynnig rhywbeth i blant ei wneud ar y stondin, a chodi ymwybyddiaeth o Gymraeg i’r Teulu.
Un o’r pethau angenrheidiol wrth greu stondin o’r fath yw cael digon o help ac fe gawsom gymorth parod nifer helaeth o bobl, gan gynnwys ambell i gynrychiolydd o’r Canolfannau eraill hefyd. Galwai pobl i mewn yn gyson, ac roedd rhywun yno fel arfer i roi cyngor neu ddosbarthu taflen – roedd yr Urdd hefyd wedi cyfrannu taflen wybodaeth am yr Urdd a’r Canolfannau, a bydd modd defnyddio’r daflen hon nid yn unig mewn Eisteddfodau Cenedlaethol, ond mewn eisteddfodau cylch a sir hefyd.
Un o’r atyniadau mwyaf oedd ar y stondin oedd y wal graffiti, ac yn wir, ar brynhawn dydd Llun, roedd y llawr y stondin yn gwegian gyda chymaint o blant yn aros eu tro i lenwi’r wal gyda’u hoff eiriau Cymraeg. Mae’r lluniau o’r wal yn werth eu gweld, a diolch i Gwenllian Beynon a Shirl Cottam am weithio’n ddiflino ar y wal.
Doedd y cawodydd a gawsom ni ddydd Mawrth ddim yn amharu dim ar y llif o bobl ddaeth i mewn i’r stondin, er i’r rhai ohonom oedd wedi penderfynu cyrraedd yn ein siorts deimlo braidd yn rhewllyd ar adegau! Ail-beintiwyd y wal a chawsom gyfraniadau o’r newydd arni, a’r tro hwn y gamp oedd i bob cyfrannwr lenwi blwch yn lle ysgrifennu’n driphlith-draphlith.
Cawsom bobl o bob rhan o Gymru yn gofyn i ni am fanylion cyrsiau, neu oedd â diddordeb dysgu’r Gymraeg yn eu gweithle neu fel rhiant. Roedd yr ymholiadau yn niferus iawn – ac yn llawn amrywiaeth! Daeth un gŵr atom a gofyn i’r Cyfarwyddwr a oedd modd iddo aredig ei dir nawr. Mewn penbleth, atebodd y Cyfarwyddwr nad ei le e oedd dweud pa bryd y medrai’r dyn aredig ei dir, a sylweddolodd wedyn fod y dyn wedi gweld arwydd y Cynulliad ger baner y Ganolfan, ac wedi cymryd mai pabell yr uned Amaeth oedd hi!
Yn bendant, llwyddiant digamsyniol oedd gosod stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd – roedd yn fodd i godi proffil y Ganolfan yn lleol, a’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn gyffredinol. Cawsom gyfle fel staff i rannu gwybodaeth gyda sefydliadau eraill, i drefnu cyfarfodydd pellach. Ond yn bwysicaf oll, roedd yn fodd i dynnu sylw oedolion a hefyd pobl ifanc at yr hyn y mae’r Canolfannau yn ei wneud, ac at bwysigrwydd dysgu Cymraeg, ble bynnag y byddwch yn gwneud hynny.
Dafydd Morse