Mae pedwar dysgwr wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Cafodd y pedwar eu dewis gan y beirniaid, sef Robat Powell, Donna Edwards a Gillian Elisa ddydd Sadwrn, Mai 8 2010, yn Ysgol Glyncoed, Glynebwy. Roedd 29 o gystadleuwyr eleni gyda nifer yn dod o Gymru a Lloegr, a rhai o Batagonia a Gwlad Belg.
Cynhelir y rownd derfynol ddydd Mercher 4 Awst yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mlaenau Gwent a bydd yr enillydd yn derbyn Tlws arbennig, sef panel gwydr a wnaed gan Angelina Hall. Cyhoeddir yr enillydd mewn noson arbennig yn Sefydliad y Glowyr, Llanhiledd, nos Fercher 4 Awst am 7pm. Arweinydd y noson fydd Garry Owen, BBC, a cheir cyfle i longyfarch yr enillydd wrth fwynhau bwffe a thwmpath gyda Jac-y-Do.
Mae Shirley Cottam yn 40 oed ac yn byw yn Aberystwyth ers pedair blynedd a hanner. Cafodd Shirley ei geni a’i magu ym Manceinion ac ar ôl gadael yr ysgol aeth i Brifysgol Hull i astudio ar gyfer gradd mewn Peirianneg Electronig. Aeth yn ôl i Fanceinion wedyn a bu’n gweithio am wyth mlynedd mewn ysbytai fel peiriannydd biofeddygol.
Adeg Nadolig 2005 symudodd Shirley a’i mab JJ i Aberystwyth i fyw heb adnabod unrhyw un yn yr ardal o gwbl. Wrth weld y Gymraeg ar arwyddion ffordd ymhobman a chlywed yr iaith ar y stryd yn y dref teimlodd fod rhaid iddi ddysgu’r iaith, ac nad oedd dewis arall ganddi ond mynd ati.
Dechreuodd Shirley a JJ, yn 5 oed, felly mewn dosbarth wythnosol ym Medi 2006. Am ddwy flynedd aethon nhw i’r dosbarth a JJ oedd yr unig blentyn yno. Roedd Shirley wedi bod yn addysgu’i mab gartre ond pan oedd yn 7 oed roedd rhaid iddo fynd i’r ysgol ac roedd Shirley yn siomedig iawn mai i ysgol cyfrwng Saesneg y byddai’n mynd.
Yn ffodus iawn roedd athrawes JJ ym mlwyddyn 3 a 4 yn sylweddoli pa mor awyddus yr oedd i ddefnyddio’r iaith ac roedd hi bob amser yn siarad Cymraeg gyda fe. Yn 8 oed aeth JJ ar daith ysgol i Ogofâu Llechi Llechwedd a chyda’r £5 oedd ganddo ar y daith prynodd eiriadur Cymraeg yn y siop!
Roedd Shirley eisoes yn awyddus iawn i’w mab allu trosglwyddo i addysg Gymraeg ac ar ddechrau Blwyddyn 5 cyfarfu JJ â merch a oedd wedi gwneud yr un peth gan roi’r hyder iddo fwrw ati. Ym mis Medi y llynedd, felly, symudodd JJ i Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Am ddau dymor roedd hefyd yn mynychu’r Ganolfan Iaith bob wythnos ond erbyn hyn mae’n ddisgybl llawn-amser yn yr ysgol ac yn setlo’n hapus. Meddai Shirley, ”Mae athrawon JJ yn hapus iawn gyda’i gynnydd ac yn gwybod ei fod e’n trio’n galed iawn i siarad Cymraeg trwy’r amser!” Yn sicr mae JJ wedi helpu Shirley i wella’i Chymraeg ei hun hefyd. “Weithiau mae e’n trio dal fi allan trwy ofyn am air anodd,” meddai.
Eleni mae Shirley wedi bod yn mynychu pum cwrs Cymraeg gwahanol bob wythnos yn ogystal â defnyddio gwefan saysomethinginwelsh.com a chynnal sgyrsiau dros y ffôn gyda dysgwyr eraill trwy SSIW. Roedd yn benderfynol o ddysgu’n gyflym ac eisiau defnyddio’r Gymraeg bob dydd. Meddai Shirley, “ro’n i’n benderfynol o ddysgu siarad Cymraeg yn rhugl a do’n i ddim eisiau dysgu’n araf.”
Mae Shirley yn rhedeg pedwar dosbarth crefft yn y Gymraeg i blant a’u rhieni yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion yn Aberystwyth. Mae hefyd wedi creu llyfrgell fach o lyfrau Cymraeg i blant yn y ganolfan.
Sylweddola Shirley erbyn hyn fod dysgu Cymraeg wedi rhoi hyder o’r newydd iddi fel person. “Cyn dod i Gymru ro’n i’n berson swil iawn ond nawr rwy’n siarad â phawb. Yn bendant mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd, rwyf hyd yn oed yn fodlon siarad ar y teledu nawr!”
Er mai Cymry yw rhieni Julia Hawkins roeddent wedi bod yn byw yn Lloegr, ond symudon nhw nôl i Gymru fel teulu a chafodd Julia ei magu yn y Bont-faen. Mae tad Julia’n dod o Aberdaugleddau a phan oedd ei ferch yn fach byddai’n defnyddio ambell i air swynol o Gymraeg gyda hi. Yn yr ysgol uwchradd astudiodd Julia y Gymraeg am dair blynedd ac roedd yn dwli ar yr iaith. Ond, gan ei bod yn cymryd pynciau gwyddonol nid oedd yn bosib iddi astudio’r iaith ymhellach yn yr ysgol. Dewisodd felly sefyll arholiad Lefel O y tu allan i’r ysgol. Mae’n sylweddoli heddiw cymaint yw ei dyled i’w hathrawon bryd hynny, sef Yvonne Matthews yn yr ysgol a Carys Whelan y tu allan i’r ysgol. Trwyddyn nhw daeth i weld mai iaith fyw yw’r Gymraeg ac roedd hedyn wedi’i phlannu at y dyfodol!
Ar ôl gadael yr ysgol aeth Julia i’r brifysgol yn Lloegr i astudio Gwyddoniaeth ac yna bu’n gweithio i ICI yn Slough, ac yma cyfarfu â’i gŵr Kevin Higgins, sy’n hanu o Iwerddon. Bu Julia a Kevin yn gweithio i’r Cyngor Prydeinig ar waith datblygu am bum mlynedd yn Tanzania a phum mlynedd yn Vietnam. Roedden nhw’n benderfynol y byddent yn magu’u plant yng Nghymru a dyna beth a wnaethon pan ddaethon nhw i fyw yng Nghrucywel yn 2001.
Cafodd Ioan ei eni a dim ond Cymraeg yr oedd Julia yn siarad gydag ef. Ymunodd â’r Grŵp Ti a Fi yn y Fenni a thrwy hynny gwnaeth ffrindiau newydd Cymraeg. Roedd yn darllen llyfrau Cymraeg i Ioan, yn gwylio rhaglenni teledu Cymraeg, yn prynu cerddoriaeth Gymraeg, ac, yn wir, yn mynd ati i greu ‘Byd Cymraeg’ iddo. Meddai Julia: “Ro’n i’n sylweddoli mai ychydig iawn o Gymraeg oedd gen i ar y dechrau felly roedd yn rhaid amgylchynu Ioan gyda chymaint o’r iaith â phosib”. Ar ôl bod yn aelod o’r Grŵp Ti a Fi am ddwy flynedd cymerodd Julia yr awennau, gan redeg y grŵp - gwaith a roddod lawer o foddhad iddi. Roedd hyn hefyd yn rhoi’r cyfle i Julia helpu rhieni eraill a oedd yn newydd i’r Gymraeg.
Wedyn daeth yr efeilliaid, Manon ac Erin! Dechreuodd Ioan yn Ysgol Gymraeg y Fenni a Chymraeg oedd iaith Julia a’r plant. Ddwy flynedd yn ôl dechreuodd Julia waith newydd o gartref gyda’r Cyngor Prydeinig yn rheoli prosiect y cyngor ym Mhatagonia. Gwaith Julia yw trefnu ymweliadau rhwng Patagonia a Chymru a chefnogi prosiectau sy’n hybu’r iaith ym Mhatagonia.
Gyda’i ffrind Eleri Hodder mae Julia wedi sefydlu Clwb Gwawr yn y Fenni. Mae wrth ei bodd yn mynd allan gyda’i ffrindiau o’r clwb bob mis a chael hwyl a sbri yn Gymraeg. “Rwy’n sylweddoli cymaint o gymorth ges i gan ffrindiau. Roedden nhw’n fodlon siarad Cymraeg â fi ac roedden nhw’n deall mod i eisiau trio siarad Cymraeg cymaint â phosib.”
Erbyn hyn mae Ioan yn saith oed a Manon ac Erin yn dair. Pan fydd y merched yn dechrau’n yr ysgol y flwyddyn nesaf mae Julia yn awyddus iawn i wella ei Chymraeg, yn enwedig yn ysgrifenedig. Mae’r posibiliadau at y dyfodol yn cynnwys astudio ar gyfer Lefel A Cymraeg, dysgu Cymraeg i oedolion eraill a hyd yn oed, un diwrnod, dysgu Cymraeg ym Mhatagonia ei hun!
Mae cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn wedi bod yn hwb mawr i Julia a gwêl ei gwerth yn amlwg: “Mae’r gystadleuaeth yn helpu dangos i bobl sydd heb drio dysgu’r Gymraeg eto bod pobl eraill yn llwyddo. Mae cymaint o bobl wedi clywed fy mod i yn y rownd derfynol ac wedi cysylltu â fi. Yn sicr, dw i’n fwy penderfynol nag erioed i wella fy Nghymraeg fy hun!”
Mae Helen yn 41 oed ac yn dod o’r Coed Duon. Yn yr ysgol roedd yn hoff iawn o Fathemateg a Gwyddoniaeth. Astudiodd y Gymraeg am dair blynedd tan 14 oed ond ar gyfer Lefel O roedd rhaid iddi astudio Ffrangeg! Er gwaethaf hynny roedd Helen eisoes wedi penderfynu y byddai’i phlant hi’n mynd i ysgol Gymraeg. Aeth Helen ymlaen i Goleg Crosskeys ac yna i Brifysgol Reading lle bu’n astudio ar gyfer gradd mewn Ffisioleg a Biocemeg.
Roedd swydd gyntaf Helen yn Reading gyda Chwmni BT lle bu’n gweithio am dair blynedd. Wedyn, yn hiraethu am gartref, symudodd nôl i Gymru gan weithio i BT yng Nghaerdydd am bymtheng mlynedd.
Pan oedd Helen yn blentyn, byddai’i thadcu yn dysgu geiriau Cymraeg iddi, ac fe greodd hyn awydd ynddi i ddysgu’r iaith. Ei thadcu a’i ffrind gorau yn yr ysgol a roddodd yr ysbrydoliaeth iddi ddysgu Cymraeg. Felly yn 2004, dechreuodd ddysgu’r iaith mewn dosbarth nos unwaith yr wythnos. Mynychodd ddosbarth Ann Shore yn Y Coed Duon am ddwy flynedd yn ogystal â mynd i ysgolion undydd misol Gwent.
Penderfynodd Helen roi’r gorau i’w swydd yng Nghaerdydd er mwyn dysgu rhagor o Gymraeg a threulio mwy o amser gyda’i mab, Dafydd. Ymunodd â chwrs Cymraeg Lefel A yng Ngholeg Crosskeys ac roedd yn mynychu dosbarthiadau uwch i oedolion ar yr un pryd. Bu’n gweithio’n wirfoddol gyda phlant yn ysgol Dafydd, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Sannan.
Erbyn hyn mae Dafydd yn 13 oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae wrth ei fodd gyda gemau cyfrifiadurol a chwarae gyda’i ffrindiau. Mae Helen bob amser yn siarad Cymraeg â’i mab ac ers ei fod yn fabi mae wedi defnyddio geiriau Cymraeg gydag ef - hyd yn oed cyn iddi ddysgu’r iaith yn iawn.
Yn 2008, yn syth ar ôl ei harholiadau Lefel A Cymraeg, a basiodd gyda gradd A, cafodd Helen swydd llawn-amser yn lleol gyda Menter Iaith Caerffili i weithio ar brosiect yn ymwneud â hanes lleol. Hon yw’r swydd berffaith i Helen, yn cyfuno’i diddordeb yn y Gymraeg, hanes a Thechnoleg Gwybodaeth. Mae wrth ei bodd yn y gwaith a meddai, “Heb os nac oni bai mae’r swydd hon wedi newid fy mywyd!”. Trwy’r gwaith mae wedi ffilmio gydag Ifor ap Glyn, wedi cwrdd â llawer o bobl leol, ac wedi manteisio ar bob cyfle i hybu’r iaith yn yr ardal.
Yn y dyfodol hoffai Helen hyfforddi i fod yn diwtor Cymraeg i oedolion. Dysgodd yn ifanc iawn mai iaith fyw yw’r Gymraeg a dyna sydd wedi’i sbarduno i’w siarad ar hyd y daith. Mae’n teimlo bod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn hynod bwysig a meddai, “Mae’r gystadleuaeth yn dangos i bobl eraill ei bod yn bosib dysgu’r iaith. Mae wedi bod yn anodd, ac mae rhaid gweithio arni, ond mae’n werth pob eiliad.”
Mae Dai Williams yn 33 oed a daw o Bengam yn wreiddiol. Aeth i Ysgol Gyfun Y Coed Duon lle bu’n astudio Cymraeg hyd at 14 oed ac yna ymlaen i Goleg Crosskeys a Phrifysgol Abertawe lle graddiodd mewn Cemeg. Yn Abertawe hefyd cwblhaodd ei ddoethuriaeth mewn peirianneg yn 2002. Bu’n gweithio wedyn am dair blynedd fel peiriannydd yn Sgiwen cyn penderfynu codi’i bac, gwerthu’i dŷ a mynd i deithio yn Awstralia a Gwlad Thai.
Wrth deithio roedd Dai yn cwrdd â llawer o wahanol bobl yn siarad llawer o wahanol ieithoedd ac yn teimlo’n wael nad oedd yn gallu siarad iaith ei wlad ei hun. Roedd yn benderfynol o fynd ati i ddysgu Cymraeg nôl yng Nghymru.
Dyna a wnaeth ac yn 2007 dechreuodd ddysgu’r iaith iddo’i hun gan ddefnyddio gwefan y BBC, nodiadau cwrs Wlpan a gafodd gan ffrind a’r llyfr ‘Teach Yourself Welsh’. Roedd yn fynychwr selog y boreau coffi i ddysgwyr yn Y Coed Duon a Bedwas ac ysgolion undydd Gwent lle cafodd lawer o gyfle i ymarfer yr iaith newydd. Ymunodd â chwrs canolradd ym Margoed am ychydig wythnosau, yna cwrs Nadolig gyda Phrifysgol Morgannwg, ac aeth ymlaen yn 2008 i Gwrs Pellach am dri bore’r wythnos am ddau dymor. O fewn blwyddyn felly roedd wedi llwyddo i ddysgu Cymraeg!
Ym mis Medi 2008 dechreuodd ar gwrs ymarfer dysgu yn Abertawe gyda’r bwriad o ddysgu Cemeg yn y pen draw. Ond roedd Dai yn dal i fwynhau dysgu Cymraeg gymaint, ymunodd â dosbarth uwch yn Abertawe a safodd yr arholiad uwch yn haf 2009 gan ennill gradd A!
Roedd atyniad y Gymraeg yn gryf iawn i Dai erbyn hyn ac yn lle mynd yn athro cafodd swydd llawn amser gyda Chyngor Sir Powys fel Gweithiwr Ieuenctid gyda’r cyfrifoldeb o ddatblygu’r Gymraeg yn ne’r sir. Gyda’i waith, mae’n teithio i ardal Llanfair-ym-Muallt, Aberhonddu ac Ystradgynlais. Mae wrth ei fodd yn byw bywyd Cymraeg bob dydd a theimla Dai yn gryf am yr iaith, “Mae’r swydd hon yn rhoi’r cyfle i mi roi rhywbeth nôl. Dw i’n gallu helpu’r genhedlaeth nesaf i werthfawrogi’r Gymraeg hefyd.”
Yn y dyfodol mae Dai’n gobeithio astudio’r iaith ymhellach trwy ddilyn gradd yn y Gymraeg ar-lein gyda Phrifysgol Llambed. Mae e’n falch dros ben o fod yn rownd derfynol y gystadleuaeth. Meddai Dai, “Ro’n i’n hollol uniaith gynt. Doedd dim clem gyda fi sut byddai rhywun yn gallu dysgu iaith arall ond wrth deithio i wledydd eraill gwelais ei bod yn bosib a gwelais i’r ffordd o fynd ati. Rhaid cael amser i ymarfer yr iaith a rhaid ffeindio cyfleoedd i’w defnyddio hi. Nid mewn dosbarth mae rhywun yn dysgu iaith ond yn y byd go iawn.”