Ar ddiwrnod cyntaf y Gynhadledd IATEFL yn Harrogate, penderfynon ni fynd i weithdy yn dwyn y teitl ‘Making Mondays Marvellous’. Roedd y sesiwn yn ddefnyddiol iawn i ni, ac roedd yn seiliedig ar gynllunio a pharatoi gwers fendigedig. Roedd y rhan fwyaf o’r bobl a fynychodd yn diwtoriaid a oedd yn dysgu Saesneg i bobl oedd wedi dod i Brydain o bob rhan o’r byd. Roedd gan un tiwtor 16 o fyfyrwyr yn ei dosbarth hi ac o’r 16 hynny roedd 14 yn dod o wledydd gwahanol! Roedd cefndir personol rhai o’r myfyrwyr yn anodd iawn, a daeth yn amlwg fod y tiwtoriaid yn delio â phobl sydd wedi dioddef profiadau erchyll. O ganlyniad, maen nhw’n gorfod ystyried cynnwys eu gwersi yn ofalus iawn.
Roedd y sesiwn lawn gan Tessa Woodward ar ‘Gylch Bywyd Proffesiynol Athrawon’ yn ardderchog ac yn ddiddorol a llawn hiwmor. Roedden ni i gyd yn gallu uniaethu â’i phortreadau!
Un o’r gweithdai mwyaf diddorol a defnyddiol i mi oedd yr un gan Romana Vancakova o Prague. Roedd hi’n rhoi syniadau i ni ynghylch sut mae’r cof yn gweithio ac yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i ni ynghylch sut i hybu cof ein myfyrwyr. Roedd hi’n dangos i ni sut mae’n haws cofio brawddegau na geiriau unigol. Pwysleisiodd yr angen i roi amcanion clir a dechrau gyda gweithgaredd diddorol a chloi yn effeithiol, gan fod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i gofio dechrau a diwedd y wers. Awgrymwyd ein bod ni’n gwneud rhywbeth annisgwyl yn y canol er mwyn cadw pobl yn effro!
Roedd y sesiwn ‘Goodbye Glue and Tippex; hello Teachitworld’ yn cyflwyno rhaglen newydd o adnoddau ar-lein. Roedd y cyflwyniad ychydig yn siomedig ac wrth gwrs yn llai defnyddiol i ni gan fod yr adnoddau i gyd yn Saesneg.
‘Caneuon pop a sgript ffonetig’ oedd nesaf gan Sylwester Lodej o Wlad Pwyl. Cafwyd llawer o hwyl yn y sesiwn hon. Roedd rhaid i ni gyfieithu'r sgript ffonetig er mwyn darganfod geiriau'r caneuon pop. Roedden ni’n cael gwrando ar y caneuon wedyn. Y nod oedd gwella ynganu wrth gwrs.
Gweithdy defnyddiol arall oedd ‘Dyslexia: Obesity not measles’. Roedd Monika Lodej, hefyd o Wlad Pwyl, yn dangos pwysigrwydd defnyddio llawer o wahanol fathau o ddrilio a strategaethau darllen er mwyn helpu pobl â dyslecsia i gofio geirfa newydd.
Ar ddiwedd y dydd aethom i wrando ar Juliet du Mont yn sôn am gael pobl i ddefnyddio symudiadau yn y dosbarth i hybu’r cof. Roedd rhai o’r ymarferion yn werthfawr.
Pan oeddwn i’n ferch fach yn yr ysgol gynradd, roedd yr athrawes yn gwneud ei gorau glas i ddysgu i mi sut i ddefnyddio cuisinaire ond heb lawer o lwyddiant. Es i i’r gweithdy ‘A few rods and sods – Dusting off your cuisinaire rods’ gan Joanne Gakonga i wynebu fy ofnau! Roedd hi’n defnyddio cuisinaire, sef rods o wahanol hyd a lliw, er mwyn dweud stori. Roedd y tiwtor yn fedrus iawn ac yn cynnwys pawb yn y stori, yn atgyfnerthu’r patrymau iaith yr oedd hi eisiau eu defnyddio trwy’r amser. Roedd y myfyrwyr, ar ôl cyfrannu at y stori wreiddiol, yn cael y cyfle wedyn i ailadrodd y stori mewn grwpiau bach. Llawer o hwyl a llawer gwell na gwneud mathemateg gyda nhw!
Ar ôl cael te a chacen fach yn yr enwog Betty’s Tea Room yr oedd yn amser i fynd adref yn llawn syniadau i’w haddasu ar gyfer y dosbarthiadau Cymraeg. Mwynheuais y gynhadledd yn fawr ac yn edrych ymlaen at fynychu'r un nesaf yn Brighton.
Alison Vaughan Jones