Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru

Lansio cynllun sabothol

Yn ystod wythnos grasboeth Eisteddfod yr Urdd yn Llanerchaeron ddiwedd mis Mai eleni, lansiwyd y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynllun Sabothol

mefusCynllun yw hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn cynyddu nifer yr athrawon, darlithwyr a hyfforddwyr dwyieithog yng Nghymru.

Y bwriad yw datblygu hyder ymarferwyr i wneud y canlynol:

  • defnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth ddysgu, asesu a gwneud gwaith gweinyddol
  • defnyddio terminoleg pwnc yn effeithiol
  • defnyddio dulliau dysgu cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn hyderus

Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer:

  • athrawon cynradd ac uwchradd (ac athrawon cyflenwi); darlithwyr Addysg Bellach; hyfforddwyr; darlithwyr Addysg Uwch (cwrs dysgu o bell yn unig)
  • siaradwyr Cymraeg rhugl, naill ai siaradwyr iaith gyntaf neu ddysgwyr

Mae dau fath o gwrs yn cael eu cynnig:

llinell

Y Lansiad

Ceinwen JonesEstynnwyd croeso cynnes i bawb gan Ceinwen Jones, APADGOS, a rhoddwyd ychydig o gefndir y cynllun. Lansiwyd y cynllun yn swyddogol gan Carwyn Jones A.C. Prif Weinidog.

Carwyn JonesAethpwyd ymlaen i sôn am y peilot cyntaf a gynhaliwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, o Ionawr 2010 tan fis Mawrth 2010, a welodd 12 athro o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg yn cymryd rhan. (10 o sir Benfro, 2 o sir Gaerfyrddin). Cafwyd ychydig eiriau gan Dr Medwin Hughes, Is-Ganghellor Coleg y Drindod. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan Aled Davies o Ganolfan Cymraeg i Oedolion y De Orllewin, sydd yn un o bartneriaid y Cynllun Sabothol.
 
Soniwyd am y deunyddiau a ddefnyddiwyd, sef cwrs Mynediad a Sylfaen CBAC, er mwyn creu siaradwyr o athrawon ar gyfer gwella ansawdd a chodi safonau yn eu hysgolion. Nodwyd bod y cwrs wedi ei gyd-destunoli i fod yn berthnasol i'w gwaith pob dydd ac i iaith y dosbarth.

Jayne MarcianoDywedodd Marian Thomas, un o diwtoriaid Coleg y Drindod, fod cyflawniadau’r 12 athro wedi trechu pob disgwyliad gyda phob un ohonynt yn fodlon siarad Cymraeg â'i gilydd ac eraill, ac yn awyddus i barhau i ddysgu ac i wella.

Cyflwynwyd y tystysgrifau i gyfranogwyr y Cwrs Sylfaen gan Carwyn Jones a chafodd un ohonynt, sef Jayne Marciano (Dirprwy bennaeth Ysgol Gynradd Saundersfoot), gyfle i annerch y gynulleidfa a sôn am ei phrofiadau ar y cwrs. Eglurodd hefyd sut y bydd ei phrofiadau ar y cwrs yn ysgogi newidiadau yn ei hysgol a nododd ei chynlluniau i gynyddu dwyieithrwydd yr ysgol.

 

llinell