gan Jo Knell
Croeso i Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010. Bydd hi’n wythnos brysur iawn ym Maes D ac mae gennym raglen gyffrous iawn ar gyfer dysgwyr, tiwtoriaid a Cymry Cymraeg!
Fe sylwch fod Gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal ddwywaith bob dydd ym Maes D. Bydd gwersi ar dair lefel ar gael: dechreuwyr pur, Lefel Mynediad, a Lefel Sylfaen/Canolradd. Ar yr un pryd â’r gwersi cynigir sesiynau o ddiddordeb i ddysgwyr mwy profiadol a siaradwyr rhugl, megis cyflwyniad i’r gynghanedd gyda Myrddin ap Dafydd, trafodaeth ar Enwau Lleoedd Blaenau Gwent gyda Frank Olding, a sgwrs am Y Mabinogi gyda’r Athro Sioned Davies. Gobeithio bydd y sesiynau hyn yn denu cynulleidfa ehangach o Gymry Cymraeg hefyd.
Bob nos bydd eitem cerddorol gyda ni am 6pm felly dewch draw i fwynhau nosweithiau hafaidd Cymreig yng nghwmni Brigyn, Pedwarawd Llinynnol Mavron a’r Betti Galws, ymysg eraill.
Hefyd, fe fydd Phyl Griffiths o Siop y Ganolfan ym Merthyr Tudful yn cynnal stondin lyfrau ym Maes D trwy gydol wythnos yr Eisteddfod. Dyma’ch cyfle i brynu holl adnoddau Cymraeg i Oedolion, yn ogystal â chopïau o'r Ffeil Hyfedredd fydd yn cael ei lansio ym Maes D ar 31 Gorffennaf.
Eleni bydd Maes D ar agor bob dydd o 9 o’r gloch y bore tan 7.30 y nos, heblaw am ddydd Mercher 4 Awst pan fyddwn yn cau am 5 o’r gloch er mwyn i bawb fynd draw i Lanhiledd ar gyfer Noson Dysgwr y Flwyddyn sy’n dechrau am 7pm. Cynhelir y noson eleni yn Sefydliad y Glöwyr Llanhiledd. Arweinydd y noson yw Garry Owen, BBC, ac fe fydd bwffe a thwmpath gyda Jac-y-Do.
Edrychwn ymlaen at Eisteddfod brysur a llwyddiannus, a diolch am eich cefnogaeth.