# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 7 Haf 2009


 ciwb.gif
Mae ail flwyddyn Clwb Cymdeithasol i Ddysgwyr a Chymry Cymraeg yn ardal yr Wyddgrug yn dirwyn i ben. Erbyn hyn mae ganddon ni bron i 150 o aelodau – traean yn Gymry Cymraeg o’r crud, traean wedi dysgu’n rhugl a thraean yn aelodau o ddosbarthiadau Prifysgol Bangor o lefel Pellach i fyny. Dechreuodd y clwb fel datblygiad i weithgarwch codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 – syniad criw o gyn-ddysgwyr brwd oedd wedi mwynhau cymdeithasu ac ymarfer eu Cymraeg. Mae ganddon ni fwy o aelodau nag erioed erbyn hyn! Ein pwrpas ydy rhoi cyfle i bobl gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg – mewn digwyddiadau arbennig (rhyw unwaith y mis) neu rai sydd wedi eu trefnu’n barod gan y gymdeithas Gymraeg yn yr ardal.

Eleni eto rydan ni wedi trefnu nosweithiau o gerddoriaeth Gwyddelig a Chymraeg, dawnsio gwerin, ymweliadau theatr a ffilm (gan gynnwys sgwrs ddifyr gan Cefin Roberts), noson o flasu gwin efo hanesion aelodau C Ciwb sydd wedi byw dramor a chafwyd hefyd brydau bwyd yn dilyn digwyddiadau Cymraeg yn yr ardal. Daeth nifer o aelodau C Ciwb a Pharti’r Pentan ar daith Dysgwyr Prifysgol Bangor i Ganolfan yr Urdd, Bae Caerdydd .

Mi gawson ni noson Tapas a Salsa ardderchog efo Pam Evans-Hughes a’i chriw, gyda nawdd gan CYD a diolch o galon iddynt! Rydym wedi annog ein haelodau i gefnogi llawer o ddigwyddiadau Cymraeg lleol – yn Dwmpathau, yn noson Blygeiniol, yn noson Farddoniaeth, yn noson 70au... Rydan ni’n gofyn i fudiadau a chymdeithasau Cymraeg lleol ein gwahodd atyn nhw (gan obeithio denu aelodau newydd i’r cymdeithasau) ac eleni eto mi gawson ni groeso gan Ferched y Wawr yr Wyddgrug a Threffynnon, a Dawnswyr Delyn.

Un uchafbwynt diweddar oedd taith hanesyddol i’r teulu i Ffynnon Gwenffrewi Treffynnon a Dyffryn Maesglas. Daeth dros hanner cant o bobl ynghyd, o bob oed: o ddyflwydd hyd at oed yr addewid!

Mae ’na griw o’r Clwb yn edrych ymlaen at noson efo Bryn Fôn yn Wrecsam ar 12 Mehefin ac at Stomp farddonol yn yr Wyddgrug. Mi fyddwn ni hefyd yn cyfarfod yng Ngŵyl Werin Tegeingl Bach, yr Wyddgrug ar 10-12 Gorffennaf (www.tegeingl.com) ac yn gorffen ein hail flwyddyn yng nghwmni Clwb Cinio Wil Bryan ar 15 Gorffennaf.

Yn ystod yr haf hefyd bydd yna daith fws i’r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala ar y cyd rhwng dysgwyr y Brifysgol ac aelodau C Ciwb.

Mae Rhaglen ein trydedd flwyddyn yn siapio yn barod. Mi fyddwn ni’n edrych ymlaen at gefnogi’r Clwb Gwawr newydd ym mis Medi, at glywed Gwyneth Glyn yng Ngŵyl Fama ym mis Hydref, at weld drama newydd Michael Povey ym mis Tachwedd, ac at noson Blygeiniol arall ym mis Ionawr. Hefyd, nosweithiau efo cymdeithasau Cymraeg y fro, noson Geltaidd rhwng dyddiau’r seintiau Dewi a Phadrig, a noson Iberaidd efo gwin, tapas, canu a dawnsio! Rydym yn casglu syniadau pob mis Medi yn ein cyfarfod cyntaf.

I fod yn aelod o Glwb C Ciwb o fis Medi ymlaen (dim ond £2 – bargen!) cysylltwch ag Eirian Wyn Conlon a Pauline Owen ar  e.conlon@bangor.ac.uk (01352 756080.


Eirian Conlon

purpleline.jpg