Yn y rhifyn hwn, ar un llaw, rydym yn rhoi croeso cynnes i Ganolfan Iaith Gwent gan ddod i adnabod swyddogion datblygu y Ganolfan. Tybed a ydyn nhw ymysg y cannoedd o bobl sydd wedi bod yn hel ysbrydion yn Llancaiach Fawr! Ar y llaw arall, rydym yn ffarwelio â Phatagonia am y tro wrth i Gill Stephen edrych yn ôl ar ei phrofiadau yno.
Yn y rhifyn hwn hefyd mae yna wybodaeth am adnoddau newydd a gwybodaeth am wasanaeth gloywi Cyfiaith – cysylltwch â nhw ar frys os hoffech drefnu hyfforddiant i’ch tiwtoriaid neu’ch myfyrwyr. Cawn gipolwg ar yr holl newidiadau cyffrous yn Nant Gwrtheyrn, a rhoddir sylw hefyd i’r maes ymchwil, sef ymchwil i Gyrsiau Cymraeg yn y Gweithle ac ymchwil i agwedd dysgwyr tuag at ddysgu.
Os hoffech wybod mwy am Y Clonc Mawr ac adnoddau Sir Benfro, ewch i’r adran Canolfannau. Yno hefyd cewch wybod beth yw’r cysylltiad rhwng Minnesota, Nanjing, Caerdydd a’r Gymraeg. Yn yr adran Arholiadau darllenwch am Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ac ewch i’r adran Proffil i gael gwybod pwy yw swyddog datblygu Blaenau Gwent a phwy sy’n hoffi paentio wynebau!
Peidiwch anghofio’r dudalen Clecs a chofiwch fod dyddiad cau enwebu tiwtor ar gyfer Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas yn prysur agosáu. Rydym hefyd yn rhoi sylw i Dlws Coffa Robina Elis-Gruffydd.
Mae’r adran Deunydd Dysgu yn orlawn ac yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau wedi eu lefelu, o weithgaredd sain yn ymwneud â phortread i dasgau Bingo a chwileiriau. Mae yma dasgau trafod yn ymwneud â Seisnigo Radio Cymru a thasgau cyfieithu.
Ac yn olaf.... cyfle arall i ennill gwobr arbennig yn ein cystadleuaeth! A ydych chi am fentro i Lancaiach Fawr...?
Pob hwyl!