# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

tlws.jpg  




Mae ambell berson yn cyfoethogi bywydau pawb y dônt i gysylltiad â nhw. Mae sglein arbennig ar bob gweithgaredd o’u heiddo, ac maent yn medru ysgogi edmygedd, hyder a brwdfrydedd ym mysg pobl eraill. Does dim dwywaith nad oedd Robina Elis-Gruffydd yn un o’r bobl hynny. O ran ei chefndir, hanai o berfeddion Lloegr, a dim ond ar ôl symud i Gymru gyda’i gŵr, Dyfed, y dysgodd Gymraeg. Ond pan ddaeth i fro’r Preseli i fyw, fe wnaeth llawer iawn mwy nag ymgartrefu yn ein plith – fe fwriodd wreiddiau, a’r rheiny’n wreiddiau dyfnion. Ymfalchïodd yn nhraddodiadau gorau’r ardal, a’u mabwysiadu’n llawn yn eiddo iddi, gan lafurio’n gyson a dygn i’w hybu. Wedi dysgu’r iaith ei hun, er enghraifft, datblygodd i fod yn diwtor Cymraeg ysbrydoledig gan ddenu llu o ddysgwyr newydd at yr iaith trwy ei brwdfrydedd heintus a’i hegni hoffus.

Ac nid Cymraeg fel ail iaith yn unig oedd ei thiriogaeth – bu Robina’n allweddol i lwyddiant sawl menter yn ei hardal fabwysiedig. Hi oedd un o hoelion wyth cynnar y papur bro, Clebran; bu’n gefn cadarn a phwysig wrth sefydlu a chynnal Siop Siân yng Nghrymych, yn gynghorydd plwyf ac yn glerc y cyngor yng Nghlydau, yn weithgar gyda Phlaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith a llu o achosion tebyg. Wrth ymddiddori mewn cysylltiadau rhwng Cymru a Llydaw, aeth ati i ddysgu’r iaith honno hefyd, gan ddangos parch at y diwylliant hwnnw, yn hytrach na chymryd y llwybr hawdd a defnyddio Saesneg a Ffrangeg i gyfathrebu. Person felly oedd hi. O gymryd diddordeb, fe gymerai ddiddordeb trylwyr. Nid chwarae o gwmpas ar y cyrion a wnâi Robina, ond plymio i’r dwfn, gan gymryd pob her newydd o ddifrif – ond nid yn or-ddifrifol. Oherwydd un o’r nodweddion a erys yn y cof am Robina wedi i ni ei cholli yw’r wên a oedd ar ei hwyneb ar bob achlysur. Person llawen ydoedd ac roedd y llawenydd hwnnw’n heintus.

Yr oedd byd natur a’r amgylchfyd yn bwysig iddi hefyd, ac fe fu’r un mor driw a thrylwyr ei gweithredu yn y meysydd hynny ag y bu yn ddiwylliannol a chymdeithasol.

Yng ngwasanaeth coffa Robina, dywedodd y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd mai’r ffordd orau y medrem anrhydeddu Robina fyddai trwy sicrhau ein bod yn dilyn ei hesiampl, ac yn gweithredu yn yr un modd â hithau.

Cwbl addas, felly, yw bod Tlws Coffa Robina wedi ei sefydlu er mwyn meithrin a hybu parhad yr ysbrydoliaeth a roddodd Robina i gynifer yn y meysydd yr ymddiddorodd hithau ynddyn nhw – yn benodol, yr iaith Gymraeg, Dysgu Cymraeg, y diwylliant Cymraeg a lles yr amgylchedd, byd natur a gwarchodaeth. Dyfernir y wobr i unigolyn neu grŵp sy’n weithredol o fewn ffiniau’r hen sir Ddyfed. Cerflun cain o ehedydd yw’r Tlws, o waith Wynmor Owen, Trefdraeth.

Coffeir Robina’n deilwng gan y Tlws hwn oherwydd ei fod yn wobr am gefnogaeth i’r gwerthoedd y credai hithau ynddynt. Robina a’i gwaith oedd yr ysbrydoliaeth i’r Tlws. Yn ei dro, gall y Tlws, a’r gweithgarwch a ddeillia o fod yn deilwng o’i ennill, fod yn ysbrydoliaeth i barhau’r etifeddiaeth y bu hithau mor weithgar drosti. Bydd angen i’r ceisiadau gyrraedd y pwyllgor erbyn 11eg o Fedi 2009. Dewisir yr enillydd erbyn 1af o Hydref, a chyflwynir y Tlws yn ystod Eisteddfod Gadeiriol Crymych, 10fed o Hydref 2009.

Terwyn Tomos

Am fanylion pellach cysyllter â Menter Iaith Sir Benfro, 17,Y Wesh, Abergwaun, SA65 9AL. Ffôn:01239 831129. E-bost:Rhian@mentersirbenfro.com

purpleline.jpg