# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

blas.jpg
Ychydig o flynyddoedd yn ôl cymerodd dysgwyr Cymraeg Castell-nedd a Phort Talbot ran mewn prosiect ymchwil yn edrych ar eu hagwedd tuag at y broses ddysgu. Hoffwn roi blas i chi o rai o’r trafodaethau a gododd yn sgîl y gwaith ac sydd dal yn berthnasol heddiw.

Gwnaethpwyd yr ymchwil drwy holi holl ddysgwyr cyrsiau darnynol (unwaith yr wythnos) Cymraeg i Oedolion Coleg Castell-nedd Port Talbot rhwng 1998 a 2000 am eu profiad dysgu.

Edrychwyd yn gyntaf ar yr amser mae’n ei gymryd i ddysgu’r iaith. Erbyn hyn mae canllawiau’r Llwybr Credydau yn awgrymu y gall gymryd hyd at chwe blynedd i gyrraedd diwedd lefel Canolradd. Yn y ganrif ddiwethaf (!) gofynnwyd i’r dysgwyr faint o flynyddoedd roedden nhw’n meddwl y byddai’n cymryd iddynt ddysgu’r Gymraeg ac roedd bron i 11% yn meddwl eu bod yn gallu gwneud hynny o fewn blwyddyn yn unig. Wrth edrych yn fanylach gellir nodi bod bron i 17% o’r rhai a adawodd eu cyrsiau cyn y diwedd yn credu hynny. O’r grŵp yna roedd bron i 80% yn meddwl y byddai’n bosibl dysgu o fewn 3 blynedd. Ymhlith y bobl oedd yn parhau i fynychu dosbarthiadau mae’r canran yn gostwng i 43%. Mae’r ffigyrau yn awgrymu bod dysgwyr sydd â disgwyliadau mwy realistig o ran yr amser mae’n ei gymryd i ddysgu yn fwy tebygol o aros yn eu dosbarthiadau.

animated-line.gif
      Proffil

Wrth edrych ar gefndir y grŵp mae nifer o bwyntiau diddorol yn codi. I ddechrau roedd proffil oedran dysgwyr unwaith yr wythnos yn hŷn na phroffil dysgwyr Wlpan (ymchwil a wnaed gan Steve Morris). Roedd tua hanner dysgwyr y sector darnynol o dan 45 mlwydd oed. Roedd y canran yn codi i 64% mewn dosbarthiadau dwys.

Gwelwyd hefyd fod tri chwarter aelodaeth y dosbarthiadau darnynol yn fenywod. Yn hyn o beth mae’r maes Cymraeg i Oedolion yn dilyn tueddiad cyffredinol. Am yr un cyfnod mae ymchwil Y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod 75% o ddysgwyr ar gyrsiau addysg oedolion yn fenywod. O’r dynion sydd yn astudio unwaith yr wythnos mae 62% dros 45 oed.

Ffigur i achosi pryder efallai yw’r ffaith bod 79% o’r dysgwyr (y rhai a’u magwyd yng Nghymru) wedi astudio’r Gymraeg mewn ysgolion uwchradd a bod 28% wedi sefyll arholiad ffurfiol (TGAU/Lefel O/A). Wrth drafod hyn rhaid ystyried ffactorau megis oedran, newid yn y cwricwlwm, amser ers gadael yr ysgol a phrinder cyfleoedd a chymhelliant i ddefnyddio’r Gymraeg. Ond mae’r ffigyrau yn awgrymu y dylid edrych o ddifri ar nod astudio’r Gymraeg mewn ysgolion cyn inni ddathlu ffigyrau’r Cyfrifiad nesaf yn ormodol.

Mae croeso i chi gysylltu â mi os hoffech fwy o wybodaeth.

Chris Reynolds

purpleline.jpg