Un o atyniadau mwyaf ardal Caerffili yw Maenordy Llancaiach Fawr. Mae’n boblogaidd gan ymwelwyr o bob man, ac a dweud y gwir, mae rhai ymwelwyr wedi bod yno ers canrifoedd! Ceir yno staff sy’n siarad Cymraeg ac mae’r lleoliad yn wych ar gyfer teithiau dysgu anffurfiol. Ewch i’r wefan i gael gwybod mwy am galendr digwyddiadau’r flwyddyn: www.caerphilly.gov.uk/llancaiachfawr
Ddoe…
Wrth edrych ar leoliad heddychlon a gwledig Maenordy Llancaiach Fawr, mae’n anodd credu’r trais a fu yno yn ystod ei flynyddoedd cynnar. Cafodd y Maenordy ei adeiladu yn 1530 ar gyfer Dafydd ap Richard. Oherwydd y waliau cerrig trwchus, bu’n hawdd amddiffyn y Maenordy yn ystod cyfnodau cythryblus y brenhinoedd a’r breninesau Tuduraidd. Erbyn i’r Stiwartiaid gyrraedd yr orsedd, roedd teulu’r Prichard yn llewyrchus iawn, ac yn 1682 newidiwyd ac estynnwyd y tŷ er mwyn arddangos eu cyfoeth. Yn 1642 dechreuodd Rhyfel Cartref y Brenin a’r Senedd a daeth y Cyrnol Prichard yn Gomisiynydd gan godi arian a recriwtio dynion ar gyfer achos y Brenhinwyr yn Sir Morgannwg.
Heddiw….
Mae Llancaiach Fawr yn amgueddfa Hanes Byw. Gellir camu nôl mewn amser i Faenordy a adferwyd ac a ddodrefnwyd fel y bu yn y flwyddyn 1645, pan newidiodd teyrngarwch y bobl leol, gan droi o gefnogi’r Brenin tuag at y Senedd. Rydych yn cael eich croesawu gan weision yr 17eg Ganrif sy’n tywys ymwelwyr o amgylch y Maenordy. Gallwch weld a chlywed sut roedd pobl gyffredin yn byw, a beth oedd effeithiau’r rhyfel a’r ofergoelion niferus ar lên gwerin oedd mor bwysig ym mywydau’r bobl. Mae Llancaiach Fawr hefyd yn gartref i ysbrydion go iawn!
Mewn arolwg barn yn ddiweddar, rhoddwyd Llancaiach Fawr ar y rhestr Deg Uchaf o’r adeiladau sy’n cynnwys ysbrydion ym Mhrydain. Mae pethau rhyfedd iawn wedi’u gweld ym mhob ystafell bron ac ar hyd y coridorau ac ar y grisiau. Mae aroglau arbennig yn cael eu harogli yno ar adegau hefyd, weithiau lafant ac weithiau cig eidion wedi’i rostio!
Dyma’ch cyfle chi i ennill tocyn teulu Llancaiach Fawr. (Mynediad am ddim i ddau oedolyn a dau blentyn.) Atebwch y cwestiwn isod drwy fynd i adran ‘Cysylltu’ y Tiwtor. Anfonwch eich ateb cyn y dyddiad cau, sef 18 Mai, 2009.
Ym mha sir y mae
Llancaiach Fawr?
Pob lwc!