# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

   Adnoddau newydd,
   am ddim, ar y we
   ar gyfer oedolion
   sy’n dysgu Cymraeg
gan Dewi Rhys-Jones


deorll.jpg
Mynediad Sir Benfro
Mae adnoddau newydd ar gael am ddim nawr ar y we ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg yn Sir Benfro. Enw’r adnoddau yw Mynediad Sir Benfro ac mae e ar gael ar mynediadsirbenfro.co.uk

Mae e wedi’i anelu yn bennaf at oedolion sydd ar Lefel Mynediad, ond mae’n addas hefyd ar gyfer y rhai sy’n dilyn cwrs Sylfaen. Mae deunydd ysgrifenedig ar gael ond mae llawer o’r adnoddau wedi’u recordio sy’n galluogi myfyrwyr i ddarllen y sgriptiau dwyieithog a gwrando ar diwtoriaid yn eu darllen nhw ar yr un pryd. Mae’r mwyafrif o’r tiwtoriaid sy’n darllen y sgriptiau yn dod o Sir Benfro a dyma gyfle i fyfyrwyr gael blas ar Gymraeg y sir. Nid cwrs yw Mynediad Sir Benfro ond yn hytrach mae’n cynnig deunydd ychwanegol sy’n ategu’r cyrsiau swyddogol sydd ar gael. I ddefnyddio Mynediad Sir Benfro ewch i mynediadsirbenfro.co.uk

Yn y llun gwelir Carl Lewis (swyddog Cyngor Sir Benfro), Dewi Rhys-Jones (tiwtor drefnydd), Liz Young (tiwtor) a Peter Rees (tiwtor) yn gweithio ar adnoddau Mynediad Sir Benfro.

Ar y safle hefyd mae yna galendr gyda gwybodaeth am gyrsiau Cymraeg i oedolion ac am y Cloncie yn Sir Benfro, sef cyfarfodydd anffurfiol tu allan i’r ‘stafell ddosbarth sy’n cynnig cyfle i oedolion gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r Cymry. Mae gwybodaeth hefyd am weithgareddau eraill sy’n digwydd fyddai’n helpu oedolion i ddysgu Cymraeg.


Y Clonc Mawr

Un enghraifft o’r pethau sy’n cael eu trefnu yw’r Clonc Mawr. Y syniad tu ôl i’r Clonc Mawr yw cerdded rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bob mis. Bydd wyth deg Clonc Mawr, un dydd Sadwrn y mis dros gyfnod o chwe mlynedd a hanner! Cynhaliwyd yr un cyntaf ar ddydd Sadwrn, Mawrth 14 - roedd oedolion sy’n dysgu Cymraeg, a’r Cymry sy’n eu cefnogi nhw, wedi cwrdd yn Amroth am 11.00y.b. gan gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro i Saundersfoot erbyn tri o’r gloch, ac wedyn aethant i’r dafarn i wylio Cymru’n chwarae yn erbyn yr Eidal. Mae’r manylion ar gael ar galendr mynediadsirbenfro.co.uk neu drwy ffonio 01437 776785. Mae croeso i bawb sy’n hoffi cerdded a chloncian yn Gymraeg boed yn oedolion sy’n dysgu Cymraeg neu Gymry Cymraeg. Mae croeso hefyd i deulu a ffrindiau.   

deorll2.jpg

Gwelir manylion Clonc Mawr 2 isod:

Y Clonc Mawr 2
Saundersfoot i Ddinbych y Pysgod
Rhan 2 o 80

Taith gerdded ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, eu tiwtoriaid, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Rhan fach o Lwybr Arfordir Sir Benfro bob mis am wyth deg mis.

Dydd Sadwrn 18/04/09

11.00y.b. Cwrdd ym maes parcio Saundersfoot. Cyrraedd Gwesty’r Esplanade (1 Yr Esplanade, Dinbych y Pysgod) erbyn 2.00y.p. i gael dished a chacenni siocled! Ble mae castell y brenin Cymreig Bleiddudd? Ar Riw’r Castell ‘falle? Mae e’n enwog o achos y gerdd Edmyg Dinbych O.C.895.

Hyd: Tua tair milltir

Gwglwch Y Clonc Mawr neu ewch i galendr mynediadsirbenfro.co.uk

Cyswllt: Dewi 01437 776785
Dosbarthiadau:

Pentigily gan Hefin Wyn tud. 345-329. Y Lolfa 2008. 978 1 847710 420

Dydy trefnwyr Y Clonc Mawr ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am anaf, colled, ayyb.


    Addwyn gaer y sydd yn yr eglan,
    Yn yd wna tonnau eu hamgyffrwn,
    Parheid hyd bell y Clonc Mawr a
    dreiddwn!

    Edmyg Dinbych O.C.895

purpleline.jpg