Cefndir
Mae Canolfan y Gogledd newydd gwblhau prosiect ymchwil gyda 108 o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a gwirfoddol ar draws y rhanbarth. Roedd gan bob sefydliad yn y sampl Gynllun Iaith Gymraeg, ac o’r herwydd roedd disgwyl iddynt feddu ar drefniant ffurfiol ar gyfer cynnig hyfforddiant iaith Gymraeg i’w staff. Derbyniwyd ymateb gan 44% o’r sampl.
Nod y gwaith oedd canfod lle gallai’r Ganolfan gydweithio gyda’r sector cyhoeddus yn benodol, er mwyn eu cynorthwyo i drefnu a chynllunio eu hyfforddiant iaith yn fwy effeithiol a rhoi sylw i unrhyw fannau gwan. Roedd yr hyn a ganfuwyd, fodd bynnag, yn peri cryn bryder, fel y gwelir isod.
Prif Ganfyddiadau
• Doedd gan 41% o’r ymatebwyr ddim Strategaeth Sgiliau Iaith (SSI), a gwelwyd y raddfa isaf yn y sector iechyd lle nad oedd gan 72% o’r sampl unrhyw SSI.
• Yn yr un modd, nid oedd gan 36% Gynllun Hyfforddiant Cymraeg i staff, gyda hyn isaf yn y sector gwirfoddol (67%) a’r sector iechyd (43%).
• Cyllido hyfforddiant iaith - doedd dim cyllideb hyfforddiant iaith penodol gan 34%.
• Doedd mwyafrif y sefydliadau ddim yn gwybod faint o amser mae’n gymryd i ddysgu iaith.
• Canran bach iawn o hyfforddiant iaith sy’n cael ei arwain gan ofynion y sefydliad; mae’r mwyafrif yn digwydd o ganlyniad i gais gan aelod o staff.
• Dim ond 36% o gyflogwyr sy’n gosod nodau dysgu penodol i staff cyn dechrau ar yr hyfforddiant. Y sector addysg a llywodraeth leol sydd uchaf gyda 40% a’r sector iechyd sydd isaf ar 29%.
• Dim ond traean o sefydliadau sydd yn trafod gofynion hyfforddi gyda’u hyfforddwr er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant yn ateb gofynion pwrpasol y sefydliad.
• Nid yw cynnydd staff yn cael ei fesur gan 48% o gyflogwyr. Y sector iechyd sydd â’r canran isaf gyda 71% ddim yn cael ei fesur; a llywodraeth leol ar y pegwn arall gyda 26% ddim yn cael ei fesur.
• Un o bob 5 yn unig o’r sefydliadau sydd yn gwerthuso llwyddiant a chost yr hyfforddiant i’w staff yn flynyddol.
• Dim ond traean o’r sefydliadau sydd yn rhyddhau eu staff yn llwyr i fynychu hyfforddiant iaith.
• Dim ond 11% o’r sefydliadau sy’n mynnu bod eu staff yn mynychu bob gwers.
• Disgwyliadau o ran defnyddio’r Gymraeg: dim ond 9% sy’n disgwyl i’w staff ddefnyddio’r Gymraeg a ddysgwyd, ac mae 12% yn nodi nad oes disgwyl o gwbl i’w staff ddefnyddio’r Gymraeg.
• Does gan traean y sefydliadau ddim trefniant mentor, a dydy hanner ohonynt ddim yn rhoi gwybod i gydweithwyr fod staff yn dysgu Cymraeg.
Y ffordd ymlaen
Mae’n achosi pryder mawr, wrth reswm, fod gwendidau mor amlwg gan gyfran sylweddol o gyrff cyhoeddus y gogledd (a thu hwnt mae’n siŵr), yn eu gweithdrefnau hyfforddiant Cymraeg. Yn anffodus, mae’r nodweddion a grybwyllir uchod yn tanseilio gwaith pwysig sy’n cael ei wneud gan y Canolfannau er mwyn ceisio creu siaradwyr sy’n defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac yn eu bywydau bob dydd.
Sut mae ymateb i hyn felly?
Yn sicr mae angen i’r Canolfannau, Llywodraeth y Cynulliad a’u partneriaid perthnasol ddechrau trafod y broblem hon gyda’r nod o sefydlu camau cywiro cadarn. Yn y tymor byr, mae Canolfan y Gogledd, fel enghraifft, yn cynnig ymgynghoriadau yn rhad ac am ddim (mewn cydweithrediad â Chwmni Iaith) gyda golwg ar sicrhau bod sefydliadau yn osgoi’r gwendidau a restrir uchod. Yn y tymor canolig a hir, fodd bynnag, mae angen sefydlu trefn lle mae cynlluniau hyfforddi neu Strategaethau Sgiliau Iaith y cyrff hyn yn cael eu monitro’n ofalus, fel bod arferion gwael yn cael eu chwynnu ac arferion da’n eu disodli.