# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

      arholi2.jpg
Gan fod hwn yn gwestiwn parhaus ar feddyliau tiwtoriaid Cymraeg i oedolion y byd, dyma geisio cynnig cyflwyniad cryno. Un o’r pethau cyntaf i’w ddweud amdano yw bod y fframwaith yn bodoli:

Common European Framework of Reference for Languages: Learning, teaching, assessment
Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2001

Mae clawr glas i’r fersiwn Saesneg, ond mae’r cysylltiad â llyfrau gleision eraill ym maes addysg yn gwbl anfwriadol. Dylai fod wrth benelin pob tiwtor. Cyngor Ewrop sy’n gyfrifol amdano, ac fe’i cyfieithwyd i o leiaf 37 o ieithoedd eraill. Pencadlys yr adran ieithoedd dan Gyngor Ewrop yw’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Modern yn Graz, ac mae’n werth edrych ar y wefan: www.ecml.at

Er bod teitl y fframwaith yn drwsgl, mae’n ei esbonio’i hun - fframwaith y gall tiwtoriaid, dysgwyr, sefydliadau, cyflogwyr ac eraill gyfeirio ato, i roi arwydd o lefel cymhwysedd iaith unigolyn (oedolion yn bennaf). Nid i swyddogion arholiadau yn unig y mae’n berthnasol, ond i ddysgwyr, tiwtoriaid a’r canolfannau sy’n eu cynnal hefyd. Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn defnyddio’r fframwaith (heblaw am wledydd Prydain, wrth gwrs), ac yn cyfeirio at ‘ddysgwyr sydd ar B1’, ‘cyrsiau sy’n arwain at A2’, neu ‘arholiadau ar lefel C1’. ’Dyn ni ymhell ar ei hôl hi.

Esblygodd y fframwaith o waith a wnaed yn y saithdegau. Bydd y tiwtoriaid hynaf yn cofio enwau fel John Trim a Jan van Ek a luniodd The Threshold Level for Modern Language Learning in Schools a’i gyhoeddi ym 1976. Yn y saithdegau hefyd y cyhoeddodd David Wilkins lyfr ar feysydd llafur tybiannol i ddysgu iaith mewn ysgolion. Roedd y rhain yn rhan o’r mudiad cyfathrebol a’r adwaith yn erbyn dysgu drwy ramadeg, pan oedd dysgu iaith yn rhoi pwyslais ar gyfieithu a sgiliau ysgrifennu. Datblygiad diweddarach oedd y lefel drothwy, a addaswyd i nifer o ieithoedd gwahanol (gan gynnwys y Gymraeg). Trwy waith John Trim yn bennaf y datblygwyd lefelau eraill - Threshold (newydd) a Waystage yn yr wythdegau, a Vantage yn y nawdegau. Penllanw’r gwaith hwn, a gwaith ymchwil Brian North ar raddfa cyfeirio cyffredin, a disgrifyddion ar gyfer lefelau gwahanol oedd fframwaith Ewrop fel y mae heddiw.

Un o nodau’r fframwaith yw diffinio lefel iaith unigolyn. Mae tair lefel eang: i. Sylfaenol, ii. Annibynnol, a iii. Hyfedr. Ond y labeli a ddefnyddir gan amlaf yw’r 6 nesaf, sef: A1, A2, B1, B2, C1 ac C2. Dyma fel maen nhw yn y fframwaith ei hun:

arhol.gif

Gellir rhannu’r rhain yn lefelau mwy manwl eto, e.e. A.2.1, A.2.+ ac yn y blaen, ond dyna’r byrfoddau a ddefnyddir ledled Ewrop bellach. Sut maen nhw’n cyfateb i’r arholiadau Cymraeg i oedolion? Dyma sut maen nhw’n perthyn i’w gilydd:

    A1 –> Mynediad

    A2 –> Sylfaen

    B1 –> Canolradd

   B2-C1 –> Uwch (Mae’n cymryd dwbl yr amser i gyrraedd y lefel hon)


Nid yw’r cymhwyster Hyfedredd yn ffitio’n daclus gan fod sgiliau eraill, e.e. cyfieithu a thrawsieithu, yn rhan o hwnnw. Ond sut mae’r lefel yn cael ei diffinio? Ar yr olwg fwyaf cyffredinol, mae’r disgrifiadau ‘global’, e.e.

arhol4.jpg

Mae disgrifiadau ar gyfer hunan-asesu mewn grid arall, eto’n weddol gyffredinol, ond yn rhoi ychydig o frawddegau’n disgrifio’r sgiliau gwahanol ar bob lefel. Yna, mae grid o ddisgrifiadau ansoddol - yn edrych ar ystod, cywirdeb, rhuglder, rhyngweithio a chydlynu. Fodd bynnag, mae cymhwysedd iaith unigolyn yn anodd ei ddiffinio ac yn gweithio ar sawl dimensiwn.

Dimensiwn arall yw’r sgiliau iaith: rhennir siarad yn ‘Siarad - Cynhyrchu’ a ‘Siarad - Rhyngweithio’, Gwrando, Darllen ac Ysgrifennu. Rhoddir disgrifyddion i’r 6 lefel i bob sgìl, ac mae’r rhain yn fanwl iawn. Dimensiwn arall eto yw’r parthau defnydd gwahanol -cymdeithasol, addysg a’r gweithle, a cheir disgrifyddion i’r 6 lefel yn ymwneud â’r rheiny.
Mae’r disgrifyddion yma’n cael eu mynegi fel ‘datganiadau gallu’, e.e. beth mae’r dysgwr yn gallu ei wneud ar y lefelau gwahanol (fel y gwelir o’r tabl uchod).

Dylid dweud yn gryno hefyd yr hyn nad yw’r fframwaith. Nid yw’r fframwaith yn ddisgrifiad presgriptif o gynnwys ieithyddol lefelau damcaniaethol. Fframwaith y gellir ei ddefnyddio i gyfeirio ato yw hwn, ac erfyn defnyddiol i lunwyr manylebau a chyrsiau wrth feddwl am y cymwyseddau a’r sgiliau y maen nhw’n ceisio eu profi neu’u hybu. Nid yw’r fframwaith ychwaith yn manylu ar y cynnwys ieithyddol a ddisgwylir ar bob lefel - byddai hynny’n amhosib i fframwaith trawsieithyddol beth bynnag. Er enghraifft, ni all y fframwaith ddeddfu bod angen i ymgeiswyr lefel A1 fedru dweud ‘yes’ ymhob cyd-destun - byddai’n hynny’n gwbl amhosibl yn y Gymraeg.

Mae rhai datblygiadau diweddar yn deillio o’r fframwaith: i.‘reference level descriptons’ - ceisio diffinio’r cynnwys ieithyddol sy’n berthnasol i ieithoedd unigol; ii. y ffolio iaith Ewropeaidd - crynhoad o’r fframwaith a geir yma, ar ffurf sy’n ddefnyddiol i’r dysgwr unigol. Rhestrir y datganiadau gallu mewn ffordd ddealladwy fel bod y dysgwr a’r tiwtor yn gallu gweld cynnydd a’r hyn a gyflawnwyd.

O safbwynt Cymraeg i oedolion, a sut mae’r lefelau Mynediad, Sylfaen ac ati’n perthyn i’r fframwaith, dylid edrych yn yr atodiadau i’r manylebau newydd - yr atodiadau nad oes neb yn eu darllen - lle dangosir enghreifftiau a thystiolaeth o sut mae’r lefelau CiO yn amlygu’r lefelau A1, A2, ac ati. Bydd fframwaith Ewrop yn effeithio ar ddysgu iaith yn y wlad hon mewn nifer o ffyrdd yn y blynyddoedd i ddod, felly mae’n werth mynd i’r afael ag e. Mae Ewrop ar y gorwel, ac mae’n dod yn nes.

Emyr Davies
Swyddog Arholiadau Cymraeg i Oedolion

purpleline.jpg