# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

  cyfiaith.jpg
Hyder ac arfer yw’r ffactorau allweddol wrth gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Dyna ddaeth i’r amlwg wrth i Gwmni Iaith, adain ymgynghorol IAITH: y ganolfan cynllunio iaith, arloesi gyda nifer o brosiectau i hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg gan weithwyr cyhoeddus yng Nghymru. Comisiynwyd Cwmni Iaith i wneud y gwaith gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac fe lansiwyd canllawiau i reolwyr ar y pwnc yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 22 Ionawr eleni. Ceir copi o’r canllawiau ar wefan Bwrdd yr Iaith ynghyd â chopi o’r adroddiad gwreiddiol, sydd hefyd ar gael ar wefan y ganolfan ar www.iaith.eu.

Mewn rhan arall o IAITH: y ganolfan cynllunio iaith mae criw Cyfiaith, yr uned gyfieithu, yn brysur iawn yn rhoi cymorth ymarferol i nifer o gyrff cyhoeddus yn hyn o beth drwy gynnal cyrsiau gloywi iaith ysgrifenedig i’w staff yn y gweithle. Mae’r cyrsiau wedi profi’n boblogaidd iawn, gyda chwsmeriaid yn dychwelyd dro ar ôl tro i sicrhau bod pawb o’u staff yn cael y cyfle i godi eu hyder wrth roi pin ar bapur, neu destun ar sgrin, yn y Gymraeg.

"Byddwn yn argymell y gwasanaeth i unrhyw gorff neu fudiad sy’n awyddus i weld eu staff yn defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd”, meddai Lynne Grenfell, Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Cantref. Mae Tai Cantref yn gweinyddu’n gyfan gwbl ddwyieithog a Chymraeg yw’r prif gyfrwng cyfathrebu mewnol felly mae’n rhaid i staff feddu ar hyder yn eu sgiliau llafar ac ysgrifenedig er mwyn cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.

"Y gamp fwyaf yw goresgyn nerfusrwydd pobl ynglŷn ag ysgrifennu Cymraeg”, yn ôl Siân Jones, Cyfarwyddwr Cyfiaith. "Mae rhai wedi colli’r arfer o ysgrifennu Cymraeg ers gadael ysgol ac eraill erioed wedi defnyddio Cymraeg ysgrifenedig yn y man gwaith”, meddai.

Y drefn arferol yw i diwtor Cyfiaith ymweld â’r man gwaith am ddiwrnod a chynnal sesiwn gloywi i ryw wyth neu ddeg o bobl ar y tro. Mae modd hefyd i dorri’r diwrnod yn rhyw bump neu chwe sesiwn dwy awr o hyd dros gyfnod o rai wythnosau. "Gallwn amrywio’r cwrs yn ôl y gofyn,” meddai Siân. "Weithiau bydd angen amrywio’r cwrs i adlewyrchu gwahanol safon, profiad a hyder o fewn y gweithlu. Weithiau mae dyletswyddau a gofynion y staff yn amrywio yn ôl eu swyddi a’u gwaith. Yr holl syniad yw codi hyder ac annog mwy o bobl i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd yn eu gwaith.”

Mae’r rhan fwyaf o bobl a ddaw ar y cyrsiau yn gwbl rugl ar lafar ac yn darllen Cymraeg yn rhwydd ond yn teimlo eu bod angen hwb bach a mymryn o help ymarferol i ysgrifennu Cymraeg yn fwy graenus. Un o‘r cwsmeriaid mwyaf cyson yn ddiweddar yw Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent. Mae’r Cyfarwyddwr, Geraint Wilson-Price, yn werthfawrogol iawn o’r gwasanaeth. "Mae cyrsiau gloywi iaith Cyfiaith wedi bod yn fuddiol iawn i’n staff,” meddai. "Maen nhw’n cael eu paratoi a’u cyflwyno mewn modd proffesiynol iawn”.

Beth amdani? Fel y gwelwch, mae gwasanaeth gloywi iaith Cyfiaith yn loyw iawn! Gallwch gysylltu â Siân ar 01239 711668 am fwy o wybodaeth.

Gareth Ioan


purpleline.jpg