Enw:
Kerry Beaton
Swydd:
Tiwtor a Swyddog Datblygu Cymraeg i Oedolion – Torfaen.
Ble wyt ti’n byw?
Dw i’n byw yng Nglyn Ebwy ac yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod Genedlaethol yma yn 2010.
Hoff liw?
Coch yw fy hoff liw a dw i’n hoff iawn o wyrdd hefyd.
Hoff le?
Fy ngwely! A Chymru wrth gwrs!
Hoff fwyd a hoff ddiod?
Pei Banoffi yw fy hoff fwyd a dw i’n hoffi yfed gwin gwyn.
Hoff ffilm?
'Grease' – dw i’n gwybod pob gair erbyn hyn!
Wyt ti’n bwyta brecwast bob bore?
Ydw, yn syth ar ôl i mi godi. Methu gwneud dim byd heb fy mrecwast.
Hoff siop?
Woolies!!! A falle – Peacocks.
Hoff lyfr?
'Twilight' – un o lyfrau fy merch, ond do’n i ddim yn hoffi’r ffilm.