Cyngor Cyflym
Sut mae...?
Ble mae...?
Beth os...?
Ydych chi eisiau gwybod sut mae rheoli dosbarth o allu cymysg?
Ydych chi eisiau gwybod sut i gael gafael ar ddeunydd dysgu penodol?
Oes gennych chi gant a mil o gwestiynau heb eu hateb?
Ydych chi eisiau Cyngor Cyflym?
Yn rhifyn nesaf Y Tiwtor, y bwriad yw cael colofn neu ddwy sy’n cynnig Cyngor Cyflym i’r tiwtoriaid hynny yn ein plith sydd mewn angen! Anfonwch unrhyw broblemau / ymholiadau atom drwy’r ffurflen sylwadau sydd yn yr adran ‘Cysylltu.’ Byddwn yn cynnwys yr ymholiadau yn y colofnau, wrth reswm, ond does dim rhaid cynnwys eich enw. Edrychwn ymlaen at dderbyn eich problemau!
Enillydd y gystadleuaeth a gafwyd yn rhifyn 5 yw Martin Davies. Y cwestiwn oedd:
Ble yng Nghymru y gwnaethpwyd y daith gyntaf yn y byd gan injan stêm?
Yr ateb wrth gwrs yw Merthyr a diolch yn fawr i’r siop Gymraeg ym Merthyr Tudful am y wobr hael, sef tocyn llyfr gwerth £20 a dymunwn yn dda i’r siop yn ei chartref newydd yn y Ganolfan Gymraeg ym Merthyr. Llongyfarchiadau i Martin a mwynhewch y darllen!
Mae’n dda gennym ddweud bod gwobr cystadleuaeth y rhifyn hwn yr un mor gyffrous, sef Tocyn Teulu Llancaiach Fawr sy’n caniatáu mynediad am ddim i ddau oedolyn a dau blentyn. Darllenwch yr erthygl Cystadleuaeth – Llancaiach Fawr yn yr adran Newyddion am fwy o wybodaeth. Y cwestiwn yw:
Anfonwch eich ateb atom erbyn 18 Mai.
Cyrsiau haf a phreswyl Cymraeg i Oedolion 2009
Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy am gyrsiau haf a phreswyl sydd yn cael eu cynnal yn 2009 ar gyfer holl ddysgwyr Cymru ar hyd a lled y wlad. Rhaeadrwch yr wybodaeth i’ch dosbarthiadau fel eu bod yn medru gwneud cais.
Mae yma fap o Gymru sy’n dangos lleoliad y cyrsiau yn glir ac mae’r dewis yn eang iawn.
Cysylltwch â’r trefnyddion canlynol am fwy o wybodaeth:
David Hedley Williams
Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru,
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6PA
01758 750334
Steffan Webb
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent,
Yr Hill, Coleg Gwent, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7RP
01495 333710
Annwen Frost
Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru,
10 Maes Lowri, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AU
0800 876 6975
Neil Davies / Liz Slack
Canolfan Cymraeg i Oedolion De-Orllewin Cymru,
Adran Addysg Barhaus Oedolion, Prifysgol Abertawe,
Adeilad Glyndwˆ r, Abertawe, SA2 8PP
01792 602070
Glenda Brown
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent,
Yr Hill, Coleg Gwent, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7RP
01495 333710
Elwyn Hughes
Dysgu Gydol Oes,
Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 1UT
01248 382259
Heulwen Jones
Ysgol y Gymraeg,
Coleg y Drindod, Caerfyrddin, SA31 3EP
01267 676689
Gareth Kiff
Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a
Bro Morgannwg,
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd,
Caerdydd, CF10 3EU
029 2087 4710
Angharad Davies
Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg,
Bloc X, Prifysgol Morgannwg, Heol Llantwit, Trefforest,
Pontypridd, CF37 1DL
01443 483600
Geraint Wilson-Price
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent,
Yr Hill, Coleg Gwent, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 7RP
01495 333710
Elaine Cox
Coleg Harlech
01766 781900
Siân Griffiths
Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent,
Yr Hill, Coleg Gwent, Y Fenni, Sir Fynwy, NP7 7RP
01495 333710
Siân Merlys
Cyngor Sir Caerfyrddin,
Canolfan Addysg Gymunedol, Stryd Rhosmaen,
Llandeilo SA19 6LU
01558 822729
Gwenllian Willis
Canolfan Cymraeg i Oedolion
Caerdydd a Bro Morgannwg, Ysgol y Gymraeg,
Prifysgol Caerdydd, Caerdydd CF10 3EU
029 2087 4710
Nodyn atgoffa: Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau ar gyfer Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas yw 25 Mehefin 2009.
Cliciwch ar y ffurflen enwebu isod. Mae'r ffurflen ar ffurf Word fel bod modd i chi ei llenwi'n electronig neu ei hargraffu, yn ôl dymuniadau personol.