# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009
diwedd.jpg


Clywais am y Wladfa ym Mhatagonia am y tro cyntaf blynyddoedd maith yn ôl gan y diweddar Chris Rees yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion yng Nghaerdydd. Roeddwn i wrthi’n paratoi i sefyll yr arholiad a fyddai’n fy ngalluogi i fynd i Brifysgol Caerdydd i ddechrau ar radd yn y Gymraeg ar y pryd. I ferch ifanc o gefndir dinesig, deheuol a di-Gymraeg roedd y stori yn un newydd sbon ac yn stori ramant heb ei hail. Roeddwn i wedi gwirioni gyda hi. Dechreuais i freuddwydio bryd hynny am gael mynd yna rhyw ddydd i weld rhyfeddodau’r paith drostof fi fy hun. Wedyn ar ôl i mi raddio a dechrau gweithio fel tiwtor yng Nghaerdydd roeddwn yn cael cwrdd â phobl y Wladfa o dro i dro un ai yn y Ganolfan ei hun neu wrth ddysgu ar y Cwrs Haf preswyl yn Llanbedr Pont Steffan. Felly ces i fwy o wybodaeth a straeon i borthi fy mreuddwyd a’i chadw’n fyw. Aeth bywyd yn ei flaen felly hyd at 2007. Bryd hynny, wedi setlo’r plentyn ieuengaf yn ôl yn y coleg am ei ail flwyddyn, teimlais fod yr amser yn iawn i mi wneud cais i fynd i Batagonia fel tiwtor a bues yn ddigon ffodus i gael fy nerbyn. Felly cyrhaeddais y Wladfa ym mis Ionawr 2008, gydag ychydig o wythnosau mewn llaw i gyfarwyddo cyn roedd rhaid i mi ddechrau dysgu.

Un peth a ddaeth i’r amlwg yn eitha sydyn oedd nad oedd modd i mi ymlacio’n ormodol na bod yn hunanfodlon yn y dosbarth. Ar ôl cymaint o flynyddoedd o ddysgu’r un cyrsiau yn rheolaidd yng Nghymru roeddwn i wedi magu tipyn o hyder fel tiwtor. Y math o hyder difeddwl sy’n dod yn bennaf o fod yn gyfarwydd â’r gwaith, o wybod beth i ddisgwyl, pa fath o anawsterau sydd yn debygol o godi, pam eu bod yn codi a sut i ymateb iddyn nhw. Yn y Wladfa teimlais y ddaear yn simsanu dan fy nhraed braidd, a’r mân bethau oedd yn fy maglu. Roedd y pethau oedd yn creu’r anhawster mwyaf i’r dysgwyr yn wahanol i’r pethau rydyn ni’n gyfarwydd â nhw ym Mhrydain. Er enghraifft, yn Castellano (tafodiaith Sbaeneg sydd yn cael ei defnyddio yn y Wladfa) does fawr o wahaniaeth rhwng y synau hyn:

         d  a  dd

         b  a  f (neu v fel mae’n cael ei ysgrifennu yn Sbaeneg)

         p a  b

- o leiaf ddim i fy nghlust i! Yn fwy na hyn, ymddengys iddi fod yn anodd iawn i’r rhan fwya o bobl oedd yn siarad Sbaeneg fel eu hiaith gyntaf glywed y gwahaniaeth yn y Gymraeg. Roedd hyn yn gwneud dysgu’r unedau o’r Wlpan sydd yn delio â treigladau yn brofiad bythgofiadwy i bawb ohonom!!

Mae sŵn G galed ar ddechrau gair yn creu problemau arbennig i siaradwyr Sbaeneg hefyd. (Ces i fy ngalw’n "Shiel" gan bawb am flwyddyn ac mae’n dal i deimlo’n rhyfedd i glywed "Helo Gill"!) Felly i fy nghlust i doedd y dysgwyr byth yn swnio’r g ar ddechrau geiriau fel gweithio, gweld ayyb, treiglad ai peidio - er eu bod nhw’n aml iawn yn argyhoeddedig iawn eu bod nhw!!

Yn fy marn i, mae ‘na broblem ar ddechrau’r cwrs Wlpan wrth gyflwyno’r ferf "mynd" a’r patrwm "mynd i’r" (parc neu sinema, theatr ayyb.) Y gair yn Sbaeneg am y ferf "mynd" yw "Ir". Gwna i adael i chi ddychymygu’r fath smonach a ddatblygodd yn y dosbarth y tro cyntaf i mi gyflwyno’r uned honno cyn i mi sylweddoli beth yn y byd oedd yn creu y fath ddryswch. Ond i fod yn deg, nid yw hynny’n debygol o godi’n aml yng Nghymru!
dots_with_blue.jpg
Sialens arall oedd Technoleg Gwybodaeth. Pan gyrhaeddais i doedd dim modd cael rhyngwyneb Cymraeg, ffontiau Cymraeg na chwaith yr opsiwn o weithio yn y Gymraeg yn ‘word’ ar unrhyw gyfrifiadur yn y ddwy Ysgol. Byddai hynny wedi bod yn dipyn o boen i mi yn bersonol wrth fy ngwaith ond roedd y goblygiadau yn fwy difrifol na hynny oherwydd roeddwn wedi bwriadu cynnal gwersi TG drwy gyfrwng y Gymraeg. Digon hawdd i ddatrys hynny yng Nghymru wrth gwrs. Ond oherwydd y math o gyfrifiaduron oedd yno doedd dim modd i ni lawrlwytho unrhyw raglenni o’r rhyngrwyd ac yn sicr doedd dim digon o gyllid i brynu rhaglenni newydd hyd yn oed tasai modd eu prynu nhw yno. Doedd dim modd eu harchebu trwy’r post am fod rhaid talu treth anferthol. Hefyd, roedd problemau’n codi gyda phost arferol hyd yn oed! Ar ôl wythnosau o waith a chrafu pen a llawer iawn o gymorth gan gyfeillion caredig iawn yn ôl yng Nghymru llwyddon ni i ddod o hyd i’r ateb ac aethon ni ati i addasu’r systemau. Roedd hynny’n ein galluogi i fwrw ymlaen gyda sawl syniad gan gynnwys atgyfodi ‘Llais yr Andes’, papur bro Cymraeg yr ardal, ar-lein. Ond roedd hynny’n enghraifft o brosiect oedd yn ymddangos yn ddigon syml ar yr olwg gyntaf, ond a ddatblygodd i fod yn fynydd o waith annisgwyl!

Un o’r heriau mwyaf i mi yn y swydd oedd dysgu sut i hyrwyddo, marchnata a chenhadu’n effeithiol. Ar hyd y blynyddoedd mae gwaith felly wedi bod yn rhan hanfodol o sawl un o’m swyddi. Ond wrth gwrs roedd fy mhrofiad i gyd wedi bod yng Nghymru. I gael rhyw syniad o sut mae pethau yn y Wladfa ar hyn o bryd fe fasai’n rhaid i ni yng Nghymru droi’r cloc yn ôl tua 30 o flynyddoedd, ymhell cyn Deddf Iaith 1993 ac oes y Cynulliad. Wedyn, wrth feddwl am y sefyllfa honno, dychmygwch Sbaeneg yn lle Saesneg. Hynny yw, Sbaeneg yw’r unig iaith swyddogol, yr unig iaith a ddefnyddir i lywodraethu, a’r unig iaith a ddefnyddir yn y byd addysg, masnach a’r gyfraith.

Wrth gwrs, dydy’r Gymraeg ddim yn iaith gynhenid yn yr Ariannin. Penderfynodd cyndeidiau’r Cymry fynd yno o’u gwirfodd. Does dim drwg deimlad neu deimladau cymhleth tuag at yr iaith Sbaeneg fel sydd at y Saesneg yn Nghymru. Mae Gwladfawyr yn falch iawn, iawn o fod yn ‘Argentinos’ yn ogystal â Chymry ac yn barod iawn eu Sbaeneg hyd yn oed gydag eraill sydd yn medru’r Gymraeg. Yn debyg iawn i Gymru yn y gorffennol, mae llawer o bobl yno, gan gynnwys Cymry Cymraeg, yn gweld Saesneg fel yr "iaith i ddod ymlaen yn y byd" ac yn danfon eu plant i wersi Saesneg yn lle dysgu’r Gymraeg iddyn nhw. Un peth wnaeth fy nharo oedd y diffyg ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o werth economaidd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig i economi Chubut. A hynny er gwaetha enwogrwydd yr ardal o ganlyniad i’w diwylliant unigryw gan gynnwys y Tai Te sydd yn denu miloedd ar filoedd o ymwelwyr o bob cwr o’r Ariannin a’r byd i gyd bob blwyddyn. Dyna un peth a all, yn fy marn i, fod o gymorth wrth geisio am gefnogaeth ariannol gan lywodraeth y dalaith neu’n ganolog i hyrwyddo a chynnal yr iaith. Mae modd dadlau y byddai gwaith ymchwil trylwyr i werth economaidd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig i economi Chubut yn talu ar ei ganfed yn y pen draw.
dots_with_blue.jpg
Roedd parodrwydd y Cymry i siarad Sbaeneg yn arwain at broblem arall. Yn ôl y tiwtoriaid lleol eu problem fwyaf oedd dosbarthiadau a oedd wedi bod yn dysgu ers sawl blwyddyn ond a oedd yn dal i fynnu siarad Sbaeneg â’r tiwtor ac ymhlith ei gilydd trwy’r amser yn ystod y wers. Oherwydd hynny ac ar ôl trafod â’r tiwtoriaid lleol daethon ni i’r penderfyniad na faswn i’n siarad unrhyw beth ond Cymraeg gyda’r dysgwyr a’r tiwtoriaid. (Wrth gwrs, doedd hynny ddim yn golygu nad oeddwn yn defnyddio geiriau Sbaeneg o dro i dro. Mae hynny’n angenrheidiol wrth gyflwyno’r Wlpan fel mae llawer ohonoch chi’n gwybod o’ch profiad eich hun yn Llambed. Ond doeddwn i ddim yn sgwrsio, nac yn ateb cwestiynau yn Sbaeneg gyda’r dosbarthiadau hynny.) Dyna efallai oedd yr her fwyaf i mi, a’r peth ffeindiais i, yn bersonol, yn fwy anodd nag unrhyw beth arall. Yn sicr roedd yn arf defnyddiol iawn i berswadio ambell ddosbarth i groesi’r bont o’r diwedd. Ond i mi yn bersonol roedd yn waith caled, yn aml yn straen ac ambell waith yn unig. Serch hynny, cafwyd canlyniadau da a llwyddwyd i gynnal cyfarfod staff trwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf erioed yn un o’r ysgolion. Digwyddodd yn hollol naturiol mewn gwirionedd am mai iaith fy mherthynas i â phawb yno oedd y Gymraeg. Hefyd mae’n rhaid i mi gyfaddef nad oedd e wedi croesi fy meddwl am yr un eiliad na fyddai iaith cyfarfod rhwng tiwtoriaid a Phwyllgor yr Ysgol Gymraeg yn unrhyw beth ond y Gymraeg. Mae twpdra cynhenid yn gallu bod yn reit ddefnyddiol ambell waith!

Un peth ddaeth â boddhad mawr i mi oedd llwyddiant yr apêl wnaeth ein galluogi i sefydlu cronfa i ddanfon dau o’n myfyrwyr draw i Gymru i fyw a derbyn gwersi a hyfforddiant mewn swydd trwy gyfrwng y Gymraeg am chwe mis yr un. Ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008 fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitèn yn Chile yn hollol annisgwyl am y tro cyntaf ers mwy na 9,000 o flynyddoedd gan chwydu fflamau a mwg filltiroedd i’r awyr. Cariwyd y llwch a’r lludw hynny dros y ffin i’r Ariannin gan effeithio’n ddrwg ar drigolion Godre’r Andes yn enwedig yn ardal Ysgol Gymraeg yr Andes, sef trefi Esquel a Trevelin. Am gyfnod daeth bywyd bob dydd i stop bron gyda siopau a swyddfeydd ar gau a dim trafnidiaeth chwaith am fod y ffyrdd i gyd ar gau. Roedd yr awdurdodau yn apelio ar bawb i beidio â mynd allan o gwbl os oeddynt yn dioddef o asthma neu o broblemau anadlu eraill ac roedd yn rhaid i bawb wisgo mygydau rhag anadlu’r llwch a oedd yn disgyn fel eira o’r awyr am wythnosau. Roedd yr ysgolion i gyd ar gau am gyfnod gan gynnwys yr ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threvelin. Pan ddigwyddodd hyn roedd trafodaethau eisoes ar y gweill rhwng Menter Iaith Patagonia ac Urdd Gobaith Cymru ynglŷn â’r syniad o anfon pobl ifanc o’r ardal i dderbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru. Ond oherwydd yr effaith anffodus ar ddarpariaeth gwersi a gweithgareddau Cymraeg yma yn ardal yr Andes yn sgil Chaitèn roedd hi bellach yn bwysig i geisio gweithredu’r prosiect yn gynt. Aethpwyd ati i roi’r trefniadau ymarferol yn eu lle ar frys a chyda chynnig pendant gan yr Urdd yr unig her oedd dod o hyd i gost y tocynnau awyren.

Bryd hynny fe glywsom ni gan Ceri Jones, tiwtor adnabyddus i lawer ohonoch, o Hwlffordd, Sir Benfro. Bob blwyddyn bydd Ceri yn dysgu fel athro ar gwrs Cymraeg yn Llundain ac yn ceisio gwneud rhywbeth i godi arian at achosion Cymraeg yn ystod yr amser hynny. Roedd e newydd gystadlu mewn triathlon ac wedi llwyddo i godi dros £200. Yn sgil darllen amdanon ni yn y wasg penderfynodd roi’r arian hwnnw i ni. Wedi ein hysbrydoli gan y rhodd hael hon aeth Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Iaith Patagonia ati i roi apêl yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru. Cawsom ein syfrdanu gan ymateb hael a thwymgalon pobl Cymru. Daeth llif o gyfraniadau a chawsom ddigon o arian i ni fedru danfon dau berson. Yr un cyntaf i fynd oedd Laura Niklitschek (23 oed) o Drevelin. Am 6 mis fe fuodd hi’n gweithio’n wirfoddol a derbyn hyfforddiant yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog. Roedd Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg unwaith yr wythnos yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd cyn iddi fynd gan barhau i ddysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad. Cadwais mewn cysylltiad â Laura trwy e-bost yn ystod ei harhosiad yng Nghymru a llwyddais i fynd i’w gweld ddwy waith. Gyda phob e-bost roeddwn yn gweld gwelliant yn ei Chymraeg a oedd yn galonogol iawn. Y tro olaf i mi ei gweld oedd y diwrnod cyn iddi ddychwelyd i Gymru. Prin oeddwn yn gallu credu fy nghlustiau. Nid yn unig roedd ei Chymraeg yn rhugl, ond roedd ganddi yr acen orllewinol berta a glywais erioed! Teimlais mor falch ohoni bu bron i mi grio. Bydd yr ail berson yn cychwyn am Gymru yn y dyfodol agos.
dots_with_blue.jpg
Pan es i i’r Wladfa roedd gyda fi restr hir o bethau roeddwn am eu cyflawni o safbwynt proffesiynol yn ystod y flwyddyn a dreuliais yno. Wrth gwrs roedd y syniadau yna wedi’u llywio gan fy mhrofiad o ddysgu a gweinyddu yng Nghymru. O edrych yn ôl baswn yn sicr yn addasu’r rhestr hon taswn i’n gorfod ei ffurfio eto. Ond mae un peth yn sicr, os llwyddais i gyflawni unrhyw agwedd o’r gwaith yn ystod fy amser yno roedd hynny oherwydd i mi fod yn ddigon ffodus i gael rhwydwaith eang o gydweithwyr a chyfeillion caredig a hael yn y Wladfa ac yn ôl yng Nghymru a oedd yn barod iawn eu cymwynas a chyngor. Mae arna i ddyled mawr iddyn nhw i gyd am eu cymorth a chefnogaeth.

Erbyn hyn dw i nôl yng Nghymru ers ychydig cyn y Nadolig. A oedd fy amser i yn y Wladfa yn debyg i freuddwyd y ferch ifanc yna ers talwm? Wel, fel popeth arall mewn bywyd, dydy’r ateb ddim mor syml â hynny. Roedd y Wladfa yn bopeth roeddwn i wedi ei ddychmygu ond eto yn hollol wahanol... Roedd rhai pethau yn hollol annisgwyl megis y ffrwydradau folcanig, y daeargrynfeydd a’r llifogydd! Ond mae un peth yn sicr – roedd y flwyddyn honno yn fythgofiadwy!


purpleline.jpg