# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

  adnoddau-title.jpg
   1. Gwasanaeth Newydd i Ddysgwyr ar y We

Mae S4C a Chwmni Acen bellach yn cynnig gwasanaeth newydd ar wefan S4C (s4c.co.uk) ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

Wrth fynd i’r wefan am y tro cyntaf mae dysgwyr yn cael cyfle i ddewis lefel (Cyn-fynediad, Mynediad, Sylfaen a Chanolradd) ac i ddewis eu fersiwn (y de neu’r gogledd). O hynny ymlaen mae popeth ar y lefel briodol felly does dim angen mynd i chwilio am eitemau addas. Mae modd newid lefel a fersiwn ar unrhyw adeg.

Ar ôl dewis cyfres a rhaglen, mae modd mynd at y gweithgareddau. Fel arfer mae:

Sioe Sleidiau
sy’n mynd trwy bob rhaglen fesul cam

Clip a Sgript
sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ddilyn clip byr gyda sgript Saesneg neu Gymraeg

Gemau Iaith

Cyfweliadau
ag actorion a chymeriadau

Chwileiriau/Croeseiriau

Mae dwy elfen newydd ar fin cael eu hychwanegu. Yn gyntaf, bydd modd i ddysgwyr Uwch a Hyfedredd fanteisio ar gronfa sylweddol o sgriptiau. Yn ail, bydd ‘gwersi’ sain byrion yn cael eu cynnwys ar gyfer dysgwyr Cyn-fynediad I’w cynorthwyo i wneud y cam mawr hwnnw tuag at Fynediad.

I hyrwyddo’r wefan mae dros 50,000 o daflenni wedi cael eu hanfon i’r Canolfannau Rhanbarthol ac i ganolfannau Cymraeg i oedolion eraill.

Mae nosweithiau hyrwyddo hefyd eisoes wedi’u trefnu yn Aberaeron, Dinbych, Llandudno, y Barri a Llanymddyfri. Mawr yw ein diolch i’r tiwtoriaid a’r trefnyddion lleol am eu cymorth! Trefnir rhagor o nosweithiau dros y misoedd nesaf.

Cyfeiriad y wefan ydy s4c.co.uk. Cliciwch ar ‘Dysgwyr’ i ddechrau.

animated-line.gif
   2. Lansio ‘Perthyn’

Ar fore dydd Mercher 4 Mawrth fe lansiwyd pecyn adnoddau newydd sbon gan Alun Ffred Jones AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Mae pecyn Perthyn wedi cael ei ddatblygu ar gyfer tiwtoriaid a dysgwyr o lefelau Mynediad hyd at Uwch i’w ddefnyddio yn arddangosfa Oriel 1 yr amgueddfa. Mae’n cynnwys gweithgareddau llafar ac ysgrifenedig, cyfarwyddiadau i diwtoriaid, cardiau fflach a chyfweliadau fideo gyda dysgwyr yn egluro eu rhesymau dros ddysgu’r iaith.

Fel rhan o’r digwyddiad, cafwyd cyflwyniad i’r adnodd gan Cennard Davies a Helen Prosser, awdur a golygydd y pecyn. Pwysleisiodd y ddau bwysigrwydd yr Amgueddfa fel canolfan iaith a diwylliant i Gymru. Nodwyd hefyd bod Sain Ffagan yn un o’r nifer fach o atyniadau cyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru lle gall dysgwyr ymweld â hwy a bod yn sicr o allu sgwrsio â staff drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gellir lawrlwytho’r pecyn cyfan a gwylio’r clipiau fideo drwy ymweld â http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/perthyn. Os hoffech drefnu ymweliad â’r arddangosfa gyda’ch dysgwyr, cofiwch gysylltu â’r Amgueddfa ar 02920 573424 o flaen llaw er mwyn iddynt allu paratoi ar gyfer eich ymweliad.

adnoddau-newydd.jpg
Helen Prosser, Alun Ffred Jones AC, John Williams -Davies (Cyfarwyddwyr Sain Ffagan) a Cennard Davies.



animated-line.gif
   3. Cylchgrawn i Ddysgwyr

Mae Cwmni Acen wedi ailwampio’i gylchgrawn i ddysgwyr ar y lefelau cyntaf ac mae copïau o’r rhifyn cyntaf bellach yn cael eu dosbarthu.

‘Roedd yr hen gylchgrawn yn boblogaidd iawn,’ meddai Miriam Williams, ‘ond roeddem wedi derbyn nifer o awgrymiadau da gan y defnyddwyr ac roedd yr amser wedi dod i’w hymgorffori.’

Y prif newid yw bod fersiwn arbennig (copi caled) ar gael nawr ar gyfer dysgwyr yn y gogledd. Roedd y galw am hynny wedi bod yn cynyddu’n gyson yn ystod 2008.

Mae’r cylchgrawn 20 tudalen bellach yn cynnwys:

Newyddion
Proffeiliau
Cyfweliadau ag actorion a chymeriadau
Ar y Teledu – Llythyrau gan ddysgwyr
Stori Wir - Hiwmor ar gyfer y bath neu’r dosbarth
Colofn Mr Grwgnach – Cwyno cyffredinol (deunydd trafod)
Gwyliau – Golwg fanwl ar un o drefi Cymru
Cwisiau a Chwileiriau
Cymraeg Busnes
Plant – Adnoddau i’w darllen â’r plant lleiaf

Bydd pob rhifyn o’r cylchgrawn ar gael am ddim trwy’r we ddau fis ar ôl ei gyhoeddi. Codir am gopïau a ddosberthir trwy’r post. Os am gopi sampl anfonwch e-bost trwy post@acen.co.uk gan nodi’ch enw, eich cyfeiriad cartref llawn a lleoliad eich dosbarth.

purpleline.jpg