# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009

   Minnesota, Nanjing,
   Caerdydd – a’r Gymraeg


Ddechrau mis Mawrth ymwelodd yr Athro Elaine Tarone, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Caffael Iaith, Prifysgol Minnesota, ag Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Traddododd ddarlith mewn cyfres sydd yn dathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 mlwydd oed. Canolbwyntiodd ei darlith, ‘Engaging Teachers in the Study of Learner Language’, ar sut y gall athrawon ieithoedd modern feithrin gwell dealltwriaeth o brosesau dysgu eu myfyrwyr, a defnyddio’r wybodaeth honno i archwilio agweddau newydd, effeithiol wrth addysgu.

Yn ystod ymweliad yr Athro Tarone, cynhaliwyd hefyd weithdy yn yr Ysgol, gan gasglu ynghyd arbenigwyr ym maes dysgu ac addysgu’r Gymraeg. Ers rhai blynyddoedd bellach, mae’r Ysgol wedi datblygu rhaglen ymchwil yn y maes hwn, sydd yn ganolog i’w gweithgareddau: mae’r Ysgol yn gartref i Ganolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg (tua 2,000 o fyfyrwyr); mae hefyd, ynghyd â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor, yn darparu’r Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy’n gwrs gloywi iaith ar gyfer athrawon sydd am ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg; ac, wrth gwrs, mae canran o israddedigion yr Ysgol yn fyfyrwyr ail iaith. Mae gan yr Ysgol hefyd arbenigedd ym maes cynllunio ieithyddol a pholisi iaith, ac mae’n gartref i’r Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio.

Fel rhan o’r rhaglen ymchwil hon, datblygwyd cysylltiadau â Phrifysgol Nanjing, Tsieina yn ddiweddar. Aeth y Dr Tim Jilg, un o ymchwilwyr yr Ysgol, yno ar ymweliad fis Tachwedd 2008 i arsylwi’r dulliau a ddefnyddir i ddysgu’r Saseneg fel ail iaith, ac y mae’r Dr Qi Yan, dan nawdd yr Academi Brydeinig, ar ymweliad yn yr Ysgol ar hyn o bryd yn archwilio sut y gellir defnyddio dulliau dysgu Tseinïeg wrth ddysgu’r Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth ewch at wefan yr Ysgol: http://www.caerdydd.ac.uk/cymraeg

purpleline.jpg