# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009
   tiwtor:

tiwtorpic6.gif
Stori o lwyddiant ieithyddol yn ardal y de ddwyrain yw hanes Sarah Meek, a hefyd stori o dalu nôl i’w bro enedigol am yr hyn a gafodd ohoni. Mae Sarah yn diwtor yn ardal Blaenau Gwent ac mae hi hefyd yn Swyddog Datblygu gyda Chanolfan Iaith Gwent. Cafodd ei geni a’i magu yn y Coed Duon gan ddysgu Cymraeg fel ail iaith yn yr ysgol. Ni chafodd air o Gymraeg gartref ond fe lwyddodd yr athrawon Cymraeg i greu argraff fawr ar Sarah ac aeth ymlaen i astudio lefel ‘A’ Cymraeg, Saesneg a Chymdeithaseg yng Ngholeg Cross Keys, Gwent. Y cam nesaf oedd mynd i Brifysgol Caerdydd i wneud gradd mewn Cymraeg ac roedd yr adeg honno i Sarah yn allweddol oherwydd cafodd gyfle i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Plannwyd y diddordeb mewn dysgu bryd hynny a bu’n gweithio fel gwas sifil yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd am flwyddyn cyn mynd nôl i’r coleg yng Nghaerdydd i gwblhau cwrs TAR (cwrs dysgu).

Yn dilyn hynny, dechreuodd diwtora gyda’r nos yn Nhŷ Rhydychen yn Risga ac mae’n cyfaddef iddi gael tipyn o sioc! Cafodd foddhad mawr gyda’r grŵp cyntaf hwnnw a oedd wedi datblygu, dan ei gofal hi, o lefel dechreuwyr i lefel Uwch. Aeth yn ôl i weithio yn Nhŷ’r Cwmnïau ac erbyn hynny roedd dylanwad y Gymraeg yn dechrau lledu yno gyda darlithydd o Brifysgol Mogannwg yn dod yn rheolaidd i’r swyddfa i gynnal dosbarthiadau Cymraeg Busnes. Yn ystod ei saith blynedd yno, gwelodd y galw am y Gymraeg yn cynyddu’n aruthrol.

Yn 2006 daeth cyfle i ymgeisio am swydd Swyddog Datblygu gyda Chanolfan Gwent ac, yn ôl Sarah, dyma’r swydd ddelfrydol! Mae’n rhoi cyfle iddi ymgolli ei hun mewn awyrgylch Cymraeg yn ei hardal enedigol. Mae ganddi ddosbarthiadau Mynediad, Sylfaen ac Uwch sy’n rhoi cyfanswm o 10 awr o ddysgu yr wythnos iddi. Mae ei chyfrifoldebau hefyd yn cynnwys trefnu digwyddiadau dysgu anffurfiol: clybiau darllen, clybiau clonc, boreau coffi, cwisiau, sesiynau adolygu – mae’r rhestr yn faith! Cred Sarah yn gryf fod yn rhaid meithrin dysgwyr annibynnol sy’n cymryd cyfrifoldeb dros eu llwyddiant hwy eu hunain a dyna’r weledigaeth a arweiniodd at sefydlu Grŵp Ffocws. Ymhlith yr aelodau y mae tiwtoriaid, dysgwyr a staff y ganolfan, ac mae’r Grŵp yn cyfarfod ddwy waith y flwyddyn i drafod y ddarpariaeth i ddysgwyr. O ganlyniad i argymhellion y grŵp hwn, trefnwyd teithiau i Sain Ffagan a stiwdio Pobol y Cwm a sefydlwyd cysylltiadau â Garry Owen a Nia Parry yn y "Blaenau Gwent Welsh Challenge".

Un o’r pethau sy’n achosi cyffro mawr yn yr ardal hon, yn ôl Sarah, yw dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol i Flaenau Gwent. Hi yw ysgrifenyddes Pwyllgor y Dysgwyr ac fe ddaeth dros 200 o bobl i’r cyfarfod cyntaf – yn ddysgwyr ac yn siaradwyr Cymraeg. Yn sgil y diddordeb anhygoel yma, mae’n hollol argyhoeddedig y bydd Eisteddfod Blaenau Gwent yn llwyddiant mawr ac mae’n awyddus iawn i gynnal a datblygu’r diddordeb hwnnw ar ôl ymweliad yr Eisteddfod hefyd. Yng nghanol rhialtwch y paratoi ar gyfer yr ŵyl hon, mae’n gobeithio y bydd modd perswadio ei theulu hyd yn oed i ddysgu Cymraeg! Yn eironig iawn, unig aelod ei theulu sy’n medru’r Gymraeg ar hyn o bryd yw cefnder ei mam sy’n byw yn Seland Newydd!

Un o bleserau mawr tiwtora, i Sarah, yw cael y cyfle i gwrdd â chymaint o bobl wahanol. Mae hi’n mwynhau’r dysgu anffurfiol yn fawr ac yn ddiolchgar iawn i holl ddysgwyr yr ardal am eu cefnogaeth barhaus. Iddi hi, mae’r maes Cymraeg i Oedolion erbyn hyn wedi cymryd camau mawr i’r cyfeiriad cywir gyda’r dysgu wedi’i ffurfioli a’r systemau wedi’u strwythuro.  

Felly, tybed beth yw gobaith y tiwtor gweithgar hwn ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion yn y dyfodol? Wel, fel pob swyddog datblygu gwerth ei halen, ei harwyddair, wrth gwrs, yw: datblygu, datblygu, datblygu!

purpleline.jpg