# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 6 Pasg 2009
 nant2.jpg

Yn 1880, roedd chwareli Nant Gwrtheyrn yn eu hanterth, â dwy fil o weithwyr yn gweithio’r graig yn ei phedair chwarel, ac yn allforio’r ithfaen dros y byd. Ond roedd y Nant yn hawlio’i lle yn hanes Cymru ymhell cyn hynny fel man â chysylltiad agos â chwedlau hanesyddol a llenyddol y genedl. Lle diarffordd fu Nant Gwrtheyrn erioed, ac o’r herwydd, pan gaewyd y chwarel olaf yn yr 1940au, trôdd y pentref yn adfeilion mewn dim o dro. Yr arwahanrwydd a’r neilltuaeth yma, oedd un o’r rhesymau a sbardunoddd y meddyg lleol, Carl Clowes, i fynd ati i adfer y pentref a’i droi’n ganolfan dysgu Cymraeg. Gwaith gwirfoddol, cefnogaeth ymarferol a rhoddion ariannol gan unigolion a sefydliadau o bob math a wireddodd y freuddwyd, a hynny mewn hinsawdd a oedd yn gynyddol gefnogol i gynnal a chefnogi’r iaith Gymraeg. Ers 1978 mae dros 25,000 o ddysgwyr wedi cychwyn neu barhau â’u taith ieithyddol yn Nant Gwrtheyrn. Hyd y dydd heddiw, canolfan iaith Nant Gwrtheyrn yw’r unig ganolfan breswyl sy’n darparu cyrsiau trwy gydol y flwyddyn ar gyfer dysgu’r iaith. Erbyn hyn, mae’r ganolfan yn cynnig darpariaeth sy’n ategu’n effeithiol waith y Canolfannau Iaith Rhanbarthol a sefydlwyd yn 2006 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydlynu a chynyddu dysgu Cymraeg i oedolion ar draws Cymru.

     Y dyfodol

nant4.jpg
Bwriad cynllun Nant Gwrtheyrn Yfory yw gweddnewid yr adnoddau sydd ar gael yn y lleoliad unigryw yma er mwyn creu canolfan breswyl o safon uchel ac o fri cenedlaethol ar gyfer dysgu’r iaith Gymraeg a phynciau eraill. Bydd hefyd yn lle deniadol i ymweld ag ef er mwyn dysgu am hanes diwydiannol a diwylliannol yr ardal. Saith aelod o staff a gyflogir yn Nant Gwrtheyrn ar hyn o bryd, sy’n cynnwys dau diwtor Cymraeg llawn amser ac un rhan amser. Maes o law, bydd nifer y staff yn codi i 32, a thrwy hynny, Nant Gwrtheyrn fydd un o gyflogwyr pwysicaf gogledd Llŷn. Gwahoddwyd tri chwmni pensaerniol i gyflwyno’u syniadau ar gyfer y datblygiad ac yn 2007 penodwyd cwmni James, Jenkins, Thomas o Aberystwyth i fod yn gyfrifol am y cynllunio. Yn dilyn proses gystadleuol, penodwyd cwmni teuluol R. L. Davies o Fae Colwyn yn brif gontractwr adeiladu. Cost y cynllun cyfan yw £5.6m a chaiff ei rannu’n chwe chymal, fydd yn cael eu cwblhau yn eu tro. Mae grantiau gan yr Undeb Ewropeaidd* a Chynulliad Cenedlaethol Cymru** ynghyd â rhodd preifat sylweddol, yn ei gwneud yn bosib i ymgymryd â’r tri chymal cyntaf, ac i ddechrau ar y pedwerydd yn rhannol – tra bo’r gwaith i godi arian ar gyfer cwblhau’r tri chymal olaf yn mynd yn ei flaen. Bwriedir gorffen y gwaith i gyd erbyn Haf 2011.

animated-line.gif
cymalau 1 a 2
     Y ffordd i’r pentref

Bu’r lôn i lawr i’r Nant yn bryder i lawer un – heb fod arni le i gerbydau basio, na rhwystr rhag y dibyn pe digwydd i rywun golli rheolaeth. Bwriad Cymal 1 oedd gwneud y lôn yn ddiogel ac yn llai brawychus, gan greu llefydd pasio niferus a chorneli digon llydan i ganiatáu i fwsiau ddefnyddio’r lôn a gwneud yr holl broses o fynd a dod o’r Nant yn hwylus a hynny, wrth gwrs, heb golli’r rhyfeddod hwnnw a geir wrth gyrraedd pen yr allt ac edrych i lawr ar y pentref a’r traeth.

Cwblhawyd yn 2008. Cyllidwyd yn llawn.

animated-line.gif
     Trem y mynydd

Dwy res o dai sydd yn y Nant: 11 yn y naill a 14 yn y llall. Pan adferwyd y pentref yn y 70au, trwsiwyd y tai yn eu ffurf wreiddiol gydag ystafelloedd gwely bychain, lolfa a chegin fach ym mhob un. Er iddynt gynnig llety clyd i’r miloedd o ddysgwyr a ddaeth drwy byrth y Nant ers 1978, ni ellir dweud eu bod yn foethus, a’r gwir yw erbyn hyn, fod disgwyliadau’n preswylwyr yn wahanol ar lawer ystyr. Yn dilyn cwblhau’r cynllun newydd, bydd y Nant yn darparu llety cyfoes o safon uchel ar gyfer hyd at 77 o bobl gyda chyfuniad o ystafelloedd sengl, dwbl a rhai teuluol a hynny heb newid gwedd allanol y tai. Mae angen hefyd gwario eto ar yr adeiladwaith, sydd bellach wedi ei gofrestru gan CADW, er mwyn sicrhau ei ddyfodol.

Cychwynir yn hydref 2008. Cwblhëir yn Haf 2009. Cyllidwyd yn llawn.

animated-line.gif
cymalau 3 a 4
     Y tŷ bwyta

Mae Caffi Meinir yn cynnig lle bwyta i 30 o bobl, gyda’r byrddau bwyd hefyd yn cael eu defnyddio fel byrddau’r bar. Ar hyn o bryd, pan geir digwyddiad mawr, megis priodas, rhaid codi pabell y tu allan. Bydd lle yn y bwyty newydd i 150 o bobl, gyda ffenestr fawr yn edrych allan dros yr olygfa fendigedig o’r môr a draw tuag at Garreg y Llam a Phorthdinllaen. Bydd y bar ar wahân i’r tŷ bwyta, a bydd yn bosibl defnyddio’r gofod newydd mewn modd hyblyg ar gyfer cynnal gweithgareddau gwahanol, yn ôl dymuniad trefnwyr a mynychwyr cyrsiau.

Cychwynir yn hydref 2008. Cwblhëir yn haf 2009. Cyllidwyd yn llawn.

animated-line.gif
     Trem y môr a’r plas

Trem y Môr yw’r ail res o dai yn y pentref. Y Plas oedd cartref Rheolwr y Chwarel ers talwm ac erbyn hyn yno y cynhelir y rhan fwyaf o’r dosbarthiadau ffurfiol. Cynlluniwyd yr addasiad newydd mewn ymgynghoriad â’r tiwtoriaid iaith er mwyn darparu’r adnoddau gorau posibl ar gyfer dysgu, tra bo’r cynlluniau, ar yr un pryd, yn parchu’r adeiladwaith draddodiadol.

Cychwynir yn hydref 2009. Cwblhëir yn 2010.
Sicrhawyd 40% o’r cyllid.

animated-line.gif
cymal 5
     Canolfan treftadaeth
nant3.jpg  
Mae gan Nant Gwrtheyrn etifeddiaeth ddiwylliannol hynod a chyfoethog, yn lleoliad i chwedlau Rhys a Meinir a Gwrtheyrn ac i straeon Luned Bengoch. Mae Nant Gwrtheyrn hefyd yn ganolfan ddiwydiannol o ddiddordeb eithriadol, gyda llawer o’r hen olion gwaith i’w gweld o hyd. Bellach, mae i’r ganolfan hefyd arwyddocâd arbennig yn hanes adfywiad yr iaith Gymraeg. Ar hyn o bryd, ceir arddangosfa syml yn hen gapel y pentref, a adnewyddwyd yn 2003, ond mae cynllun ar y gweill i ymestyn yr arddangosfa hon yn sylweddol ac i wneud yr olion diwydiannol yn fwy hygyrch ac amlwg i’r cyhoedd gan gyflwyno gwybodaeth am fywyd a gwaith y chwarelwyr mewn modd deniadol a chyfoes. Bwriedir cyflogi gweithiwr maes i weithio gyda’r gymuned leol i gasglu, cofnodi a chyflwyno atgofion a chreiriau perthnasol gan alluogi’r Nant i dyfu’n atyniad gwerthfawr yn yr ardal, i bobl leol ac i ymwelwyr o bell ac agos.

Cychwynir yn 2009. Cwblhëir yn 2010. Cyllid yn cael ei drafod mewn cais gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol

animated-line.gif
cymal 6
     Y porth a’r swyddfeydd
nant1.jpg
Bydd Y Porth yn adeilad newydd yn uno’r Capel â Threm y Môr, ond heb fod yn cuddio’r olygfa fendigedig sy’n taro rhywun wrth gyrraedd y Nant. Bydd yn darparu derbynfa briodol ar gyfer holl ddefnyddwyr y ganolfan, yn ogystal â siop bwrpasol a gofod ar gyfer arddangosfeydd, megis yr un a gynhaliwyd yn ddiweddar o ffotograffau eithriadol Glyn Davies o ‘Swyngyfaredd’ Nant Gwrtheyrn. Yn yr adeilad hwn hefyd, lleolir swyddfeydd pwrpasol i hwyluso gwaith y swyddogion a’r tiwtoriaid.

Cychwynir yn 2010. Cwblhëir yn 2011. Heb ei ariannu eto.

dots_with_blue.jpg
*Cronfeydd Cyd-gyfeiriant Ewrop
**Croeso Cymru, Y Gronfa Adfywio, Cronfa Arian Cyfatebol

Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn
Cwmni Cyfyngedig trwy warant
Cofrestrwyd yng Nghymru • Rhif Cwmni 03865538
Rhif Elusennol • 1078543

lluniau © Glyn Davies / glyndavies.com

nant gwrtheyrn
Canolfan Genedlaethol Iaith a Diwylliant
National Centre for Language & Culture
Llithfaen • Pwllheli • Gwynedd • LL53 6PA
Ffôn • 01758 750334 Ffacs • 01758 750335
e-bost • nantgwrtheyrn.org
www • nantgwrtheyrn.org


purpleline.jpg