# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
wawr1.jpg   
gan Lowri Rees

A fyddech chi yn mwynhau ymuno â chriw o ferched i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol? Ydych chi’n mwynhau cystadlu? Ydych chi’n berson cystadleuol ond ofn mentro? Mae mudiad Merched y Wawr yn cynnig gweithgareddau a hwyl i ddysgwyr ar hyd a lled Cymru.
wawr2.jpg  
Mae Merched y Wawr yn un o’r mudiadau sydd wedi bod yn ymgyrchu a gweithio’n galed ar ran y dysgwyr. Dros y blynyddoedd mae canghennau a chlybiau ar draws y wlad wedi cynnal nosweithiau arbennig er mwyn rhoi cyfleoedd i unigolion sy’n dysgu Cymraeg gael y cyfle i ddefnyddio’r iaith yn gymdeithasol.

Mae’n arfer gan y Mudiad erbyn hyn bod pob cangen yn benodol yn cynnal un digwyddiad yn flynyddol er mwyn denu’r dysgwyr, a gall hyn fod yn noson gymdeithasol o sgwrsio, cawl a chân neu gael rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg i gyfarch y gangen.

Yn wir mae Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Mudiad, Tegwen Morris wedi ymgyrchu’n galed yn rhinwedd ei swydd i sicrhau cefnogaeth gref i’r dysgwyr mewn sawl ffordd wahanol. Erbyn heddiw ceir cyfleoedd diddiwedd trwy’r mudiad i ddysgwyr, ac mae croeso i unrhyw un ymuno â changen neu glwb.

wawr3.jpg  
"Rydym fel mudiad yn cynorthwyo yn helaeth ar draws Cymru gyda digwyddiadau, gweithgareddau ac mae nifer fawr o’n haelodau yn athrawon Cymraeg i Oedolion. Mae pob aelod o glwb neu gangen yn barod i gynorthwyo ac i helpu dysgwyr ac mae aelodau newydd yn cael eu croesawu bob amser,” meddai.

"Mae Gŵyl Haf a Chyfarfod Blynyddol Merched y Wawr a gynhelir ym Machynlleth erbyn hyn yn cynnwys eitemau cystadleuol cenedlaethol yn benodol ar gyfer y dysgwyr. Cystadlaethau megis creu dyddiadur, llunio poster a sgyrsiau ar gyfer y radio. Mae’r cystadlaethau yma’n boblogaidd iawn a theimlwn fel mudiad fod y dysgwyr yn magu hyder yn y Gymraeg drwy gychwyn cystadlu,” ychwanegodd.
wawr4.jpg
 
Erbyn heddiw mae cylchgrawn chwarterol y mudiad ar werth yn ein siopau Cymraeg, ond os ydych yn aelod mae pedwar copi o’r "Wawr" yn cael ei ddosbarthu i chi yn flynyddol. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae’r "Wawr" wedi datblygu’n gylchgrawn llawn lliw ac mae tudalen arbennig wedi ei neilltuo ar gyfer y dysgwyr ym mhob un rhifyn.

Yn rhinwedd eu swyddi mae swyddogion datblygu’r mudiad yn cydweithio â dysgwyr i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau’n rhanbarthol ac yn genedlaethol, a’r bwriad hefyd yn y dyfodol yw cynnal rhyw fath o Sadyrnau Siarad. Gall y rhain helpu dysgwyr i fagu hyder wrth siarad Cymraeg yn gyhoeddus ac yn anffurfiol.

"Fel rhan o ddigwyddiadau’r Mudiad fe gynhelir gweithgareddau fel Gyrfa Chwilod yn Sir Drefaldwyn a theithiau cerdded ar draws y wlad. Mae hyn yn gyfle gwych i ddysgwyr o bob safon gael siarad Cymraeg mewn awyrgylch naturiol,” meddai Tegwen Morris.

wawr5.jpg   
Gyda phawb yn edrych ymlaen erbyn hyn at Eisteddfod Genedlaethol 2009 a fydd yn cael ei gynnal yn Y Bala, mae Merched y Wawr hefyd yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

"Mae gennym stondin flynyddol ym Mhabell y Dysgwyr ac yn aml iawn y mudiad sydd yn cynnal rhai o’r gweithgareddau yn y babell honno. Bob blwyddyn mae Merched y Wawr yn cefnogi cystadleuaeth "Dysgwr y Flwyddyn” yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn rhoi rhodd i bawb sydd yn cyrraedd y rownd derfynol.  Mae hyn yn bwysig iawn er mwyn clodfori eu cyrhaeddiad a’u hannog i barhau gyda’r gwaith da,” ychwanegodd.
 
Cofiwch edrych ar ein gwefannau am fwy o fanylion

iidigwydd3.jpg