# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

andes2.jpg
 andes1.jpg
   Lluniau a lleisiau
Dros y misoedd yn arwain at Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 buon ni yma yn Ysgol Gymraeg yr Andes yn cydweithio ar brosiect aml gyfrwng gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i Oedolion, Caerdydd a Bro Morgannwg a’r Eisteddfod Genedlaethol i greu arddangosfa ar gyfer Maes D. Danfonon ni luniau a phytiau o wybodaeth am ein hardal, darnau o waith gan y rai sy’n dysgu Cymraeg yma yn y ddwy ysgol, (Esquel a Threvelin), recordiadau llais a ffilmiau cylch hen a chyfoes am y Wladfa. Roedd dysgwyr Canolfan Caerdydd wedi cyfrannu pethau tebyg o’u hardal nhw.

andes8.jpg
   Amser Cyffrous
Wrth gwrs rydyn ni wedi cael amser cyffrous yn ddiweddar yma yn ardal Godre’r Andes, gyda thân mawr ar y mynyddoedd rhwng Esquel a Threvelin a dau ffrwydrad folcanig. Roedd lluniau bendigedig a dynnwyd gan bobl leol o’r digwyddiadau hynny ymhlith lluniau’r arddangosfa. Fe welwch chi fwy o luniau o’r argyfwng yn yr erthygl ‘ Argyfwng! Chaitèn yn ffrwydro o’r newydd.’

andes6.jpg  
   Bywyd bob dydd
Wrth gwrs, dydy pethau ddim mor ddramatig yma trwy’r amser, felly fe ddanfonon ni hefyd luniau o fywyd bob dydd - cymdeithasu, bwyta, byd natur a ffermio - i roi darlun mwy cytbwys!.

   Camerâu gwe
Rhan arall o’r prosiect oedd cysylltiad camera gwe rhwng y Ganolfan yn Esquel a Phabell y Dysgwyr (Maes D). Ar ddydd Mercher, 6ed o Awst, am 10yb (2.00yp yng Nghymru) fe gawson ni siarad â’r rhai a oedd yn mynychu’r Cwrs Haf yng Nghaerdydd ar y pryd, a hefyd rhai o’n hardal ni a oedd yn ymweld â’r Maes y diwrnod hwnnw a aeth draw i Faes D er mwyn cael sgwrs â ni. Roedd yn braf iawn cael siarad â nhw i gyd.

Rydyn ni’n gobeithio’n fawr fod pobl Cymru wedi mwynhau gweld ein lluniau, clywed ein lleisiau a darllen amdanon ni. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen yn arw at dderbyn yr arddangosfa yma yn y Wladfa’n fuan. Fe fydd hi’n mynd i’r Eisteddfod yn Nhrelew (y Gaiman) ac wedyn yn dod yn ôl yma i Drevelin ac Esquel yn yr Andes i fod yn arddangosfa tymor hir.
andes7.jpg  

Yn y llun: Enrique Borda Green,

Jessica Jones, Glenda Powell a

Diana Jenkins, myfyrwyr o’r Andes

ar Gwrs Haf Caerdydd


Gill Stephen
Tiwtor
Ysgol Gymraeg yr Andes
Rivadavia 1065
Esquel 9200
Chubut
Patagonia

iidigwydd3.jpg