Dyfarnwyd y tlws eleni i Cennard Davies. Dyma’r hyn a ddarllenwyd amdano o lwyfan y Brifwyl yng Nghaerdydd eleni wrth i’r cwpan hardd gael ei gyflwyno gan Havard a Rhiannon Gregory:
Afraid dechrau cofnodi’i gyfraniad yn lleol, yn genedlaethol ac yn wir, yn rhyngwladol gan ei fod yn wybyddus i bawb – ac nid oes galw ar ei gyfenw. Yn y saithdegau, roedd enw Cennard yn cyffroi ymdeimlad o falchder a gobaith ymhlith athrawon ail iaith. Roedd ei enw a’i waith arloesol yn y Barri, yn y Poli fel y’i gelwid ac yna ym Mhrifysgol Morgannwg yn gyfystyr â llwyddiant. Roedd yn ddrych i do o athrawon ifanc o’r hyn oedd yn bosibl ei gyflawni gyda gwerin gwlad. Nid cyd-ddigwyddiad mo’r ffaith mai Pontypridd, ble bu Cennard wrthi’n gweithio, fu canolbwynt/epicentre y twf syfrdanol yn addysg Gymraeg y tri degawd diwethaf hyn. Bu wrthi’n arwain, yn ymgyrchu ac yn gweithredu.
Er ei fod yn feddyliwr praff am agweddau athronyddol methodoleg caffael iaith, bu’n barod iawn i dorchi’i lewys boed mewn dosbarth, wrth gyflenwi munud olaf neu’n hyfforddi cyd-diwtoriaid – ac yn wir y mae’n dal i wneud.
Bu ei gyhoeddiadau’n help mawr pan oedd adnoddau’n brin. Roeddynt yn gynnyrch y cyfuniad delfrydol hwnnw sef dychymyg byw a defnyddioldeb ymarferol. Yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi dechrau cyhoeddi eto – fe luniodd y pecyn gweithgareddau iaith Llwybrau Llafar, y mae modd ei lawrlwytho o’r we, ar gyfer dysgwyr fydd yn ymweld â Sain Ffagan ac yntau hefyd sy’n gyfrifol am adnawdd newydd y BBC, ‘Gwrando’n Astud’. Y newyddion da yw bod dau gyhoeddiad arall ar y gweill.
Erbyn hyn bydd ei eiriau’n cael eu dyfynnu ar gyrsiau hyfforddi:
"Ni ddysgodd neb Gymraeg mewn ystafell ddosbarth yn unig”
Dyma un o’i negeseuon pwysig i diwtoriaid ifanc. Dyma gred addysgwr ymroddedig, a dreuliodd oes yn yr ystafell ddosbarth ond un a gredai mai cymuned a chymdeithas sydd yn y pen draw yn ffurfio iaith ac yn ffurfio pobl.