# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
triathlon.jpg  

      Cefnogi prosiect
      Menter Iaith
      Patagonia ac Urdd
      Gobaith Cymru

Wrth feddwl am ffyrdd o godi arian byddai’r rhan fwyaf ohonom yn penderfynu cynnal noson goffi neu daith gerdded noddedig, hynny yw rhywbeth hamddenol ar y cyfan. Ond pan glywodd y tiwtor Ceri Jones o Hwlffordd, Sir Benfro am y trafodaethau oedd ar y gweill rhwng Menter Iaith Patagonia ac Urdd Gobaith Cymru ynglŷn â’r prosiect o anfon pobl ifanc i dderbyn hyfforddiant a phrofiad gwaith trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghymru, aeth ati i gystadlu mewn triathlon er mwyn codi arian i gefnogi’r fenter.

Cafodd ffrwydrad llosgfynydd Chaitèn yn Chile ar ddydd Gwener, Mai 2il 2008, effaith anffodus iawn ar ddarpariaeth gwersi a gweithgareddau Cymraeg yn ardal yr Andes. Cafodd yr ysgolion i gyd eu cau am gyfnod gan gynnwys yr ysgolion Cymraeg yn Esquel a Threvelin felly roedd hi bellach yn bwysicath fyth i geisio gweithredu’r prosiect hwn cyn gynted â phosib. Aethpwyd ati i roi’r trefniadau ymarferol yn eu lle ar frys a chyda chynnig pendant gan yr Urdd yr unig her oedd dod o hyd i gost y tocynnau awyren.

Bob blwyddyn mae Ceri yn diwtor ar gwrs dysgu Cymraeg yn Llundain ac yn ceisio gwneud rhywbeth i godi arian at achosion Cymraeg yn ystod yr amser hynny. Darllenodd am y prosiect yn y wasg a phenderfynodd y byddai’r nawdd y tro hwn yn mynd at gefnogi’r prosiect hwnnw. Llwyddodd i godi dros £200 wrth gystadlu mewn triathlon.

Cafodd Ysgol Gymraeg yr Andes a Menter Iaith Patagonia eu hysbrydoli gan y rhodd hael hon ac o ganlyniad rhoddwyd apêl yn y wasg ac ar radio a theledu Cymru. Daeth llif o gyfraniadau o Gymru ac mae’r ddau fudiad wrth eu boddau’n cyhoeddi bod digon o arian wedi cyrraedd erbyn hyn i fedru danfon dau berson eleni. Mae un newydd gychwyn gydag un arall i ddilyn yn fuan.

Yr un cyntaf i gyrraedd bydd Laura Niklitschek (23 oed) o Drevelin. Fe fydd hi’n aros am 6 mis yng Nghanolfan Preswyl Awyr Agored yr Urdd yn Llangrannog.
triathlon2.jpg  
"Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y profiad o gael gweld Cymru, dysgu mwy am ei diwylliant ac wrth gwrs y cyfle i ddefnyddio a gwella fy Nghymraeg,” meddai Laura.

Mae Laura wedi bod yn mynychu gwersi Cymraeg yn Ysgol Gymraeg yr Andes ers dwy flynedd bellach ac fe fydd yn parhau i ddysgu ar gyrsiau Cymraeg i Oedolion Canolfan Canolbarth Cymru yng Ngheredigion yn ystod ei arhosiad.

iidigwydd3.jpg