# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
2tiwtor_side.jpg
Mae dros ugain o staff Canolfan Mileniwm Cymru yn dysgu Cymraeg, a mwy wedi cofrestru i ddysgu pan fydd y gwersi yn ail ddechrau ddiwedd Medi. Mae’r dysgwyr wrth eu boddau yn cael defnyddio eu geirfa newydd wrth groesawu cynulleidfa Gymraeg i’r Ganolfan. Mae’r gwersi wythnosol yn llawn hwyl, a choffi a chlonc bob dydd Mercher yn gyfle gwych i siaradwyr rhugl a dysgwyr ddod ynghyd. Bob wythnos, mae rhai o weithwyr y Cyngor, Opera Cenedlaethol Cymru, y Cynulliad a’r Ganolfan yn dod ynghyd i drafod y byd a’i bethau a mwynhau capuccino gorau’r Bae yn Bar One, yn y Ganolfan!

    Cafodd nifer o ddysgwyr y Ganolfan brofiad gwych yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni ar gaeau Pontcanna. Cael cyfle i drochi go iawn, yn y glaw ac yn y Gymraeg! Hefyd, bu dau aelod o staff yn rhan o gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Yr ydym wedi cael ambell seren yn ein gwersi Cymraeg ni hefyd e.e. daeth Glyn o Big Brother atom yn fuan ar ôl gadael y Tŷ gyda Magi Dodd o C2 Radio Cymru. Fe welwch yn y llun fod Aled Jones hefyd wedi picio mewn i’n dosbarth ni ddechrau’r flwyddyn! Ef oedd seren y Sioe fawreddog, Chitty Chitty Bang Bang, a fwynhawyd yn Theatr Donald Gordon gan dros 85,000 o bobl dros yr haf.
    Yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni - roeddem wedi trefnu perfformiadau byw ar y Maes a lawr yn y Ganolfan yn ddyddiol. Artistiaid Dan y Pared gan fwyaf, sef gigs am ddim amser cinio sydd yn cael eu cynnal yng nghyntedd y Ganolfan. Mae sesiynau Dan y Pared yn dod â’r gorau o’r byd roc Cymraeg i gynulleidfa newydd, ac yn gyfle i’r cefnogwyr gael gweld eu hoff artist am ddim, dros ginio bach yn y Bae. Hyd yma, bu Gareth Bonello, Gwyneth Glyn, Meic Stevens, Steve Eaves, Al Lewis a llawer mwy yn perfformio yma o dan faner Dan y Pared.
    Mae amrywiaeth mawr o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yma yn y Ganolfan ar hyd y flwyddyn - ac yn cynnwys diwrnodau salsa, diwrnodau i’r teulu, syrcas, gweithdai syrcas, storïwyr, operâu, dawns fodern o bedwar ban byd, sioeau plant, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Dyma yw gwir hyfrydwch y Ganolfan - rhywbeth at ddant pawb.
    Mae tymor yr Hydref yn mynd i fod yn llawn dop - yn amrywio o syrcas ar ddechrau Medi i sioe gerdd Flashdance, tymor Opera Cenedlaethol Cymru a Jaleo Flamenco! I’r rhai ohonoch sy’n mwynhau comedïwyr - cawsom noson ddoniol iawn yng nghwmni Daniel Glyn a Gethin Thomas ddiwedd Gorffennaf, a dw i’n siwr y cawn eu denu nôl yma’n fuan iawn. Ond na hidiwch yn y cyfamser oherwydd bydd Steve Coogan a Rob Brydon yma yn ystod mis Tachwedd, felly digon o chwerthin yn ystod y Gaea’!
mil_2.jpg
    I’r rhai ohonoch sydd a â phlant ifanc, byddwch yn siomedig o glywed bod pob tocyn ar gyfer High School Musical, hefyd ym mis Tachwedd, wedi hen fynd! Mae mis Tachwedd yn mynd i fod yn fis cyffrous a phrysur iawn, a, heb os nac onibai, yr uchafbwyntiau fydd croesawu cymeriadau hoffus Llyfr Mawr y Plant yma ar y 4ydd o Dachwedd mewn sioe gerddorol (tocynnau ar werth NAWR!), a bydd un o sêr y sioe Last Choir Standing - Ysgol Glanaethwy - yma i ddathlu ei deunawfed pen-blwydd ar y 29ain. Pam na wnewch chi drefnu criw o ffrindiau a theulu i ddod draw am noson? Mae cynigion da ar gyfer grwpiau a gwestai, a cheir manylion ar ein gwefan www.yganolfan.org.uk
mil_3.jpg
    Nid sioeau yn unig sydd ar gael yma wrth gwrs....gellir cynnal cyfarfod neu gynhadledd yma. Gellir mynd ar daith tu ôl i’r llenni, mynd ar daith dechnegol, neu daith i ddysgu am bensaernïaeth arbennig yr adeilad. Gellir dod am baned a sgwrs neu dapas a gwin, neu hyd yn oed......briodi! Byddwn yn cynnal dawnsfeydd amser te hefyd, i’r to hŷn. I’r rhai nad ydynt ar eu pensiwn eto.....gig Neon Neon, prosiect newydd Gruff Rhys o’r Super Furries fydd yn eich denu chi, (Tachwedd yr 2il) neu Max Boyce!
   Yn olaf, pob lwc i chi yn y gystadleuaeth - mae’r sioe gerddorol Llyfr Mawr y Plant yn mynd i fod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn sicr. Dewch yn llu i fwynhau Will Cwac Cwac a’i ffrindiau yn fyw ar Lwyfan Mawreddog Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru. Cyfle da i ddysgwyr a Chymry Cymraeg weld ychydig o gyfoeth ein storïau cynnar.

Ydych chi’n gallu ateb y cwestiwn hollbwysig?

Beth yw enw’r stori am deulu o lwynogod yn Llyfr Mawr y Plant?
Ewch i adran ‘Cysylltu’ y Tiwtor i anfon eich ateb.
Galwch draw i’n gweld yn y Bae. Cofiwch - eich canolfan chi yw hi felly defnyddiwch hi!

dots.jpg
Elliw Iwan
Cydlynydd Iaith Gymraeg
Welsh Language Co-ordinator
Canolfan Mileniwm Cymru
Wales Millennium Centre
02920 636 453

iidigwydd3.jpg