# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
clecs.jpg
     Cynhadledd flynyddol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion

Bydd y gynhadledd eleni yn cael ei chynnal ar 7-8 Tachwedd yng Ngwesty’r Holiday Inn, Casnewydd. Mae dau siaradwr gwadd eisoes wedi’u cadarnhau, sef Jana Jilkova (IATEFL), sy’n mynd i gynnal sesiwn ar agweddau seicolegol dysgu a chofio, a Mike Sharwood Smith o Brifysgol Heriot Watt, Caeredin, a fydd yn cynnal sesiwn ar egwyddorion caffael iaith. Bydd yr amserlen derfynol a gwybodaeth ychwanegol ynghylch sut i gofrestru ar gael trwy’r Canolfannau Cymraeg i Oedolion yn fuan.
    Mae’r gynhadledd flynyddol yn gyfle gwych i rannu syniadau, ehangu gwybodaeth a chymdeithasu ag eraill o fewn y maes.

digwydd2.jpg

     Cystadleuaeth Nant Gwrtheyrn
nant1.jpg
Cafwyd ymateb da iawn i’r gystadleuaeth a gynhaliwyd yn y rhifyn diwethaf o’r Tiwtor. Bu cystadlu brwd i ennill penwythnos i ddau yn Nant Gwrtheyrn. Yr ateb i’r cwestiwn  'Beth oedd enw cariad Meinir?’
oedd Rhys wrth gwrs. Tynnwyd enw’r enillydd o het unigryw Gillian Elisa ym Maes D ar faes yr Eisteddfod ar 2 Awst, a’r enillydd yw Helen Hopkins o ardal Blaenpennal yng Ngheredigon. Llongyfarchiadau mawr iddi a gobeithio y caiff hwyl i fyny yn y Nant.

Cofiwch – yn y rhifyn hwn cewch gyfle i ennill pâr o docynnau i weld sioe Llyfr Mawr y Plant yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 4 Tachwedd!
digwydd2.jpg

     Eisteddfod 2008...

Shay Siwoku o Gaerdydd

yn derbyn ei dystysgrif Canolradd,

a Gillian Elisa yn arwain y seremoni.

gillian1.jpg gillian2.jpg  
Roedd Maes D dan ei sang ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod eleni. Mae’n debyg mai seremoni gwobrwyo CBAC oedd un o seremonïau mwyaf poblogaidd yr wythnos! Daeth dros 150 o ymgeiswyr ynghyd eleni i gasglu eu tystysgrifau, sef y nifer mwyaf erioed, a bu’n rhaid rhannu’r gwaith o gyflwyno’r tystysgrifau yn bedair shifft. Cafwyd seremoni hwylus iawn yn nwylo diogel a ffraeth Gillian Elisa.

Diolch i Mostyn Davies (CBAC) am y lluniau.

digwydd2.jpg

posterclecs.jpg  
Os ydy’ch dysgwyr am ymestyn eu cyhyrau yn ogystal â’u sgiliau iath, yna soniwch wrthynt am y Penwythnos Antur i Ddysgwyr Cymraeg.

Gweler y manylion isod:



digwydd2b.jpg

     Pwy yw Pwy?

Gan ein bod eisoes wedi cyfarfod â phrif swyddogion y canolfannau Cymraeg i Oedolion, dyma gipolwg sydyn ar y dewrion hynny sydd hefyd yn gweithio yn y maes, y tu ôl i’r llenni.

Tîm Cymraeg i Oedolion o fewn APADGOS

Mae’r tîm yn cynnwys:

1. Awen Penri, Siwan Gwyndaf (dros gyfnod mamolaeth Einir Kirkwood) a Rhodri Jones – tîm polisi

2. Liz Powell, Dyfan Evans – tîm comisiynu adnoddau

Mae prif gyfrifoldebau’r tîm yn cynnwys y canlynol:
•Datblygu Cymraeg i Oedolion ar lefel strategol a chenedlaethol, gyda’r nodau o ddatblygu’r ddarpariaeth, codi safonau a datblygu meysydd blaenoriaeth o fewn y maes
•Ariannu a rheoli gwaith y canolfannau Cymraeg i Oedolion
•Datblygu rhaglen hyfforddiant i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion
•Comisiynu adnoddau dysgu ac addysgu ar gyfer y maes
•Marchnata’r rhaglen Cymraeg i Oedolion ar lefel genedlaethol

     Proffil!

Enw: Awen Penri
Swydd: Uwch Reolwr Polisi Dysgu
Hoff ffilm: Gormod o ddewis, ond ymhlith y ffefrynnau mae Shawshank Redemption, Monsters Inc a’r Dyn Nath Ddwyn y Nadolig!!!
Hoff fwyd: Pickled Onion Monster Munch!!!!!
Fy ngobaith i ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion: Ennill £90 miliwn ar yr Euro Millions er mwyn gallu cynnal y maes am flynyddoedd i ddod!

Enw: Siwan Gwyndaf
Swydd: Uwch Reolwr Polisi Dysgu
Hoff ffilm: The Real Blonde
Hoff fwyd: Gormod o siocled o lawer!
Fy ngobaith i ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion: Bod yna alw cynyddol am y Gymraeg ac y bydd hynny’n golygu y bydd nifer y dysgwyr yn cyrraedd tipping point a’r norm fydd dysgu a gwella sgiliau Cymraeg…. a bod fy iaith i yn gwella’n ddigon da i mi wybod beth yw tipping point yn Gymraeg!

Enw: Rhodri Jones
Swydd: Rheolwr Polisi Dysgu
Hoff ffilm: The Goonies
Hoff fwyd: Unrhyw beth sydd wedi’i baratoi gan rywun arall!
Fy ngobaith i ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion: y bydd y maes yn parhau i dyfu dros y blynyddoedd i ddod.

Enw: Liz Powell
Swydd: Uwch Reolwr Comisiynu
Hoff ffilm: Mae’n amhosibl enwi dim ond un! Mae’r ffilmiau dw i wedi eu mwynhau yn ddiweddar yn cynnwys Brick Lane ac Everything is Illuminated.
Hoff fwyd: Mefus a mafon ffres o’r alotment
Fy ngobaith i ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion: adnoddau dysgu penigamp mewn sawl cyfrwng ar gyfer pob lefel a blas!

Enw: Dyfan Evans
Swydd: Rheolwr Comisiynu Ôl-16
Hoff ffilm: Best in Show
Hoff fwyd: Kit-Kat a chreision plaen - ar yr un pryd!
Fy ngobaith i ar gyfer y maes Cymraeg i Oedolion: Bod modd parhau i ddenu mwy a mwy o bobl i ddysgu'r iaith.

digwydd2.jpg
cystadleuaeth.jpg
cystad.jpg
Cofiwch gynnig ateb er mwyn cael cyfle i ennill pâr o docynnau i weld y sioe ‘Llyfr Mawr y Plant’ ar 4 Tachwedd, 2008 yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

Beth yw enw’r stori am deulu o lwynogod yn Llyfr Mawr y Plant?

Ewch i adran ‘Cysylltu’ y Tiwtor i anfon eich ateb, a hynny cyn 20 Hydref, 2008.

Pob lwc!

dots.jpg

Bydd rhifyn nesaf y Tiwtor yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr.

iidigwydd3.jpg