# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

dysgwrflwyddyn.jpg

Bu dathlu arbennig iawn ym maes dysgu Cymraeg i Oedolion yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni gan fod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn dathlu 25 mlynedd ers ei sefydlu, gyda hithau’n un o brif ddigwyddiadau’r Brifwyl ers 1990.

Cyrhaeddodd pedwar dysgwr penigamp y rownd derfynol gan wneud y gwaith beirniadu’n anodd iawn i’r beirniaid, sef Aled Davies, Sara Edwards a Siân Lloyd, a chawsant hwythau a’r cyhoedd gyfle i sgwrsio â’r ymgeiswyr ym Maes D. Bu’r uned honno’n brysur tu hwnt yn ystod yr wythnos ac mae’n debyg bod mwy na 35,000 o bobl wedi ymweld â hi!  

Y pedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd:    

2tiwtor_side.jpg  
1. Martin Baldry
dysgwr1.jpg

2tiwtor_side.jpg  
2. Jenny Henn
dysgwr2.jpg
2tiwtor_side.jpg  
3. Mike Evans
dysgwr3.jpg

2tiwtor_side.jpg  
4. Madison Tazu
dysgwr4.jpg
dysgwr5.jpg  
Bu Julie Macmillan, sef Dysgwr y Flwyddyn 2007, hefyd yn sgwrsio â’r ymgeiswyr ym Maes D.

Julie Macmillan a Madison
Tazu ym Maes D

(Llun gan Jaci Taylor)


Mewn noson ddifyr iawn yng Nghastell Caerdydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, cyhoeddodd Nia Parry mai Madison Tazu enillodd dlws Dysgwr y Flwyddyn 2008. Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg oedd wedi noddi’r tlws eleni ac mae’n briodol iawn nodi mai gyda’r ganolfan honno y bu Madison yn dysgu Cymraeg! Ein llongyfarchiadau gwresog iawn i Madison a’r ymgeiswyr eraill hefyd, a diolch iddynt am fod yn rhan o gystadleuaeth hollbwysig sy’n cyfrannu’n helaeth at y broses o godi proffil maes Cymraeg i Oedolion.
dysgwr6.jpg
 

Madison Tazu a Nia Parry
(Llun gan Jaci Taylor)

iidigwydd3.jpg