Bydd tref fechan Tregaron, yng Ngheredigion, yn fwrlwm gwyllt yn gynnar yn 2009 pan fydd yn coffáu 400 mlwyddiant marwolaeth Twm Siôn Cati. Dyma uchafbwynt ymgyrch gan un dyn i sicrhau y bydd cenedlaethau o blant, oedolion a dysgwyr yn parhau i drafod a chwerthin wrth gofio am anturiaethau’r cymeriad cynhenid Cymraeg hwn am flynyddoedd i ddod.
Roedd Twm yn byw yn Nhregaron rhwng 1530 a 1609. Mae nifer o straeon am y cymeriad lliwgar hwn ac mae Cymdeithas Twm Siôn Cati wedi’i sefydlu i drefnu gweithgareddau i ddathlu’r 400 mlwyddiant.
Mae Dafydd Wyn Morgan, Cydlynydd Cymdeithas Twm Siôn Cati yn gobeithio bydd y dathliadau yn gyfle i ddod â phawb ynghyd, yn Gymry Cymraeg a Dysgwyr, ac y bydd y rhaglen o weithgareddau yn sbardun i weithgareddau cymdeithasol ac economaidd pellach.
Mae’r gweithgareddau sydd ar y gweill yn cynnwys creu a gwerthu nifer gyfyngedig o Deganau Twm, (gweler isod) llunio cerflun pren, a threfnu perfformiad cymunedol, arddangosfa gelf, taith gerdded, taith feiciau, taith ferlota ynghyd â llu o weithgareddau diddorol eraill.
"Oes, mae gen i obsesiwn â Twm Siôn Cati ac rwy’n credu ei fod yn bwysig i ni ddathlu ein hanes a’n treftadaeth,” meddai Dafydd ac yntau’n gwisgo i fyny’n aml fel Twm Siôn Cati( gweler y llun).
"Mae cyfle gwych gennym i ddefnyddio’r 400 mlwyddiant i gyffroi’r meddwl a sicrhau bod hanesion un o arwyr enwocaf Cymru yn parhau am flynyddoedd i ddod,” dywedodd wrth fwyta Tarten Twm, sef tarten sydd wedi’i chreu yn lleol o gynhwysion lleol.
Bydd y tegan ( gweler y llun) yn gyfle i farchnata Twm a’r holl straeon amdano yn
chwarae triciau yn Nhregaron a Llanymddyfri a’r gobaith yw y bydd yna aduniad
o 400 o ddolïau clwt ar y bryn tu ôl i Dregaron yn Haf 2009.
Mi fydd yr holl ddigwyddiadau yn dechrau ar Fai 17eg 2009, union 400 mlynedd i’r dyddiad sydd ar ewyllys Twm. Os am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dafydd Wyn Morgan, Tanybryn, Heol Dewi, Tregaron neu ffoniwch 01974 298150. Hefyd, ewch i www.twmsioncati.co.uk neu ebostiwch Twm ar 400@twmsioncati.co.uk
Twm Siôn Cati
yn cwrdd â’i ffrindiau
ger yr ogof yn
Rhandirmwyn.