Tiwtor:
Penbedw, Castell Nedd, Comodoro Rivadavia yn yr Ariannin, a Chaerdydd. Y llinyn sy’n cysylltu’r llefydd hynny yw taith teulu Walter Brooks.
Cafodd ei eni yn Nhalaith Chubut ond daw teulu ei nain (o ochr ei dad) o Benbedw a Chastell Nedd yn wreiddiol gan symud i Batagonia ym 1890. Fe briododd ei nain â Sais ym Mhatagonia felly Saesneg a Sbaeneg oedd ieithoedd yr aelwyd. Roedd gan Walter ddiddordeb mawr yn y Gymraeg o oedran cynnar iawn, ond wrth gwrs doedd e ddim yn medru siarad yr iaith ac roedd y dosbarthiadau Cymraeg agosaf, bryd hynny, bedair awr i ffwrdd yn Nyffryn y Camwy. Aeth i Brifysgol Buenos Aires a phan ddaeth yn ôl i Gomodoro ar wyliau un tro ym 1999 roedd Gwilym Roberts o Gymru yno’n rhoi gwersi Cymraeg am ddim. Dyma weddnewid ei fywyd a chafodd gyngor gan Gwilym i ddod i Lanbedr Pont Steffan i fynychu cwrs dwys. Yn dilyn hynny, yn y flwyddyn 2000, enillodd ysgoloriaeth i dreulio blwyddyn yng Nghaerdydd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg dan ofal Robert Owen Jones a mawr yw ei ddiolch i’r gŵr hwnnw am ei gefnogaeth frwd.
Gydag yntau dal ar hanner ei gwrs cyfieithu Saesneg–Sbaeneg ym Mhrifysgol Buenos Aires, rhaid oedd dychwelyd i’r ddinas honno a graddiodd yn 2001. Cafodd ei flas cyntaf fel tiwtor Cymraeg gyda Chymdeithas Gymraeg Buenos Aires yn fuan wedi hynny gan gynnal dosbarth Cymraeg yn wythnosol ar foreau Sadwrn o 10.00 tan 12.00. Roedd y diddordeb a ddangoswyd yn y Gymraeg yn anhygoel ac roedd rhai ffyddloniaid yn teithio bron i ddwy awr un ffordd er mwyn cyrraedd y gwersi Cymraeg!
Dychwelodd Walter i Gymru gyda’r bwriad o loywi ei iaith a gwneud gwaith ymchwil ar hanes ei deulu a’r Gymraeg yn gyffredinol ym Mhatagonia. Tua’r un adeg dechreuodd Robert Owen Jones, ym Mhrifysgol Caerdydd, ar waith ymchwil yn ymwneud â chymdeithaseg y Gymraeg ym Mhatagonia ac roedd arno angen cynorthwyydd oedd yn medru’r Sbaeneg a’r Gymraeg a dyna beth wnaeth Walter rhwng 2003 a 2007. Erbyn hyn, mae’r ymchwil wedi ei chasglu ac mae’r gwaith dadansoddi yn mynd yn ei flaen. Gobaith Walter yn awr yw parhau â’r gwaith a hefyd astudio’r wasg Gymraeg ym Mhatagonia er mwyn medru cwblhau doethuriaeth.
Mae’n hawdd gweld felly sut y mae ei gefndir wedi ei arwain at y gwaith o fod yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Fel arfer, mae’n cynnal dosbarthiadau dwys ac yn hoff iawn o arwain dechreuwyr ar eu camau cyntaf at y Gymraeg. Eleni hefyd bydd ganddo ddosbarth Pellach. Ef oedd un o diwtoriaid Madison Tazu, sef dysgwr y flwyddyn eleni, ac fe gafodd bleser mawr wrth ddysgu’r dosbarth hwnnw bob bore am dri mis. Roedd Carl Morris yn yr un dosbarth ac mae’n debyg y cafwyd tipyn o hwyl a chwerthin! Dywed fod ganddo gyfrifoldeb, fel tiwtor, i ymestyn gorwelion diwylliannol ac ieithyddol ei ddysgwyr ac mae’n mwynhau ail-fyw’r broses o ddysgu iaith gyda’i ddosbarthiadau.
Mae’r Gymraeg erbyn hyn yn rhan annatod o’i fywyd gydag yntau hefyd yn darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg i is-raddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n briod â Geraldine Lublin, sef merch o Buenos Aires, ac mae hithau hefyd wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn ddarlithydd Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe, gan baratoi modiwlau cyfrwng Cymraeg!
Un o bleserau mawr ei yrfa fel tiwtor hyd yn hyn oedd gweld un o’i ddysgwyr cyntaf yn canu gyda Chôr y Gleision ar faes yr Eisteddfod eleni ac mae’n dweud wrth ei ddysgwyr yn gyson am fanteisio ar bob cyfle i ddysgu’r iaith yn anffurfiol. Ai dyna oedd y rhesymeg y tu ôl i’r gwersi Tango a gynigiwyd ganddo yn y Neuadd Ddawns yn yr Eisteddfod eleni, neu ai am ei fod hefyd, ymysg popeth arall, yn ddawnsiwr o fri?
Beth bynnag sy’n mynd â’i fryd, y Tango neu’r Tiwtora, gobeithio na wnaiff y llinyn hwnnw ymestyn nôl am y Wladfa am beth amser eto.