Wrth yrru adre ar ryw noson oer a thywyll ychydig o fisoedd yn ôl bu bron i mi gael damwain car. Roeddwn i’n gwrando ar raglen C2 ar Radio Cymru ac ymhlith y lleisiau cyfarwydd megis Fflur Dafydd, Sibrydion a Genod Droog daeth cân ffres, wreiddiol, swnllyd, gyda gitars trwm a llais yn gweiddi’n soniarus.
Yng nghanol yr holl ganeuon cyfoes yn sôn am brofiadau bywyd fel cariad, cwrw a phroblemau ieuenctid, roedd y canwr hwn yn gweiddi am sadyrnau siarad, cwrs Pasg a dysgu Cymraeg!
Wrth wrando yn ofalus a cheisio darganfod prif fyrdwn y gân, i ddechrau roeddwn i’n meddwl bod y canwr yn gofyn "Dych chi’n nabod Dewi Rhys-Jones?”. Ar ôl sbel roedd yn gwbl glir, roedd y canwr wir yn gofyn "Dych chi’n nabod Dewi Rhys-Jones?!”
Wel, yr ateb i’r cwestiwn yw "Ydw, dw i’n nabod Dewi Rhys-Jones”. Mae Dewi yn diwtor-drefnydd gyda Chanolfan y De Orllewin yn ardal Sir Benfro.
Ysgrifennwyd y gân gan Macky, aelod o grŵp Y Pennysows * o Aberdaugleddau ac mae’r gân wedi ei chwarae ar Radio Cymru a Radio Wales erbyn hyn. Mae Radio Cymru wedi rhoi sylw i’r Pennysows yn ei slot "Gwyliwch y Gofod” ac mae Radio Wales yn nodi’r grŵp yn y ‘Y 10 Uchaf’ o fandiau newydd yng Nghymru.
Mae Macky yn dysgu Cymraeg yn Sir Benfro a Dewi oedd ei diwtor yn ei flwyddyn gyntaf. Ysgrifennodd Macky y gân ar ôl un tymor yn unig yn y dosbarth ac erbyn hyn mae ei holl deulu nail ai yn siarad Cymraeg neu wrthi’n dysgu.
Ond nid Macky sy’n canu’r gân. Mae’r canwr yn ddi-Gymraeg (ar hyn o bryd!) ond yn rhoi cynnig go dda arni.
A beth yw ymateb Dewi i’w enwogrwydd sydyn yn y byd canu roc? Mae e’n hynod falch o weld un o’i ddysgwyr ym mynd ati i ddefnyddio’r hyn mae’n ei ddysgu i fod yn greadigol mor gynnar ar ôl dechrau dysgu. Mae cân Macky yn dangos beth sy’n bosibl o fewn cyn lleied o amser yn y maes Cymraeg i Oedolion.
Chris Reynolds
*Pennysow – gair Sir Benfro am fochyn coed.