# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008

adnoddau.jpg


llawlyfr.jpg  
      Llawlyfr Gloywi Iaith

Ar faes yr Eisteddfod eleni lansiwyd y Llawlyfr Gloywi Iaith gan Ganolfan Bedwyr ym mhabell Prifysgol Bangor. Yn y llun gwelir Dr Llion Jones, cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, yn cyflwyno’r llawlyfr adeg y lansio.

Dywedodd:
‘Dyma lawlyfr syml, hwylus a defnyddiol sy’n cynnig arweiniad ar nifer o faterion ieithyddol sy’n creu anhawster wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Ei fwriad yw sicrhau bod unigolion yn gweld eu gafael ar y Gymraeg yn datblygu a’u hyder i’w defnyddio’n cryfhau.’

Yn sicr, gall y llawlyfr hwn fod yn gymorth mawr i ddysgwyr ar bob lefel. Mae’n cynnwys gwybodaeth am dreigladau, berfau, termau iaith a gwallau cyffredin. Ceir ynddo hefyd awgrymiadau ynghylch sut y gellid osgoi defnyddio ymadroddion Saesneg wrth ysgrifennu yn y Gymraeg. Adnodd gwerthfawr iawn i bawb sy’n llunio testun drwy gyfrwng y Gymraeg.


      Newyddion
      – Rhaglen Gomisiynu Adnoddau Cymraeg i Oedolion
cardiau.jpg    

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Panel Adnoddau Cymraeg i Oedolion APADGOS ddiwedd mis Mehefin, gyda chynrychiolwyr o bob un o’r Canolfannau a hefyd CBAC, BBC ac Acen.
Pwrpas y panel hwn yw cynnig argymhellion ar gyfer y rhaglen gomisiynu, trafod datblygiadau yn y maes, ac arolygu adnoddau wedi’u cyhoeddi.
Ymhlith yr adnoddau a gomisiynwyd/ariannwyd gan Uned Datblygu’r Gymraeg APADGOS yn ystod 2007-2008 (ar sail argymhellion y panel yn y gorffennol) yw’r projectau canlynol:

•  Cardiau Fflach CBAC 2 (cyhoeddwyd Gwanwyn 08)
•  Pecyn Adnoddau RhCA (ar lein)
•  Posteri a thaflenni APADGOS (wedi’u dosbarthu i’r Canolfannau)
•  Pecyn Amgueddfa Wlân Cymru, Drefach Felindre (ar y gweill - i’w gyhoeddi Gaeaf 08)
•  Pecyn ‘Perthyn’, Oriel 1, Amgueddfa Genedlaethol, Sain Ffagan (ar y gweill – i’w gyhoeddi Gaeaf 08)
•  Adnoddau Hyfedredd, CBAC (ar y gweill – i’w treialu)
•  DVD o glipiau ar gyfer Uwch a Hyfedredd (ar y gweill – i’w gyhoeddi gan Picardy yn gynnar yn 2009)
•  Ac, wrth gwrs, y cylchgrawn ar-lein Y Tiwtor

Derbyniwyd nifer fawr o syniadau ar gyfer adnoddau newydd gan ganolfannau ac unigolion, a phenderfynwyd ar dros 6 blaenoriaeth ar gyfer rownd gomisiynu 2008-09, gan gynnwys:

•  Cronfa ddata o adnoddau Cymraeg i Oedolion (mewn print ac ar y we) ar gyfer tiwtoriaid. Bydd y project hwn yn adeiladu ar y gronfa ddata o adnoddau dysgu Cymraeg yn yr ysgolion sydd eisoes ar y gweill.
•  Adnoddau dysgu Cymraeg i’r Teulu
•  Cardiau fflach bach i’w defnyddio gyda llyfrau cwrs/cardiau fflach CBAC
•  Rhagor o becynnau tebyg i Gamau Cymraeg/Llwybrau Llafar ar gyfer lleoliadau/sefydliadau eraill
•  Pecyn defnyddio llenyddiaeth i ddysgu Cymraeg
•  DVD o glipiau fideo Big Welsh Challenge y BBC

Darllenwch rifyn nesaf Y Tiwtor i gael mwy o newyddion am y projectau newydd uchod.

iidigwydd3.jpg