(Crynodeb a diweddariad o gyflwyniad a roddwyd adeg y Gynhadledd Genedlaethol i diwtoriaid yng Nghaerdydd ar Dachwedd 10fed, 2007.)
Mae’n siwr fod gennym ni i gyd syniadau gwahanol am Ddysgu Anffurfiol, a’r modd y mae’n mynd i fod o fudd i’n dysgwyr ni – efallai bod rhai ohonom o’r De eisiau gweld y ddarpariaeth Dysgu Anffurfiol fel modd o ymestyn oriau cyswllt ein dysgwyr â’r Gymraeg. Efallai bod rhai ohonom o’r Gogledd neu’r Gorllewin eisiau defnyddio’r dulliau fel modd o integreiddio dysgwyr yn well mewn cymunedau sydd yn parhau yn fwyafrifol Gymraeg. Gobeithio mai’r hyn y medrir ei wneud trwy gyfrwng cyflwyniad fel hwn yw sbarduno syniadau a dechrau meddwl am ffyrdd gwell o integreiddio Dysgu Anffurfiol i’n darpariaeth bob dydd, a’i fod yn dod yn rhan o’n gweledigaeth gyfansawdd ar gyfer Cymraeg i Oedolion, ac nid yn ystyriaeth eilradd i’r ddarpariaeth ffurfiol.
Ble ydyn ni’n dechrau, felly, wrth ystyried rôl Dysgu Anffurfiol yn natblygiad dysgwr wrth iddo/iddi groesi’r bont? Un o’r elfennau pwysicaf yr hoffwn ei bwysleisio yw na fedr y Canolfannau weithredu cynlluniau Dysgu Anffurfiol heb gymorth partneriaid – y Mentrau Iaith, Mudiad Ysgolion Meithrin, Merched Y Wawr, ein cymunedau Cymraeg, capeli, Clybiau Ffermwyr Ifanc ayyb. Mae’r berthynas rhwng y mudiadau hyn a’n Canolfannau yn hollbwysig, ac efallai ein bod wedi teulio gormod o amser yn gwneud ein pethau ein hunain i fedru gwerthfawrogi’r bartneriaeth yma.
Efallai y byddai’n well i ni ddechrau wrth ein traed, a sôn am y cynlluniau sydd gennym ar y gweill yn y Canolbarth, a’r hyn yr hoffem ei ddatblygu. Gallwn ni drafod rhinweddau a gwendidau’r cynlluniau gwahanol wrth i ni edrych ar bob un ohonynt, ac a ydyn nhw’n berthnasol i’ch sefyllfa chi, ble bynnag ry’ch chi’n dysgu neu’n gweithio.
Y cynllun mwyaf ry’n ni’n bwriadu ei weithredu yw’r cynlluniau Pontio:
Cynllun yw Pontio sydd yn caniatáu i ddysgwyr gael ychydig o amser yng nghwmni Cymry Cymraeg gwirfoddol ar ddiwedd gwers fel arfer, er mwyn ymarfer yr hyn maent eisoes wedi’i ddysgu yn y wers, neu i roi cyfle mwy byrfyfyr a naturiol i ennill hyder yn y sgiliau maent yn eu meithrin. Syniad gan CYD oedd y cynllun yn wreiddiol. Mae ‘na gynlluniau o hyd yn bodoli yng Ngheredigion, a’n gobaith ni fel Canolfan yw cynnal chwe chynllun yn y Canolbarth. Clywir dysgwyr yn aml yn dweud nad ydyn nhw’n cael y cyfle i ymarfer eu Cymraeg yn fwy anffurfiol, a pha le gwell i’w dal nag ar ddiwedd gwers? Mae’r hyn maent wedi’i ddysgu yn fyw yn y cof, a gobeithio eu bod wedi’u hysbrydoli yn y wers hefyd. Mae tipyn o waith gweinyddol yn perthyn i gynllun Pontio, a’r rhan fwyaf o hyn yn cael ei wneud yn wirfoddol, megis trefnu rota o siaradwyr i ddod mewn yn achlysurol.
Yn fras, dyma gloriannu’r cynlluniau Pontio:
Rhinweddau
• Cael dysgwyr i ymarfer eu Cymraeg ac i ennyn hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg.
• Sicrhau bod Cymry Cymraeg yn dod i arfer â siarad â dysgwyr hefyd.
• Creu cyswllt rhwng y dosbarth a’r byd y tu allan i’r dosbarth.
Gwendidau
• y gwaith gweinyddol o drefnu rota yn dueddol o fod yn feichus. O bosib gall olygu bod cynifer â deg ar hugain o Gymry Cymraeg gennych i’w trefnu. Tipyn o waith ffonio a gofyn ffafrau. Dyma’r peth anoddaf o safbwynt y Cynllun Pontio, a rhywbeth rydyn ni wedi ceisio’i gydnabod.
• Efallai bod yna duedd i ddysgwyr weld y cynllun yn beth ffals, ac efallai nad oes gan y Cymry Cymraeg yr hyder i gynnal sgwrs estynedig â’r dysgwyr?
Un datblygiad sydd wedi bod i’r cynlluniau yn Aberystwyth yw’r ffaith fod yna Gôr i ddysgwyr wedi’i sefydlu fel canlyniad i gyrsiau Pontio’r dref, ac ystyriwn mai dyma’r ffordd y dylwn fod yn anelu ein gweithgareddau, sef cynnal rhywbeth sydd o ddiddordeb i ddysgwyr, a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae côr yn gyfrwng delfrydol ar gyfer hybu sgiliau a hyder dysgwr. Cewch gymysgedd o’r ffurfiol (y dysgu a’r darllen a’r canu), a’r anffurfiol (y cymysgu a’r cymdeithasu rhwng, ac ar ôl, y canu). Mae’r côr yn gymysgedd o ddysgwyr a siaradwyr rhugl – iaith y caneuon yw’r Gymraeg (sydd wrth gwrs yn ymarfer sgiliau darllen a geirfa pawb), a’r iaith wrth ymarfer yw’r Gymraeg hefyd. Mae’r aelodau yn cwrdd nid yn unig i ymarfer eu Cymraeg, ond hefyd i fwynhau cyd-ganu a chymdeithasu, a thybir mai fel hyn y dylen ni fod yn edrych ar ddatblygu’r cyrsiau Pontio.
Cymaint fu llwyddiant y côr fel ei fod wedi canu yn lansiad swyddogol y Ganolfan!
Gweithgareddau delfrydol eraill fyddai’r canlynol sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn mewn rhai ardaloedd:
• cyrsiau Ioga i ddysgwyr
• dosbarthiadau i greu basgedi helyg
• teithiau cerdded i ddysgwyr,
Gellir cydweithio â chlybiau cerdded a’r Mentrau Iaith i drefnu digwyddiadau tebyg. Gellir hefyd edrych ar ddatblygu lefelau sgiliau pobl wrth ymwneud â gweithgareddau megis cerdded h.y. cwblhau cynlluniau megis y Mountain Leader er mwyn medru tywys pobl dros fynyddoedd Cymru yn ddiogel?
Un elfen bwysig iawn o’r cyfleoedd anffurfiol yw cynnig digwyddiadau i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg rhugl gwrdd. Wrth roi strategaeth at ei gilydd, roeddem ni’n gweld bod angen i ni geisio cynnal nifer benodol o ddigwyddiadau fyddai’n annog pobl i gwrdd – ein bwriad i gychwyn oedd cynnal tri digwyddiad mawr, gyda siaradwr gwadd, grŵp neu rywbeth gyffelyb yn diddanu pobl. Ers hynny, rydyn ni wedi gweld bod yna fwy o fanteision i gynnal digwyddiadau rheolaidd sy’n cynnig dilyniant ac yn cadw pobl gyda’i gilydd. Penderfynwyd y byddem yn cadw at y bwriad gwreiddiol, ond y byddem hefyd yn edrych ar enghreifftiau o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal dros gyfnod – e.e. cwis wythnosol mewn tafarn neu neuadd bentref sydd yn targedu dysgwyr a siaradwyr rhugl, gyda’r bwriad o adeiladu perthynas rhwng ffyddloniaid sydd yn rhannu’r un diddordebau.
Un cynllun cyffrous iawn sydd gennym yw’r Cynllun Bro sydd yn gyfrifol am greu swydd mewn ardal benodol. Y llynedd, Bro Ddyfi oedd yr ardal hon, a phriod waith deiliad y swydd oedd ymgynnull yr holl gymdeithasau sydd yn gweithredu’n uniongyrchol, neu’n anuniongyrchol, o blaid y Gymraeg. Gellir sôn fan hyn am y Mentrau, Merched Y Wawr, Mudiad Ysgolion Meithrin, ond o bosib hefyd y cymdeithasau Cymraeg a’r capeli, a gellir tynnu’r rhain at ei gilydd i greu rhaglen sydd yn targedu dysgwyr, ac sydd yn gymysgedd o’r hyn a grybwyllwyd eisoes, sef digwyddiadau penodol, ffurfiol, a rhai mwy hir-dymor, parhaol. Mae’n her sicrhau bod dysgwyr yn ennyn hyder yn eu hiaith newydd, ac yn eu rôl newydd o fewn eu cymunedau. Serch hynny, mae’n her hefyd i godi hyder ac ymwybyddiaeth y Cymry Cymraeg o’u rôl hwythau yn y bartneriaith yma.
Yng Ngheredigion ers sawl blwyddyn bellach, mae’r Fenter leol a sawl unigolyn wedi bod yn cynnal yr hyn a elwir yn Bwerdai mewn cymunedau ledled y sir. Holl bwynt y Pwerdai yw annog pobl yng Ngheredigion i sylweddoli nad yw’r sefyllfa mor ddu ag y tybiant – mae cymdeithasau yn parhau i gwrdd (Clybiau Ffermwyr Ifanc, Merched Y Wawr), ac mae ‘na ddigwyddiadau yn parhau i ddigwydd. Mae’r ysgolion yn dal i fodoli ac yn creu siaradwyr rhugl. Mae’r Pwerdai yn annog pobl mewn cymunedau yng Ngheredigion i gymryd cyfrifoldeb dros sicrhau bod y gweithgarwch hwn yn parhau ac yn ffynnu.
Mae cymaint o weithgarwch naturiol Gymraeg yn digwydd yn ein pentrefi ac mae’n rhaid manteisio ar y rhain. Er enghraifft, ym mhentref Llangeitho ynghanol y sir, mae’r Cyngor Cymuned yn uniaith Gymraeg, mae yna WI (ond nid MYW), CffI, ysgol leol o 60 o blant, Côr (Cathod Ceitho!), Cymdeithas Treftadaeth Daniel Rowland, Pwyllgor Lles a Diwylliant a Phwyllgor y Neuadd.
Pwrpas y Pwerdai yw cynorthwyo cymunedau (gwledig, mae’n rhaid cyfaddef yn y cyswllt hwn, ond onid oes lle i weithio’r math hwn o gynllun wedi’i addasu mewn amgylchiadau gwahanol) i ymbweru, ac i ennyn hyder yn yr hyn maent yn ceisio ei wneud, ac yn yr hyn sydd wedi cael ei wneud. Mae yna nifer o ddigwyddiadau wedi deillio’n uniongyrchol o’r Pwerdai, gan gynnwys gigiau a chyngerddau, ond hefyd cynlluniau fel Gŵyl y Cyfarwydd, sydd yn dathlu storïau a storïwyr y sir – cafwyd fraint y diwrnod o’r blaen o glywed T. Llew Jones yn adrodd stori celwydd golau ar fideo, a’r gynulleidfa wedi’i swyno. A dyma’r maes olaf y byddwn ni’n sôn amdano sydd wedi deillio o’n strategaeth ni yn y Canolbarth, sef gweld yma mha ffordd y medrwn ni ddefnyddio cynlluniau arloesol fel y Pwerdai, a’u haddasu fel eu bod yn cynnwys y rheiny sydd yn dysgu’r Gymraeg hefyd.
Un her allweddol wrth feddwl am Ddysgu Anffurfiol yw sut y gellir denu diddordeb y Cymry Cymraeg i fod yn rhan o’r hafaliad yma. Ar hyn o bryd, yr hyn rydyn ni wedi ei wneud yw cynllunio i gynnal cyfres o sesiynau blasu mewn un ardal fel rhan o gynllun y Pwerdai – mae’r Pwerdai wedi’i neilltuo ar gyfer pedair ardal ar hyn o bryd yng Ngheredigion – ac yna holi’r bobl leol beth fu effaith y cynllun arnyn nhw, ac a ydy hwn wedi newid eu hagwedd tuag at ddysgwyr. Rydyn hefyd yn holi’r dysgwyr hynny sydd wedi cychwyn dysgu a ydynt yn cael eu hystyried yn wahanol am eu bod yn dysgu’r iaith, ac ym mha fodd y gallwn ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau partneriaeth dda rhwng dwy ochr yr hafaliad.
Mae yna nifer o gynlluniau eraill yr hoffwn fel Canolfan eu datblygu yn yr ardal, megis cynlluniau mentora fel y rhai sydd ar gael yng Nghatalwnia ar hyn o bryd, ac a weinyddir gan y Concorci per a la normalitzacio linguistica. Un syniad yw strwythuro cynllun mentora cymunedol ar draws Catalwnia, a chael pobl leol i ymgymryd â’r gwaith o fentora dysgwyr Catalaneg. Mae strwythur yn hollbwysig ar gyfer y sawl sydd yn rhan o’r cynllun. Rhaid i bob mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora ddilyn canllawiau pendant iawn o safbwynt y gwaith o fentora. Mae yna reolau ynghylch ble gallant gwrdd, am faint o amser y gallant wneud hynny, beth sydd yn cael ei drafod a.y.y.b. Anogir cyfarfodydd mewn llefydd cyhoeddus, neu mewn digwyddiadau cyhoeddus e.e. gêm rygbi / pêl-droed. Mae’n gynllun deg awr i ddechrau, gyda’r opsiwn o barhau wedi hynny. Mae yna dâl am yr hyn sydd yn cael ei wneud. Hynny yw, mae’r cynllun yn un proffesiynol, sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau ieithyddol dysgwyr yr iaith, a hyder a chyfrifoldeb dros yr iaith y rheiny sydd yn eu mentora. Ceisiodd y Mentrau yn Sir Gâr ddatblygu cynllun tebyg, ond efallai mai gweithred adweithiol oedd y cynllun hwn mewn ymateb i’r syniad a ddaeth oddi wrth y Concorci yng Nghatalwnia. Yn sicr, mae lle i’r math yma o weithgaredd strwythuredig yng Nghymru, gyda naill ochr y gweithgarwch yn derbyn budd o’r broses.
Fis Mawrth ac Ebrill y llynedd, aeth nifer ohonom o’r Canolfannau ar daith i Wlad y Basg i weld sut roedden nhw’n gweithio o safbwynt adfer yr iaith Fasgeg yno. Mae yna wahaniaethau pendant, nid y lleiaf yr hyn sydd yn cael ei wario ar yr iaith (tua €40m), ond un o’r pethau a’n trawodd fwyaf oedd pa mor uchel ar agenda yr iaith oedd dysgu anffurfiol, a chael y dysgwyr i drochi yn yr iaith. Cawsom gyfle i fynd i weld Menter Iaith yn gweithio o fewn tref (Lassarte-Orria, rhyw ddeg cilometr o Donostia). Fe’n syfrdanwyd gan y ffaith fod y Fenter hon yn cynhyrchu, ymysg pethau eraill, papur newyddion lleol oedd yn cael ei ddosbarthu i 7,500 o gartrefi yn y dref, a hynny ddwywaith yr wythnos. Roedd gan y Fenter far ynghanol y dref, a honno’n ganolbwynt i weithgaredd drwy gyfrwng yr iaith Fasgeg, ac yn ffynhonnell nawdd i’r Fenter hefyd, ac fe lusgwyd nifer ohonom gerfydd ein gwalltau yno un noson! Ond yr hyn oedd yn ein llonni fwyaf oedd bod rhywun yn cael y teimlad fod yr holl weithgarwch yma yn rhan integredig o adfer yr iaith, ac yn cymryd rhan rhagweithiol yn natblygiad yr iaith yn yr ardal.
Cynllun arall a dynnodd ein sylw yn sicr oedd y cynllun sydd yn gweithio yng Ngwlad y Basg – sef cynllun aros gyda theuluoedd Basgaidd. Mae’r cynllun hwn yn bodoli ers 1986, felly gallwn weld gymaint ar y blaen y mae gwledydd fel hyn ar fentrau tebyg. Mae’r myfyrwyr yn mynd at deuluoedd mewn ardaloedd gyda dros 70% o’r ardal yn siarad Basgeg, ac mae’r myfyriwr a’r teulu yn arwyddo contractau sydd yn gofyn iddynt sicrhau rhai pethau penodol wrth fynd i aros – rhaid bod yr arhosiad yn 1-2 fis o hyd, rhaid bod o leiaf tri pherson sy’n siarad Basgeg fod yn y tŷ, ac mae’r myfyriwr yn gorfod dod i ddealltwriaeth faint o waith y disgwylir iddo/iddi wneud yn ystod ei arhosiad. Dy’n ni ddim yn ymwybodol o’r math hwn o gynllun yng Nghymru, ond yn sicr mae’n rhywbeth y medrwn edrych arno fel cynllun i’w efelychu, efallai mewn cynlluniau peilot i gychwyn. Gellir dod i hyd i fwy o wybodaeth ar wefan y cynllun, sef www.egonaldiak.net.
Yn sicr, mae gennym dipyn o ffordd i fynd i efelychu yr hyn a wneir mewn gwledydd eraill i adfer eu hieithoedd, ond mae llawer iawn o enghreifftiau o waith da eisoes yn cael ei wneud. Gallwn lwyddo dim ond gyda chydweithrediad nifer helaeth o bartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol.
Byddai diddordeb gennym glywed oddi wrth unrhywun sydd â phrofiad o gynlluniau Cymraeg anffurfiol yn eu hardal nhw. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan un ai ar ebost, ar dfm@aber.ac.uk, neu drwy linell ffôn y Ganolfan, 088 876 6975.
Diolch yn fawr
Dafydd Morse