# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
arholpic2.jpg
Bu arholiadau Cymraeg i oedolion 2008 yn llwyddiannus a’r niferoedd ar y cyfan wedi cynyddu. Gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymgeiswyr a safodd yr arholiad Mynediad, gostyngiad bach ar lefel Sylfaen, a chynnydd ar lefelau Canolradd ac Uwch.

Dyma’r niferoedd:
Mynediad:    1,117
Sylfaen:         344
Canolradd:      229
Uwch:             61

Bu ymgeiswyr yn sefyll mewn lleoliadau ledled Cymru, a chynnydd mawr o ran ymgeiswyr mewn ardaloedd fel y Gogledd Ddwyrain (Coleg Glannau Dyfrdwy) a Chastell Nedd (Coleg Castell Nedd). Roedd ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad Mynediad yng Ngholeg City Lit, Llundain, a’r arholiad Sylfaen yng Ngholeg Cymunedol Lewisham yn Llundain. Yn ogystal, bu ymgeiswyr i’r arholiadau i gyd yn Y Wladfa.

Cofrestrir yr ymgeiswyr drwy’r canolfannau arholi (y canolfannau rhanbarthol). Dyma’r niferoedd a safodd yr arholiadau fesul rhanbarth:

arhol.jpg

Bu i 6 o ymgeiswyr sefyll unedau’r cymhwyster Hyfedredd, ac am y tro cyntaf, cafwyd rhai’n ceisio am yr unedau ar Grynhoi a Gwerthuso, yn ogystal â Chyfieithu a Thrawsieithu. Llwyddodd pob un o’r ymgeiswyr hynny.

Bydd adroddiad llawn ar yr arholiadau yn y Bwletin Arholiadau a gyhoeddir ar ddiwedd y flwyddyn.


     Newidiadau i’r Arholiadau Mynediad a Sylfaen

Yn 2009, bydd pawb yn sefyll yr un arholiadau Mynediad a Sylfaen. Dyma’r fersiynau peilot o’r arholiadau a safwyd yng nghanolfan y de orllewin eleni. Mae’r rhan berthnasol o’r fanyleb newydd i diwtoriaid ar gael ar wefan CBAC er mwyn cael manylion llawn. Dyma’r prif newidiadau:


M Y N E D I A D

Llafar
Mae pedair rhan i’r prawf llafar, yn lle tair:
i.  Deialog i’w darllen yn uchel (bydd hon ychydig yn fyrrach nag yn y gorffennol). [40]
ii.  Y cyfwelydd yn holi’r ymgeisydd. Bydd 8 cwestiwn, a dau o’r rhain yn gwestiynau ymestynnol. [80]
iii.  Y cyfwelydd yn holi 5 o gwestiynau 3ydd person am lun gyda sbardunau, (mae hon yn elfen newydd). [50]
iv.  Yr ymgeisydd yn holi 5 o gwestiynau i’r cyfwelydd fel o’r blaen, ond bydd y sbardunau ar daflen yr ymgeisydd. [50]

Does dim cyfnod paratoi, ond bydd yr ymgeisydd yn cael dwy funud cyn dechrau’r prawf, yn yr ystafell gyfweld i baratoi’r ddeialog.

Gwrando
i.  Gwrando ar ddeialog a chwestiynau aml-ddewis (fel yn y gorffennol). [40]
ii.  Bwletin tywydd. Rhaid gorffen brawddegau syml yn ymwneud â’r tywydd, ar sail yr wybodaeth sydd mewn bwletin syml. [20]
iii.  Amserau a phrisiau. Cyhoeddiadau am ddigwyddiadau yw’r rhain, ond rhaid i’r ymgeiswyr ganolbwyntio ar amserau dechrau a phrisiau’r digwyddiadau hynny yn unig. [20]

Darllen
i.  Yn lle’r prawf arwyddion, mae hysbysebion. Rhaid i’r ymgeiswyr gael hyd i atebion i gwestiynau syml am bris, lleoliad ac ati.  [20]
ii.  Llenwi grid ar sail deialog (fel yn y gorffennol). [20]
iii.  Llenwi bylchau (fel yn y gorffennol). [20]

Ysgrifennu
Mae dwy dasg i’w cwblhau, yn union fel ym mhapurau’r gorffennol.


S Y L F A E N

Llafar
i.  Cyflwyno pwnc (fel yn y gorffennol). [80]
ii.  Y cyfwelydd yn holi 5 cwestiwn i’r ymgeisydd (yn lle 10). [50]
iii.  Trafod tabl (elfen newydd - holi ac ateb cwestiynau am dabl gwybodaeth). [50]
iv.  Ymatebion caeedig (fel yn y gorffennol). [20]

Bydd cyfnod paratoi o 15 munud i’r ymgeiswyr yn yr ystafell aros.

Gwrando
i.  Negeseuon ffôn (yn debyg i’r gorffennol, ond mae’r fformat ymateb yn gofyn i’r ymgeiswyr adnabod tri phrif bwynt y neges, yn ogystal â’r anfonydd/derbynnydd). [24]
ii.  Eitem (monolog a chwestiynau aml-ddewis i’r ymgeisydd) [24]
iii.  Llenwi ffurflen ar sail deialog (fel yn y gorffennol). [32]

Darllen
i.  Erthygl (fel yn y gorffennol, ond rhoddir cwestiynau aml-ddewis i’r ymgeisydd). [20]
ii.  Does dim bwletin tywydd. Ceir Hysbysiadau, lle bydd rhaid i’r ymgeisydd chwilio am yr atebion i 5 cwestiwn. [20]
iii.  Llenwi bylchau (fel yn y gorffennol). [20]

Ysgrifennu
Mae dwy dasg i’w cwblhau, ond rhoddir mwy o strwythur i’r ail dasg (ysgrifennu yn y gorffennol) a’r ymgeiswyr yn seilio’r darn ar hybsyseb neu hysbysiad.

Emyr Davies

dots.jpg