Yn y llun fe welwn Madison yn derbyn y tlws
gan Nia Parry mewn noson arbennig yng Nghastell
Caerdydd, gyda’r beirniaid (Aled Davies, Sara
Edwards a Siân Lloyd) yn y cefndir.
Ysbrydolwyd Madison Tazu i ddysgu Cymraeg yn dilyn "argyfwng hunaniaeth” wrth deithio drwy Ddwyrain Ewrop. Dim ond ym mis Medi y llynedd y dechreuodd yr ofalwraig ran-amser 22 mlwydd oed ddysgu Cymraeg ond, oherwydd ei hagwedd benderfynol, mae ei sgiliau iaith wedi datblygu’n gyflym iawn. A chyn iddi feddwl ddwywaith, roedd hi wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth fawreddog Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Yn ystod yr haf bu Madison yn astudio’r Cwrs Uwch yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg ym Mhrifysgol Caerdydd gan gwblhau cwrs pedair wythnos ar y lefel flaenorol yn ystod hanner cyntaf y cwrs Haf.
Magwyd Madison ar fferm yng ngorllewin Cymru ond daw ei theulu o Iwerddon yn wreiddiol. Meddai: "Tra’r o’n i’n teithio nes i gwrdd â chymaint o bobl ddiddorol oedd â hunaniaeth ddiwylliannol wirioneddol gref ac achosodd hyn i mi gael ychydig o argyfwng hunaniaeth. Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn diwylliannau, ond gan ‘mod i’n gymysgedd o Wyddeles a Chymraes, ro’n i weithiau yn ansicr o bwy oeddwn i. Nes i benderfynu wrth deithio fod angen i mi gofleidio fy nghefndir Cymraeg a dysgu’r iaith.”
Cyfweliad gyda Madison Tazu
Pam roeddech chi wedi dechrau dysgu Cymraeg?
Penderfynais i ddysgu Cymraeg dair mlynedd yn ôl. Er fy mod i’n dod o ardal Gymraeg doedd dim diddordeb gyda fi i ddysgu’r iaith pan o’n i’n byw yna. Mewn gwirionedd symudais i i ffwrdd o’r ardal cyn gynted â phosib. Symudais i i Brighton pan o’n i’n 17 oed a wedyn es i deithio o gwmpas Dwyrain Ewrop. Cwrddais i â chymaint o bobl yn ystod y daith ond roedd yr un cwestiynau yn codi bob tro - cwestiynau yn gofyn o ba wlad rydw i’n dod a chwestiynau am y diwylliant a’r iaith sy’n cael ei siarad yno. Dechreuais i’r daith gyda llawer o ddiddordeb yn y byd a’r diwylliannau tu allan i Gymru, ond gorffennais i’r daith gyda mwy o ddiddordeb yn iaith a diwylliant Cymru, ac am y tro cyntaf erioed roeddwn i’n teimlo hiraeth am y wlad. Roeddwn i’n hoffi Cymru cyn i mi deithio ond pan ddes i nôl roeddwn i wedi syrthio mewn cariad â’r wlad a’r iaith.
Ydy’ch bywyd chi wedi newid mewn rhyw ffordd ar ôl dysgu Cymraeg?
Ar yr wyneb dydy fy mywyd ddim wedi newid llawer ond a dweud y gwir rydw i wedi ennill llawer o frwydrau personol - y tu mewn i mi. Y peth pwysicaf sy’ wedi newid ydy’r ffaith fy mod i’n gwybod fy mod yn gallu gwneud pethau. Rydw i’n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth sy’n bwysig i mi, rhywbeth sy’n agos at fy nghalon ac oherwydd hynny rydw i’n teimlo mwy fel rhan o Gymru.
A oes unrhywun yn arbennig wedi dylanwadu arnoch wrth i chi ddysgu Cymraeg?
Does dim un person arbennig wedi dylanwadu arna i. Mae pawb yn y dosbarth wedi effeithio arna i mewn rhyw ffordd wrth i mi ddysgu. Mae pob tiwtor wedi fy annog i wrth esbonio gramadeg mewn ffordd hwylus ac wrth fy helpu gyda gwaith llafar. Ond y peth sy wedi dylanwadu arna i, yn fwy na dim, ydy ysbryd Cymru a’i phobl. Dyna’r peth sy wedi fy nenu i at yr iaith – mae’r Cymry Cymraeg yn poeni am yr iaith, hanes a diwylliant.
A oeddech chi wedi mwynhau cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn? Pam?
Oeddwn, roedd y noson yn y castell yn fendigedig! Mae’n ardderchog i weld noson o’r math yma sy’n dangos cymaint o frwdfrydedd wrth gadarnhau dyfodol yr iaith. Mae balchder y Cymry Cymraeg yn enghraifft dda i weddill y byd. Mae’r Cymry Cymraeg yn deall bod yr iaith yn rhywbeth pwysig yn hanes y diwylliant ac maen nhw’n fodlon ymladd i gadw’r iaith yn fyw.
Beth yw eich gobeithion ar gyfer y dyfodol?
Y cam nesa ydy ceisio cadw’r Gymraeg sy gyda fi wrth i fi ddechrau dysgu Sbaeneg! Rydw i wedi symud yn ôl i Brighton i ddechrau cwrs Sbaeneg. Hefyd hoffwn i ddechrau rhyw fath o gymdeithas Gymraeg achos ar hyn o bryd does dim byd Cymraeg yn cael ei gynnal yn Brighton. Mae cynlluniau gyda fi i fynd i deithio yn Ne America ym mis Chwefror. Bydda i’n treulio ychydig o fisoedd ym Mhatagonia ac rydw i’n gobeithio gwneud gwaith gwirfoddol yn yr ysgol Gymraeg yno.