Lansiwyd Cymhwyster Cenedlaethol Tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn yr Eisteddfod eleni gan Carole Bradley, y Tiwtor Hŷn sy’n arbenigo mewn Hyfforddiant yng Nghanolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg.
Os ydych chi’n dysgu Cymraeg i Oedolion, neu’n dymuno gwneud hynny, gallwch yn awr dderbyn hyfforddiant a chymhwyster cydnabyddedig o dan y cynllun hir-ddisgwyliedig hwn.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dymuno i bob tiwtor ennill cymhwyster addysgu o fewn pedair blynedd i’w ddyddiad dechrau yn y swydd.
Bydd Cymhwyster Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion yn cael ei gynnig gan y chwe chanolfan Cymraeg i Oedolion fis Medi 2008.
Bydd y cwrs yn:
• 60 credyd
• rhan amser
• cynnwys ymarfer dysgu
• eich cymhwyso i ddysgu Cymraeg i Oedolion
• rhoi’r cyfle i chi fynd ymlaen i wneud TAR
• gofyn i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’ch Canolfan Cymraeg i Oedolion leol:
Caerdydd
029 20 874710
canolfan@cf.ac.uk
Canolbarth Cymru
01970 622236
welshforadults@aber.ac.uk
De-Orllewin Cymru
01792 602070
cymraegioedolion@abe rtawe.ac.uk
Gogledd Cymru
01248 393928
learncymraeg@bangor.ac.uk
Gwent
01495 333710
welsh@coleggwent.ac.uk
Morgannwg
01443 483600
welsh@glam.ac.uk