# Cylchgrawn ar-lein i diwtoriaid
Cymraeg i oedolion

Rhifyn 3 Hydref 2008
argyfwng1.jpg

argyfwng2.jpg  
Wel, dyma ni - helbul eto. Fel ‘dych chi i gyd yn gwybod mae llosgfynydd Chaitèn wedi bod wrthi’n chwydu llwch a mwg ers mis Mai eleni. Yn ystod yr amser hwn cawson ni ar ddeall gan yr awdurdodau yma yn yr Andes y gallai tri pheth ddigwydd. Gallai’r llosgfynydd:

• barhau i ryddhau mwg a llwch gan dawelu wedyn
• ffrwydro gan ryddhau lafa poeth  
• fewnffrwydro ac achosi daeargryn sylweddol.

Mewn gwirionedd, roedd yr awdurdodau yn meddwl bod yna bosibilrwydd mawr iddo fewnffrwydro. Roedd hynny’n  achosi peth pryder yn yr ardal yma oherwydd pe byddai daeargryn sylweddol yn digwydd, gallai hwnnw rwygo argae San Martín uwchben Trevelin. Mae yna waith hydro-electrig mawr yno a chronfa ddŵr enfawr fyddai’n llifo lawr drwy’r cwm fel canlyniad. Gan fy mod yn gweithio yn Nhrevelin ar ddyddiau Mawrth a Iau roedd hynny ar fy meddwl ryw fymryn rhaid cyfaddef!
    Ond roedd y cymylau hyll hynny o lwch a lludw wedi mynd yn fwy ysbeidiol yn ystod y mis diwethaf a dyma fi’n dweud wrth rywun mewn e-bost y diwrnod o’r blaen, "Erbyn hyn dwi yn bersonol yn meddwl taw pwdu a chwyrnu a chwythu llwch am ychydig eto cyn tawelu bydd e.  Gobeithio mod i ddim yn temtio ffawd wrth ddweud hynny!”
argyfwng3.jpg
    A dyna’n union beth ddigwyddodd wrth gwrs! Dydd Mawrth oedd hi, rai wythnosau yn ôl, pan aeth hi’n ddu fel bola buwch tua 2.00yp unwaith eto a dyma Chaitèn yn fy mhrofi’n hollol anghywir trwy ffrwydro eto, ddwywaith, a danfon cwmwl mawr o lwch newydd dros yr ardal i gyd. Cafwyd tua 100 o ddaeargrynfeydd bach yn sgil y ffrwydrad dros y ddeuddydd nesaf. A ble o’n i ar y pryd?  Ie, yn Nhrevelin!  

Bu rhai o bobl yr ardal yn tynnu lluniau gwych o’r holl beth ac maen nhw’n werth eu gweld.  

Tan tro nesa.

Gill

(Gyda diolch arbennig
i Jeremy Wood a
Juan Castro am
eu lluniau nhw.)

iidigwydd3.jpg